Hyrwyddo gofal sy’n canolbwyntio ar y claf

Mae adran newydd wedi cael ei chynnwys yn Arfer meddygol da 2024 ar hyrwyddo gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, ac rydym wedi adlewyrchu hyn yn Cyflawni arfer meddygol da.

Mae hyn yn cynnwys diweddaru’r paragraff sy’n canolbwyntio ar gyfnewid gwybodaeth rhwng meddygon a chleifion. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar gleifion ac annog deialog agored am eu hiechyd (paragraff 29).

Ceir paragraffau newydd sydd hefyd yn tynnu sylw at gyfrifoldeb meddygon i gefnogi cleifion i ofalu amdanyn nhw eu hunain, a’ch rôl wrth gefnogi hyn fel myfyriwr meddygol.

  • Rhaid i feddygon gefnogi cleifion i ofalu amdanyn nhw eu hunain a’u grymuso i wella a chynnal eu hiechyd. Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi wneud y canlynol:
    • helpu cleifion i gael gafael ar wybodaeth a chymorth i reoli eu hiechyd yn llwyddiannus
    • eu helpu i wneud penderfyniadau sy’n gwella eu hiechyd a’u llesiant. (Paragraff 36)
  • Fel myfyriwr meddygol, rhaid i chi siarad â’ch goruchwyliwr ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon am glaf – neu rywun agos ato – a allai fod mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Gweler Sut i fynegi pryder ynghylch diogelwch claf i gael rhagor o wybodaeth am sut i fynegi pryder. (Paragraff 38)

Mae paragraffau newydd wedi cael eu hychwanegu hefyd i dynnu sylw at sut mae’n rhaid i feddygon a myfyrwyr meddygol weithredu i gadw cleifion yn ddiogel. Dyma’r paragraffau perthnasol:

  • Rhaid i feddygon ystyried anghenion a lles pobl (oedolion, plant a phobl ifanc) a allai fod yn agored i niwed, a chynnig cymorth iddyn nhw os ydyn nhw’n credu bod eu hawliau’n cael eu camddefnyddio neu eu hamddifadu. Mae canllawiau manylach ar gael yn: Amddiffyn plant a phobl ifanc a 0-18 oed: canllawiau i bob meddyg. (Paragraff 37)
  • Er mwyn helpu i gadw cleifion yn ddiogel, rhaid i feddygon wneud y canlynol:
    • cyfrannu at ymholiadau cyfrinachol
    • cyfrannu at gydnabod digwyddiadau niweidiol
    • rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol sy'n ymwneud â dyfeisiau meddygol (gan gynnwys meddalwedd, profion diagnostig, ac offer digidol) sy'n peryglu diogelwch claf neu berson arall, neu sydd â'r potensial i wneud hynny
    • cyfrannu at adolygiadau a/neu ymchwiliadau i ddigwyddiadau
    • rhoi gwybod am adweithiau niweidiol posibl i gyffuriau
    • ymateb i geisiadau gan sefydliadau sy’n monitro iechyd y cyhoedd.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i chi fel myfyriwr meddygol. (Paragraff 70).

  • Rhaid i feddygon weithredu yn ddi-oed os ydyn nhw’n credu bod diogelwch neu urddas claf mewn perygl difrifol, neu y gallai fod mewn perygl difrifol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu os nad yw claf yn cael gofal sylfaenol i ddiwallu ei anghenion, mynegi pryderon os yw cleifion mewn perygl, neu os oes gan y meddyg bryderon nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer. (Paragraff 71).