Sut all sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig gyflawni eu dyletswyddau?

Cychwyn mewn swydd newydd – yn y Rhaglen Sylfaen ac ar ôl hynny  

Cysgodi ac ymsefydlu

Dylid cynnig darpariaeth ymsefydlu i feddyg sy'n cychwyn mewn swydd newydd.

Yn ogystal, rhaid i feddygon F1 newydd gael eu cynorthwyo gan gyfnod cysgodi cyn iddynt gychwyn yn eu swydd F1 gyntaf. Dylai hyn ddigwydd mor agos i'r pwynt cyflogaeth ag y bo modd, ac yn ddelfrydol, yn yr un lleoliad y bydd y myfyriwr meddygol yn dechrau gweithio ynddo fel meddyg.

Mae'r cyfnodau cysgodi ac ymsefydlu yn gyfleoedd i feddygon anabl arsylwi'r amgylchedd y byddant yn gweithio ynddo, gan ystyried pa help a chymorth y bydd ei angen arnynt yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Yn ogystal, mae'n gyfle i rannu gwybodaeth am eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd gyda chysylltiadau priodol.