Helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu, ceir paragraffau cryfach sy’n nodi’n glir na ddylech ‘wahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail eu nodweddion personol am unrhyw reswm arall, na’u bwlio nac aflonyddu arnyn nhw’ (paragraff 53).

Hefyd, rhaid i chi ‘beidio ag ymddwyn mewn ffordd rywiol tuag at gydweithwyr gyda’r effaith neu’r diben o achosi tramgwydd, embaras, cywilydd neu ofid.’ (paragraff 54). Mae hyn yn berthnasol i sut rydych chi’n rhyngweithio â’ch cyd-fyfyrwyr, staff yr ysgol feddygol a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw ar leoliadau clinigol. Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol bod hyn yr un mor berthnasol mewn lleoliadau cymdeithasol yn ogystal ag mewn amgylcheddau dysgu.

Mae Cyflawni arfer meddygol da yn adlewyrchu’r egwyddorion cryfach i feddygon fod yn ‘rhaid iddyn nhw beidio ag ymddwyn mewn ffordd rywiol tuag at gleifion na defnyddio eu sefyllfa broffesiynol i fynd ar drywydd perthynas rywiol neu emosiynol amhriodol gyda chlaf neu rywun agos atyn nhw.’ (paragraff 96).

Mae’r canllawiau’n glir hefyd ‘os ydych chi’n dyst i unrhyw ymddygiad o’r fath, dylech weithredu: