Cyfathrebu fel myfyriwr meddygol
Rydym wedi cryfhau'r egwyddorion sy'n ymwneud â sut rydych chi'n cyfathrebu fel myfyriwr i adlewyrchu'r Arfer meddygol da diweddaraf a'n canllawiau Gwneud penderfyniadau a chydsynio Erbyn hyn, mae’r canllawiau’n dweud:
- Wrth gyfathrebu â chleifion, rhaid i chi wneud y canlynol:
- bod yn onest pan nad ydych chi’n gwybod rhywbeth. Fel myfyriwr, nid oes disgwyl i chi wybod yr atebion i'r holl gwestiynau sydd gan glaf, ond mae disgwyl i chi wrando arno a pharchu ei farn. Dylech chi wneud eich gorau i gael yr atebion eich hun i gwestiynau’r claf, neu drosglwyddo ymholiadau i rywun a fydd yn gallu helpu
- gwneud yn siŵr, cyn rhoi gwybodaeth i gleifion, eich bod chi wedi cytuno arni gyda'ch goruchwyliwr a bod yr wybodaeth yn glir, yn gywir, yn gyfredol, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael
- cymryd camau i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu’r claf a rhwystrau posibl eraill rhag cyfathrebu’n effeithiol (er enghraifft, poen neu bryder) er mwyn i chi allu ei gefnogi i gymryd rhan mewn deialog ystyrlon a gwneud penderfyniadau am ei ofal ar sail gwybodaeth. Dylech chi ofyn am gymorth i’ch helpu i gyfathrebu’n effeithiol os oes angen
- gwirio dealltwriaeth y claf o’r wybodaeth a roddwyd iddo, a gwneud eich gorau i wneud yn siŵr bod ganddo’r amser, y gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arno i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth os yw’n gallu gwneud hynny. Dylech chi ofyn am gymorth gan eich goruchwyliwr os oes angen
- ystyried ac ymateb i anghenion cleifion sydd â namau neu anableddau. Nid yw pob nam ac anabledd yn hawdd ei adnabod, felly dylech chi ofyn i gleifion pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw, a chynnig addasiadau rhesymol sy’n gymesur â’r amgylchiadau, gan chwilio am gyngor priodol os nad ydych chi'n siŵr.
- trin pob claf fel unigolyn. (paragraff 31)
Mae'r canllawiau hefyd yn adlewyrchu'r egwyddorion yn Arfer meddygol da o ran cyfathrebu â chydweithwyr, cleifion ac yn gyhoeddus sydd hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol:
- Rhaid i feddygon fod yn onest ac yn ddibynadwy, gan gynnal cyfrinachedd cleifion yn eu holl gyfathrebu ysgrifenedig, llafar a digidol gyda chleifion a chydweithwyr. Rhaid iddyn nhw egluro hyd a lled eu gwybodaeth a gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth maen nhw’n ei darparu yn gywir, nid yn ffug neu’n gamarweiniol. (paragraff 99)
- Wrth gyfathrebu’n gyhoeddus fel meddyg – gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu gwasanaethau, a hyrwyddo neu gymeradwyo unrhyw wasanaethau neu gynnyrch, rhaid iddyn nhw wneud y canlynol:
- dilyn y canllawiau yn yr adran flaenorol
- datgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau
- peidio â manteisio ar fregusrwydd neu ddiffyg gwybodaeth feddygol pobl
- sicrhau bod yr hyn maen nhw’n ei gyfathrebu yn cyd-fynd â’u dyletswydd i hyrwyddo a diogelu iechyd cleifion a’r cyhoedd.
- Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol. Gweler y canllawiau manylach Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel gweithiwr meddygol proffesiynol i gael rhagor o wybodaeth. (paragraff 100)
- Wrth gyfathrebu’n breifat, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau negeseua gwib, dylai meddygon gofio y gallai negeseuon neu gyfathrebu o fath arall mewn grwpiau preifat ddod yn gyhoeddus. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr meddygol, a dylech chi wneud yn siŵr eich bod ond yn ychwanegu cynnwys y byddech chi’n hapus i gynulleidfa ehangach ei weld. Rhaid i chi hefyd osgoi rhannu gwybodaeth gyfrinachol am gleifion drwy’r gwasanaethau hyn. (paragraff 103)