Cynorthwyo parhad gofal a dirprwyo diogel
- Cynorthwyo parhad gofal a dirprwyo diogel
- Cydsyniad a chyfrinachedd
- Gofalu am eich llesiant eich hun
- Cyfathrebu fel myfyriwr meddygol
- Cymryd rhan mewn asesiadau, polisïau, a gweithdrefnau
Mae cefnogi parhad gofal yn faes allweddol o newid yn Arfer meddygol da ac mae wedi cael ei wella i gydnabod yr her o ddarparu parhad gofal mewn systemau gofal iechyd sydd dan bwysau. Rydym hefyd wedi adlewyrchu’r newid hwn yn Cyflawni arfer meddygol da.
- Mae parhad gofal yn bwysig i bob claf, ond yn enwedig i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dilyn eu llwybr gofal iechyd eu hunain neu eiriol drostyn nhw eu hunain. Mae parhad yn arbennig o bwysig pan fydd gofal yn cael ei rannu rhwng timau, rhwng gwahanol aelodau o’r un tîm, neu pan fydd cleifion yn cael eu trosglwyddo rhwng darparwyr gofal. (Paragraff 59)
- I gyfrannu at barhad gofal, rhaid i feddygon cofrestredig wneud y canlynol:
- rhannu’r holl wybodaeth berthnasol am gleifion gyda phobl eraill sy’n ymwneud â’u gofal, o fewn ac ar draws timau yn ôl y gofyn
- rhannu gwybodaeth â chleifion am ddatblygiad eu gofal, pwy sy'n gyfrifol am ba agwedd ar eu gofal, ac enw'r clinigydd arweiniol neu'r tîm sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am eu gofal
- bod yn hyderus bod yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofal parhaus wedi cael ei rhannu cyn iddyn nhw fynd oddi ar ddyletswydd, dirprwyo’r gofal, neu gyfeirio'r claf at ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol arall
- sicrhau, pan fo hynny’n ymarferol, bod tîm neu glinigydd penodol wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb pan fydd eu rôl yng ngofal claf wedi dod i ben. (Paragraff 60)
Mae paragraff wedi'i ychwanegu i egluro dyletswyddau meddygon o ran dirprwyo diogel. Ac mae gwybodaeth newydd ar gael os gofynnir i chi gwblhau tasg nad ydych yn siŵr ohoni.
- Os bydd cydweithiwr yn dirprwyo tasg i feddyg ond nad yw’n teimlo’n hyderus ei fod yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau neu’r hyfforddiant i’w chyflawni yn ddiogel, rhaid iddo flaenoriaethu diogelwch y claf a cheisio cymorth, hyd yn oed os bydd eisoes wedi cytuno i gyflawni’r dasg yn annibynnol. Mae canllawiau manylach ar gael yn Dirprwyo ac atgyfeirio. (paragraff 62)
- Mae rhai amgylchiadau lle na ddylech chi fod yn cyflawni tasg:
- os yw’n anghyfarwydd i chi
- os nad ydych yn credu eich bod chi’n gymwys i’w chyflawni’n ddiogel
- os ydych chi’n teimlo nad oes gennych chi’r oruchwyliaeth na’r gefnogaeth briodol i gyflawni’r dasg
- os nad yw wedi cael ei chymeradwyo gan oruchwyliwr.
O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi beidio â chyflawni’r dasg a dylech chi roi gwybod i’ch goruchwyliwr neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, a rhoi gwybod i’ch ysgol feddygol cyn gynted â phosibl. (Paragraff 63).