Cydsyniad a chyfrinachedd

Rydym wedi ychwanegu paragraffau newydd ac wedi cryfhau gwybodaeth yn Cyflawni arfer meddygol da, sy’n canolbwyntio ar gydsyniad cleifion a chyfrinachedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dylech chi drafod â’ch goruchwyliwr a gwneud yn siŵr bod y claf wedi rhoi caniatâd cyn i chi gyflawni unrhyw driniaeth ymwthiol neu bersonol. (Paragraff 16)
  • Tra byddwch chi yn yr ysgol feddygol, byddwch chi’n dysgu bod gan bob claf yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am ei driniaeth a’i ofal, a chael ei gefnogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i benderfynu a yw claf wedi cydsynio neu a oes gennych chi awdurdod dilys arall cyn archwilio neu drin cleifion. Byddwch chi’n dysgu bod y broses gydsynio yn ymwneud â gwneud penderfyniadau ar y cyd rhwng y meddyg a’r claf, lle mae’r meddyg yn defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad arbenigol i helpu ei glaf i ystyried ei opsiynau a gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. (paragraff 32)
  • Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am gleifion, cydweithwyr neu bobl eraill mewn ffordd ddiogel, ac yn unol ag unrhyw ofynion cyfraith diogelu data, a rhaid i chi ddilyn ein canllawiau Cyfrinachedd: arfer da wrth ymdrin â gwybodaeth cleifion. (Paragraff 69).

Rydym hefyd wedi ychwanegu testun at baragraff 25 ynghylch siarad â goruchwyliwr os oes amheuaeth ynghylch torri cyfrinachedd.