Sut all sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig gyflawni eu dyletswyddau?

Symud trwy hyfforddiant

Safonau cymhwysedd

Caiff safon cymhwysedd ei diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel 'safon academaidd, safon meddygol neu safon arall a weithredir at ddibenion pennu a yw unigolyn yn meddu ar lefel benodol o ran cymhwystra neu allu'. Ym maes addysg feddygol ôl-raddedig, caiff safonau cymhwysedd eu cynnwys yng nghwricwlwm y Rhaglen Sylfaen ac mewn cwricwla arbenigol, fe'u cynhyrchir gan AoMRC neu golegau a chyfadrannau brenhinol meddygol, a'u cymeradwyo gan y GMC.

Dywedodd meddygon anabl wrthym bod un neu rai safonau cymhwysedd weithiau yn eu hatal rhag sicrhau cynnydd. O ganlyniad, bu'n rhaid iddynt newid gyrfaoedd neu adael meddygaeth yn gyfan gwbl.

Dylai colegau a chyfadrannau waredu neu ddiwygio unrhyw agweddau diangen o'r cwricwlwm, nad ydynt yn hanfodol er mwyn bodloni'r safon ofynnol, ac y gallent fod yn rhoi meddygon anabl dan anfantais.

Rydym yn grymuso colegau a chyfadrannau i wneud newidiadau o'r fath i'w cwricwla trwy ein safonau a'n gofynion ar gyfer cwricwla ôl-raddedig yn Rhagoriaeth trwy ddyluniad (CS2.3, CS5.1-2,CR5.3).

Bydd colegau a chyfadrannau yn diwygio eu cwricwla er mwyn disgrifio llai o ganlyniadau penodol arbenigol a generig a rennir ar lefel uchel. Yn ystod y cylch adolygu hwn, dylent ystyried a ydynt yn gallu cynorthwyo meddygon anabl dan hyfforddiant trwy waredu neu ddiwygio elfennau o'r cwricwlwm y maent bellach yn ddiangen.

Rydym yn rhoi cyngor ynghylch sut i wneud newidiadau cwricwlaidd er mwyn cynorthwyo meddygon anabl yn ein dogfen Canllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer cwricwla a systemau asesu.

Asesiadau

Mae Rhagoriaeth trwy ddyluniad yn cysylltu dyluniad cwricwlwm gydag asesiadau. Yn ogystal, mae gennym ganllawiau ynghylch Dylunio a chynnal rhaglenni asesu.

Rydym yn rhan o'r gweithgor dan arweiniad Academi y Colegau Brenhinol Meddygol (AoMRC) hefyd, a luniodd eu canllawiau ynghylch addasiadau rhesymol mewn asesiadau lle y mae cryn dipyn yn y fantol.

Gan ystyried Rhagoriaeth trwy ddyluniad ac arweiniad AoMRC gyda'i gilydd, mae'r prif bwyntiau i sefydliadau sy'n cynllunio asesiadau fel a ganlyn.

