Dychwelyd i weithio
Rhaid i feddygon dan hyfforddiant gael cymorth priodol ynghylch dychwelyd i raglen yn dilyn egwyl o'u gwaith, gan gynnwys am resymau iechyd. Cydnabyddir bod cael amser i ffwrdd o hyfforddiant yn rhan normal a disgwyliedig o ddilyniant nifer o feddygon, am amrywiaeth o resymau gan gynnwys iechyd.
Mae gan Academi y Colegau Meddygol Brenhinol ganllawiau er mwyn Dychwelyd i Weithio, gan gynnwys cynllun gweithredu dychwelyd i weithio, trefnu polisi sefydliadol ynghylch dychwelyd a chwestiynau a chamau gweithredu a argymhellir er mwyn cynllunio am absenoldeb a dychweliad meddyg.
Yn ddiweddar, lansiodd GIG Lloegr raglen er mwyn cynorthwyo meddygon sy'n dychwelyd i hyfforddiant ar ôl cael amser i ffwrdd. Mae hyfforddiant dychwelyd gyda chymorth ar gael ar draws Lloegr ac mae'n cynnwys pethau fel cyrsiau carlam a diweddaru, goruchwyliaeth estynedig a gyda chymorth, mentora, a help wrth fanteisio ar gyfnodau ychwanegol. Gall meddygon dan hyfforddiant gysylltu â'u swyddfa GIG Lloegr yn uniongyrchol i drefnu cymorth er mwyn dychwelyd.
Panel 18:Adnoddau cynllunio gyrfa i feddygon a dychwelyd i weithio i feddygon dan hyfforddiant
Cynllunio gyrfa
- Gyrfaoedd BMA: Cyngor gyrfaoedd ar gyfer sawl cam yng ngyrfaoedd meddygon
- Gyrfaoedd BMJ: Detholiad o erthyglau am yrfaoedd meddygol
- Gyrfaoedd Iechyd: Gwybodaeth ynghylch bod yn feddyg, gan gynnwys cyfleoedd gyrfa, gwahanol rolau i feddygon, newid arbenigedd a dychwelyd i feddygaeth
- Y Gronfa Lles Meddygol Frenhinol: Mae adran iechyd a lles RMBF yn cynnwys erthyglau sy'n cynnig cyngor gyrfaoedd, gan gynnwys gyrfaoedd y tu allan i faes meddygaeth
- Rhwydwaith Cymorth i Feddygon: Gwybodaeth am gymorth proffesiynol a hyfforddiant i feddygon sydd â phryderon iechyd meddwl
- Llwyddiant Meddygol: Cyngor ynghylch gyrfaoedd amgen y tu allan i faes meddygaeth
- Bydd gan bob deoniaeth neu dîm lleol GIG Lloegr wybodaeth am gymorth gyrfaoedd ar eu gwefan.
Dychwelyd i weithio
Dyma’r bennod olaf yn Croesawu a gwerthfawrogi
Cliciwch isod i weld y penodau eraill, neu i gael mynediad at adnoddau.