Trin cleifion yn deg
Mae paragraffau newydd wedi cael eu hailddrafftio neu eu cynnwys yn Cyflawni arfer meddygol da i adlewyrchu’r diweddariadau i Arfer meddygol da. Mae hyn yn cynnwys:
- Fel myfyriwr meddygol, byddwch chi’n dysgu sut i drin cleifion yn deg a pharchu eu hawliau. Felly, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cydnabod a pharchu urddas claf
- cydnabod hawl claf i ddewis a yw am dderbyn eich cyngor ai peidio, a pharchu ei hawl i ofyn am ail farn
- trin cleifion yn deg
- trin gwybodaeth am gleifion yn gyfrinachol
- bod yn glir gyda chleifion am y rôl y byddwch chi’n ei chwarae yn eu gofal (paragraff 15).
- Rhaid i feddygon drin cleifion yn deg, rhoi blaenoriaeth i gleifion ar sail eu hanghenion clinigol a pheidio â gwahaniaethu yn eu herbyn na chaniatáu i farn bersonol effeithio ar eu perthynas â’r claf, na’r driniaeth maen nhw’n ei darparu neu’n ei threfnu. Rhaid iddyn nhw beidio â gwrthod neu oedi triniaeth oherwydd eu bod yn credu bod gweithredoedd neu ddewisiadau claf wedi cyfrannu at ei gyflwr. (Paragraff 17)
- Rhaid i bob meddyg cofrestredig drin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch. Nid yw hyn yn golygu cytuno â phob cais neu beidio â rhannu gwybodaeth berthnasol a allai fod yn annymunol neu beri gofid. Mae’n golygu cyfathrebu’n sensitif ac yn ystyriol, gwrando ar gleifion, a cheisio peidio â gwneud rhagdybiaethau. (Paragraff 27)
- Fel myfyriwr meddygol, byddwch chi’n dysgu sut i drin cleifion gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch. Felly, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyfathrebu’n sensitif ac yn ystyriol bob amser
- gwrando ar safbwyntiau a phryderon cleifion ac ymateb iddyn nhw
- ceisio peidio â gwneud rhagdybiaethau
- cydnabod y gall cleifion fod yn agored i niwed
- cadw llygad am arwyddion o boen neu drallod. (Paragraff 28)