  • Ystyrir y canlyniadau dysgu a ddisgrifir mewn cwricwla ôl-raddedig fel safonau cymhwysedd at ddibenion Deddf Meddygol 1983. Diben unrhyw gymorth a weithredir yw helpu'r meddyg i gyflawni lefel y cymhwystra sy'n ofynnol gan y cwricwlwm – ac nid newid neu leihau'r safon sy'n ofynnol.
  • Rhaid i sefydliadau sy'n dylunio asesiadau, colegau a chyfadrannau brenhinol yn bennaf, benderfynu ar yr union safon sy'n cael ei phrofi trwy'r asesiad penodol. Bydd sefydliadau'n gwneud hyn trwy lasbrintio'r canlyniadau dysgu cwricwlaidd i'r asesiad. Rhaid penderfynu ar hyn cyn ystyried addasiadau rhesymol, oherwydd y bydd yn dylanwadu ar pa gydrannau o'r asesiadau y bydd modd gwneud addasiadau rhesymol iddynt.
  • Mae gan sefydliadau sy'n dylunio asesiadau ddyletswydd ddisgwylgar i ragweld anghenion ymgeiswyr anabl.
    • Nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt ragweld anghenion unigol pob ymgeisydd unigol.
    • Mae'n golygu bod yn rhaid iddynt ystyried sut y caiff yr asesiad ei ddylunio a'i gynnal, a sut y gallai effeithio ar ymgeiswyr anabl. Os bydd y ffordd y caiff yr asesiad ei ddylunio neu ei gyflawni yn peri rhwystrau i ymgeiswyr anabl, bydd angen i sefydliadau gymryd camau rhesymol a chymesur er mwyn eu goresgyn.
    • Gellir goresgyn rhwystrau trwy newid pethau yn yr amgylchedd ffisegol (ee lleoliadau hygyrch), neu ddarparu cymhorthion cynorthwyol (ee papur lliw) neu unrhyw beth arall am 'y ffordd y gwneir pethau' mewn perthynas â darparu asesiadau.
  • Dylai sefydliadau gynnig cyfle i ymgeiswyr ofyn am gymorth ac addasiadau rhesymol er mwyn cymryd yr asesiad, a chael dull er mwyn casglu'r ceisiadau hyn. Mae rhai sefydliadau o'r farn ei bod o gymorth cael polisi ynghylch y dystiolaeth y bydd ei hangen arnynt (ee adroddiad gan feddyg sy'n eu trin) er mwyn ystyried y cais, a dyddiad cau er mwyn cyflwyno ceisiadau.
  • Rhaid i sefydliadau ystyried pob cais, gan wneud penderfyniad fesul achos.
    • Gallai Panel 16 fod o gymorth wrth benderfynu ar yr hyn sy'n rhesymol wrth ystyried y ceisiadau. Mae'n arfer da i sefydliadau gadw llwybr archwilio o drafodaethau ac ystyriaethau cyn y gwnaethpwyd y penderfyniad.
    • Os gwrthodir cais, mae'n arfer da i'r sefydliad nodi rhesymau dros hyn.
    • Mae gwneud newidiadau i'r 'ffordd y gwneir pethau' yn fath o addasiad rhesymol. Gallai hyn gynnwys y coleg neu'r gyfadran yn ystyried a ellir caniatáu i ymgeisydd gael ymgeision ychwanegol, mewn achosion lle y rhoddwyd diagnosis anabledd neu pan gytunwyd ar yr addasiadau rhesymol priodol ar ôl i nifer o ymdrechion gael eu gwneud yn barod.
    • Dylai sefydliadau ystyried datblygu proses apêl, y byddai ymgeiswyr yn cael gwybod amdani.
  • Yn y pen draw, mae'r cwestiwn am yr hyn sy'n rhesymol yn benderfyniad i lys barn neu dribiwnlys a dylai sefydliadau ystyried ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol er mwyn eu cynorthwyo i wneud penderfyniad am ba addasiadau i'w darparu.
  • Rhaid i sefydliadau gynnig rhesymeg sy'n esbonio effaith yr asesiadau, gan gynnwys ar feddygon anabl.

Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP)

Nod ARCP yw barnu, ar sail tystiolaeth, a yw'r meddyg dan hyfforddiant yn sicrhau'r cymwyseddau gofynnol ar y raddfa briodol, a thrwy gyfrwng profiad priodol.* Bydd pob meddyg dan hyfforddiant yn cael ARCP a gynhelir o leiaf unwaith y flwyddyn fel arfer.

I feddygon anabl dan hyfforddiant, gall y gwaith paratoi a'r dystiolaeth a gyflwynir i ARCP fod yn gyfle i uwchgyfeirio trafodaethau blaenorol y maent wedi'u cael am:

  • y cymorth y maent yn ei gael er mwyn bodloni'r cymwyseddau gofynnol neu er mwyn sicrhau'rprofiad priodol yn y lleoliad clinigol
  • newid i hyfforddiant llai nag amser llawn neu o hyfforddiant llai nag amser llawn.
  • yr amgylchedd y maent yn hyfforddi ynddo – er enghraifft, a yw'n gefnogol, ac unrhyw bryderon ynghylch aflonyddu, bwlio neu ymddygiad sy'n tanseilio (gweler y Canllaw Aur 8fed rhifyn, paragraff4.66)
  • unrhyw bryderon sydd ganddynt efallai am effaith bosibl eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd ar eu harfer, eu cynnydd neu eu perfformiad.

Os yw panel ARCP yn trafod pryderon ynghylch cynnydd neu berfformiad y meddyg, gall aelodau'r panel ystyried hefyd a oes unrhyw faterion iechyd sylfaenol y mae angen i'r meddyg gael cymorth ychwanegol gyda nhw.

Mae proses ARCP yn ffordd o benderfynu hefyd a ellir cynorthwyo meddyg i fodloni'r safonau cymhwysedd yn ystod eu cam hyfforddiant. Bydd panel ARCP yn argymell un o blith yr wyth canlyniad. Gall y penderfyniad gael ei hysbysu gan farn ynghylch gwybodaeth, sgiliau, perfformiad (gan gynnwys ymddygiad), iechyd ac amgylchiadau unigol y meddyg. Ceir darpariaethau o fewn proses ARCP i wneud hyn, fel y disgrifir yn y Canllaw Aur (8fed rhifyn). Gellir cynnig hyfforddiant ychwanegol neu adferol i'r meddyg dan hyfforddiant er mwyn dangos eu bod yn gallu bodloni'r safonau cymhwysedd. Rhaid i'r deon ôl-raddedig gymeradwyo amser hyfforddiant ychwanegol eithriadol, a gellir ystyried hwn fel addasiad rhesymol posibl ar gyfer meddygon anabl (paragraff 4.99).

Adolygodd HEE broses ARCP yn 2017 gyda'r nod o sicrhau proses decach a mwy cyson i bob meddyg, a lluniodd ganllawiau byrion i'r broses ar gyfer meddygon dan hyfforddiant.