Cymryd rhan mewn asesiadau, polisïau, a gweithdrefnau

Rydym wedi ychwanegu paragraffau newydd yn Cyflawni arfer meddygol da am yr ymddygiad y disgwyliwn ei weld wrth gymryd rhan mewn asesiadau. Mae’n datgan:

  • Tra byddwch chi yn yr ysgol feddygol, bydd angen i chi basio sawl math o asesiad gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig a chlinigol, adroddiadau ac asesiadau yn y gweithle. Mae'r rhaglen asesu hon wedi'i chynllunio i sicrhau eich bod chi’n gymwys ac yn ddiogel i ymuno â'r proffesiwn pan fyddwch chi’n graddio. Felly, mae'n hanfodol i ddiogelwch cleifion fod canlyniadau asesiadau ac arholiadau yn fesur dilys a dibynadwy o'ch gallu. Rhaid i chi gymryd rhan lawn yn y broses asesu drwy sicrhau mai eich gwaith chi yw unrhyw waith ysgrifenedig rydych chi’n ei gyflwyno a thrwy beidio â cheisio twyllo neu gyflwyno gwaith pobl eraill fel eich gwaith eich hun mewn asesiadau clinigol neu asesiadau gwybodaeth. Rhaid i chi beidio â helpu cyd-fyfyrwyr i dwyllo drwy rannu cynnwys unrhyw arholiadau gyda nhw.

Rydym wedi cryfhau ein hegwyddorion ynghylch twyllo a llên-ladrad, gan ychwanegu gwybodaeth am rannu deunyddiau arholiad ac aildrefnu’r adrannau i gyfateb i Professional behaviours and fitness to practise: guidance for medical schools and their students (paragraff 111).

Mae’r Arfer meddygol da diweddaraf yn datgan bod yn rhaid i feddygon reoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy. Rydym wedi adlewyrchu hyn yn Cyflawni arfer meddygol da ac wedi tynnu sylw at sut mae hyn yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol.

  • Rhaid i feddygon cofrestredig wneud defnydd da o’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, a darparu’r gwasanaeth gorau posibl, gan ystyried eu cyfrifoldebau i gleifion a’r boblogaeth ehangach. Dylen nhw ddewis atebion cynaliadwy pan fyddan nhw’n gallu gwneud hynny, ar yr amod nad yw’r rhain yn peryglu safonau gofal, ac ystyried cefnogi mentrau i leihau effaith gofal iechyd ar yr amgylchedd . (paragraff 12)
  • Fel myfyriwr meddygol, erbyn diwedd eich astudiaethau dylech chi allu amlinellu egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy a defnyddio hyn yn eich ymarfer meddygol. Ewch i’n tudalen Cwestiynau ac Atebion ar Gynaliadwyedd (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth. Mae angen i benderfyniadau ar gynaliadwyedd sy’n cael eu gwneud gan fyfyrwyr gyd-fynd â pholisi'r ysgol feddygol a/neu'r amgylchedd clinigol lle rydych chi wedi eich lleoli. (paragraff 13)

Rydym hefyd wedi cynnwys yr egwyddorion wedi’u hailddrafftio ar gyfer meddygon ar reoli gwrthdaro rhwng buddiannau a chydweithredu â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol yn y canllawiau.

  • Meddygon:
    • rhaid iddyn nhw beidio â chaniatáu i unrhyw fuddiannau sydd ganddyn nhw effeithio ar y ffordd maen nhw’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn atgyfeirio cleifion, neu’n comisiynu gwasanaethau, neu gael eu gweld yn effeithio ar y pethau hyn.
    • os bydd gwrthdaro rhwng buddiannau, rhaid iddyn nhw fod yn agored amdano gyda chleifion a chyflogwyr, ei ddatgan yn unol â threfniadau lleol, a bod yn barod i eithrio eu hunain rhag gwneud penderfyniadau
    • rhaid iddyn nhw beidio â gofyn am, na derbyn, unrhyw daliadau cymhelliant, rhoddion neu letygarwch gan gleifion, cydweithiwr neu bobl eraill a allai effeithio neu gael eu gweld yn effeithio ar y ffordd maen nhw’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn cyfeirio neu’n comisiynu gwasanaethau i gleifion, neu gynnig cymhellion o’r fath i bobl eraill.
    • dylen nhw, lle bynnag y bo modd, osgoi darparu gofal meddygol iddyn nhw eu hunain neu i unrhyw un mae ganddyn nhw berthynas bersonol agos â nhw. Rhaid iddyn nhw geisio cyngor meddygol annibynnol ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd eu hunain.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol. (paragraff 104)

  • Er mwyn cynnal diogelwch cleifion, rhaid i feddygon gydweithredu ag ymchwiliadau ffurfiol, ymchwiliadau diogelwch cleifion, a gweithdrefnau cwyno. Rhaid iddyn nhw ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol a bod yn agored ac yn onest. Rhaid iddyn nhw hefyd ddweud wrth y GMC yn ddi-oed os ydyn nhw, yn unrhyw le yn y byd:
    • wedi derbyn rhybuddiad (neu rywbeth cyfatebol) gan awdurdod erlyn
    • wedi’u cyhuddo o drosedd yn bersonol neu drwy’r post
    • wedi’u cael yn euog o drosedd. (paragraff 105)