Creu gweithleoedd sy’n parchu, sy’n deg, ac sy’n dosturiol
- Grynodeb
- Creu gweithleoedd sy’n parchu, sy’n deg, ac sy’n dosturiol
- Helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu
- Trin cleifion yn deg
- Hyrwyddo gofal sy’n canolbwyntio ar y claf
Mae'r egwyddorion yn Arfer meddygol da wedi cael eu cryfhau er mwyn i feddygon 'helpu i greu diwylliant sy'n parchu, sy'n deg, sy'n gefnogol ac sy'n dosturiol drwy fodelu ymddygiad sy'n cyd-fynd â’r gwerthoedd hyn.' (nodir ym mharagraff 50 Cyflawni arfer meddygol da).
Mae Cyflawni arfer meddygol da yn esbonio sut mae hyn hefyd yn berthnasol i chi (ym mharagraff 51 a 52)
- Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud y canlynol:
- dangos parch a sensitifrwydd at brofiadau, diwylliannau a chredoau pobl eraill
- bod yn ymwybodol o sut y gall eich ymddygiad chi, ac ymddygiad pobl eraill, ddylanwadu ar bobl eraill yn y tîm a’r tu allan iddo.
- Dylech chi fod yn ymwybodol o’r risg o ragfarn, ac ystyried sut mae eich profiadau, eich diwylliant a'ch credoau bywyd yn dylanwadu ar sut rydych chi'n rhyngweithio â phobl eraill, a sut y gallai effeithio ar eich penderfyniadau a'ch gweithredoedd.
Mae'r diweddariadau i’r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i chi fod yn garedig ac yn gydweithredol wrth weithio gydag eraill, a nodi:
- Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud y canlynol:
- trin eich cydweithwyr â charedigrwydd, tosturi, cwrteisi a pharch. Mae hyn yn cynnwys eich cyd-fyfyrwyr, athrawon clinigol ac anghlinigol, y rhai sy'n gyfrifol am weinyddu eich cwrs, myfyrwyr gofal iechyd eraill, y clinigwyr a staff eraill rydych chi'n gweithio gyda nhw ar leoliadau clinigol. Byddwch chi hefyd yn dysgu gyda myfyrwyr o broffesiynau iechyd eraill, sy'n bwysig i'ch helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r rolau y mae gwahanol broffesiynau'n eu chwarae mewn tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol.
- cydweithio â'ch athrawon, hyfforddwyr, staff gweinyddol neu gefnogol a chyd-fyfyrwyr. Paragraff 48)