Gofalu am eich llesiant eich hun

Gall astudio ar gyfer gradd feddygol fod yn heriol, ac mae'n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun. Yn union fel rydym yn gofyn i feddygon ystyried eu llesiant wrth ofalu am gleifion, rydym hefyd yn gofyn i chi fyfyrio ar eich iechyd eich hun a sut y gallai effeithio ar eich astudiaethau.

  • Dylai meddygon cofrestredig geisio gofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, gan gydnabod efallai nad ydyn nhw’n addas i weithio. Dylen nhw geisio cyngor proffesiynol annibynnol am eu haddasrwydd i weithio, yn hytrach na dibynnu ar eu hasesiad eu hunain. Rhaid iddyn nhw ofyn am gymorth gan gydweithiwr priodol a dilyn ei gyngor am unrhyw newidiadau i’w hymarfer y mae’r cydweithiwr yn eu hystyried yn angenrheidiol, a rhaid iddyn nhw beidio â dibynnu ar eu hasesiad eu hunain o’r risg i gleifion. (paragraff 81)
  • Dylech chi feddwl am yr effaith y gallai eich iechyd ei chael ar eich gallu i astudio neu gyflawni asesiad. Yn union fel mae angen i feddygon mewn practis allu penderfynu a ydyn nhw’n ddigon iach i ofalu am eu cleifion, mae disgwyl i chi fel myfyriwr meddygol benderfynu a ydych chi’n ddigon da i ymgysylltu'n llawn â'r cwrs gan gynnwys asesiadau, gan fynegi hyn i’ch ysgol feddygol a cheisio cyngor meddygol annibynnol os yw hynny'n briodol. Bydd eich ysgol feddygol yn eich cefnogi i ddatblygu’r ymwybyddiaeth hon. (paragraff 83)

Rydym hefyd wedi ychwanegu egwyddorion newydd yn Cyflawni arfer meddygol da ar beth y dylech chi ei wneud mewn sefyllfa o argyfwng, neu os ydych chi’n teimlo bod claf yn peri risg i’ch diogelwch.

  • Fel myfyriwr meddygol, cyn helpu mewn argyfwng dylech chi ystyried eich diogelwch eich hun. Dylech chi ystyried a ydych chi’n gymwys i weithredu ac yn teimlo eich bod chi’n gallu cynnig cymorth, neu benderfynu a yw’n well ceisio cael cymorth i rywun sydd mewn trallod. (paragraff 40)
  • Os ydych chi, fel myfyriwr meddygol, yn teimlo bod claf yn peri risg i'ch iechyd a'ch diogelwch, dylech chi siarad â'ch goruchwyliwr cyn bod yn rhan o ofal y claf. (paragraff 42)