Sut all sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig gyflawni eu dyletswyddau?

Strwythurau a systemau cyffredinol: beth mae da yn ei olygu?

Rhaid cynorthwyo meddygon anabl dan hyfforddiant i gymryd rhan mewn arfer clinigol a gweithgareddau addysgol.

Ar hyn o bryd, deoniaid ôl-raddedig sy'n meddu ar y cyfrifoldeb dros addysg a hyfforddiant meddygol ôl-raddedig. Mae'r berthynas hyfforddiant yn un gymhleth, gan bod y meddyg yn ddysgwr a chaiff y dysgu hwn ei oruchwylio gan y deon ôl-raddedig, a hefyd, maent yn feddyg sy'n gweithio ac mae gan y cyflogwr y cyfrifoldeb hwn.

Comisiynom waith ymchwiler mwyn deall yr hyn sy'n helpu i ddarparu cymorth llwyddiannus i feddygon dan hyfforddiant:

  • Meithrin diwylliant cadarnhaol ac agwedd 'gallaf wneud' tuag at anabledd
  • Cynorthwyo meddygon dan hyfforddiant i rannu gwybodaeth yn gynnar a meddu ar broses effeithiol er mwyn trosglwyddo gwybodaeth
  • Meddu ar brosesau clir a sefydledig er mwyn cynorthwyo meddygon dan hyfforddiant
  • Cyfathrebu effeithiol ar draws unigolion a sefydliadau sy'n cynorthwyo meddygon dan hyfforddiant
  • Cymorth unigoledig wedi'i deilwra
  • Cynnwys meddygon dan hyfforddiant mewn gweithgarwch penderfynu ar y cyd
  • Hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth: Addysgwyr ôl-raddedig, darparwyr addysg lleol a chyflogwyr yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth i'w staff fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o'r sialensiau i feddygon dan hyfforddiant sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anabledd.
  • Neilltuo adnoddau ariannol er mwyn cynorthwyo meddygon dan hyfforddiant sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ac anableddau.

Mae'r agweddauyr oedd meddygon wedi sôn wrthym eu bod wedi dod ar eu traws, yn adlewyrchu pwysigrwydd gweithredu'r elfennau arfer da:

'Dychwelais i'r hyfforddiant ar ôl cael diagnosis cyflwr gydol oes, sy'n effeithio ar fy swyddogaethau dyddiol sylfaenol, ac roedd fy ngoruchwylydd yn disgwyl y byddwn yn union yr un hyfforddai ag yr oeddwn cyn gadael – er fy mod wedi bod trwy brofiad a oedd wedi newid fy mywyd.'

Meddyg dan hyfforddiant

‘Bu'n rhaid i mi ymladd gyda'r ddeoniaeth er mwyn cael popeth. Yn ystod yr holl oriau yr wyf wedi'u treulio yn ysgrifennu negeseuon e-bost, yn ceisio cysylltu â phobl eto ac yn meddwl am hyn, gallwn fod wedi gwneud cymaint o bethau eraill ar gyfer fy ngyrfa, fy ngwaith ymchwil academaidd, a'm teulu.'

Meddyg dan hyfforddiant

'Roeddwn i ffwrdd o'r gwaith gydag iselder a gofynnwyd i mi a oeddwn yn defnyddio'r amser er mwyn astudio mwy ar gyfer fy arholiadau.'

Meddyg dan hyfforddiant

‘Cyrhaeddais yr ysbyty ac roedd disgwyl i mi wybod yn union pa addasiadau y byddai eu hangen arnaf heb gael unrhyw sgyrsiau, pan nad oeddwn i fyth wedi gweithio yno o'r blaen'

Meddyg dan hyfforddiant