Sut all sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig gyflawni eu dyletswyddau?

Deall anghenion meddygon dan hyfforddiant

Mae'n gwaith ymchwil a'n cyngor arbenigol yn amlygu'r model rheoli achos fel arfer gorau er mwyn cynorthwyo anghenion meddygon dan hyfforddiant.

Caiff rheoli achos ei ddiffinio fel: 'Proses gydweithredol sy'n asesu, cynllunio, gweithredu, cydlynu, monitro a gwerthuso'r dewisiadau a'r gwasanaethau sy'n ofynnol er mwyn bodloni gwasanaethau iechyd a dynol […]. Fe'i nodweddir gan eiriolaeth, cyfathrebu, a rheoli adnoddau, ac mae'n hyrwyddo canlyniadau ac ymyriadau cost-effeithiol ac o ansawdd.’ Fel dull gweithredu, mae'n cynnwys elfennau tebyg i dimau amlddisgyblaethol ym meddygaeth.

Gall defnyddio'r llif proses hwnnw helpu i greu cynllun gweithredu er mwyn cynorthwyo pob meddyg anabl dan hyfforddiant.

Mae'r broses hon yn berthnasol i bob meddyg anabl yn ystod unrhyw gam o'u hyfforddiant. Gellir ystyried yr un dull gweithredu fesul cam er mwyn asesu meddygon dan hyfforddiant y mae ganddynt anghenion iechyd newydd neu sy'n esblygu.

Dylai pob meddyg dan hyfforddiant fod yn gallu manteisio ar gyngor iechyd galwedigaethol. Gall meddygon ddatblygu cyflwr neu anabledd ar unrhyw adeg yn ystod eu gyrfa. Os bydd gan feddyg dan hyfforddiant gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, efallai y bydd angen cyngor iechyd galwedigaethol arbenigol arnynt trwy feddyg iechyd galwedigaethol achrededig, er mwyn gwneud penderfyniadau am hyfforddiant a gwaith.

Gall y ddeoniaeth neu dimau lleol HEE gyda chyflogwyr y meddygon ddefnyddio ac addasu'r broses mewn ffordd briodol yn eu barn nhw, er enghraifft trwy ddefnyddio rhai o'r camau a gaiff eu cynnwys, gan ddibynnu ar fanylion penodol yr achos.

Map proses er mwyn cynorthwyo meddygon dan hyfforddiant

Mae'r broses hon yn cynnig trosolwg o'r hyn y gellir ei wneud; ni fydd pob cam yn briodol i bob meddyg dan hyfforddiant, ond gellir ei addasu i bob achos unigol yn unol â disgresiwn y ddeoniaeth ôl-raddedig / tîm lleol HEE a chyflogwr y meddyg. Dylai pob meddyg fod yn gallu manteisio ar gyngor iechyd galwedigaethol. Gall meddygon ddatblygu cyflwr neu anabledd ar unrhyw adeg yn ystod eu gyrfa. Os bydd gan feddyg gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, efallai y bydd angen cyngor iechyd galwedigaethol arbenigol arnynt trwy feddyg iechyd galwedigaethol achrededig, er mwyn gwneud penderfyniadau am hyfforddiant a gwaith.

Process map for supporting doctors in training

Cam 1: Rhannu gwybodaeth

Bydd meddygon dan hyfforddiant yn rhannu gwybodaeth am y ffordd y gallai eu cyflwr neu eu hanabledd effeithio ar eu gwaith gyda'u deoniaeth / tîm lleol HEE a'u cyflogwr. Ni fydd angen i'r meddyg dan hyfforddiant rannu natur eu cyflwr, gallant ganolbwyntio ar y ffordd y mae'n effeithio ar eu gwaith a pha gymorth neu addasiadau rhesymol y byddai eu hangen arnynt.

Cam 2: Deon ôl-raddedig fel porthgeidwad

Gall y deon ôl-raddedig neu'r cynrychiolydd a enwebir (e.e. deon cyswllt neu gyfarwyddwr ysgol sefydledig) drefnu'r camau nesaf er mwyn ystyried anghenion cymorth y meddyg dan hyfforddiant.

Cam 3: Ffurfio rhwydwaith cymorth

Gan ddibynnu ar y penderfyniad a wneir gan ddeon ôl-raddedig neu gynrychiolydd enwebedig, gallant ddwyn unigolion ynghyd i gynnig cyngor am y ffordd y gellir cynorthwyo'r meddyg dan hyfforddiant. Byddwn yn cyfeirio'r bobl dan sylw at 'rwydwaith cymorth' y meddyg. Gallai rhwydwaith cymorth y meddyg gynnwys:

  • meddyg iechyd galwedigaethol achrededig sy'n meddu ar brofiad presennol neu ddiweddar ym maes iechyd meddygon, o'r gwasanaethau iechyd galwedigaethol lle y lleolir y meddyg / lle bydd y meddyg yn cael eu lleoli
  • y ddeoniaeth neu dîm lleol HEE
  • yr ysgol sefydledig (os yw hynny'n berthnasol), er enghraifft trwy gyfarwyddwr yr ysgol sefydledig
  • cyfarwyddwr rhaglen hyfforddiant y meddyg
  • y cyfarwyddwr addysg feddygol neu gynrychiolydd enwebedig yn y darparwr addysg lleol lle y lleolir y meddyg neu lle y bydd y meddyg yn cael eu lleoli
  • goruchwylwyr clinigol ac addysgol penodedig y meddyg (gallai un unigolyn fod yn cyflawni'r ddau rôl hwn)
  • tîm Adnoddau Dynol cyflogwr y meddyg
  • yr Uned Cymorth Proffesiynol (os yw ar gael)
  • y swyddog cymorth anabledd (os yw ar gael).

Gellir gwahodd y meddyg dan hyfforddiant i rai o drafodaethau'r rhwydwaith cymorth. Mae'n arfer da cynnig dewis o ran rhai dyddiadau i'r meddyg dan hyfforddiant, a hefyd, y cyfle iddynt ddod â ffrind neu gynrychiolydd gyda nhw er mwyn cynnig cymorth.

Cam 4: Penderfynu ar brif gysylltiadau

Mae'n arfer da bod gan feddygon anabl brif gyswllt y gallant gysylltu â nhw am unrhyw beth sy'n ymwneud â'u cymorth. Gall y rhwydwaith cymorth neilltuo'r prif gyswllt(cysylltiadau) gyda mewnbwn gan y meddyg. Efallai y bydd yn ymarferol i'r prif gyswllt fod yn rhywun sy'n gweld y meddyg yn rheolaidd, megis eu goruchwylydd addysgol.

Cam 5: Trefniadau cyfrinachedd

Wrth drin gwybodaeth am unigolion, rhaid i sefydliadau wneud hynny mewn ffordd gyfreithlon. Rhaid i sefydliadau ddarparu deunydd i feddygon dan hyfforddiant am y ffordd y defnyddir eu gwybodaeth, a'u hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth honno. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na chaiff unrhyw wybodaeth a rennir gan y meddyg dan hyfforddiant ei chamddefnyddio. Yn ogystal, bydd yn rhoi hyder i feddygon dan hyfforddiant i ddarparu gwybodaeth o'r fath.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu arweiniad am yr hyn i'w gynnwys mewn gwybodaeth preifatrwydd, gan gynnwys rhestr gyfeirio (ym Mhanel A10 yr Atodiad). Weithiau, bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnig ymweliadau cynghori am ddim i sefydliadau er mwyn rhoi cyngor ymarferol iddynt ynghylch sut i wella'u harfer diogelu data.

Efallai y bydd sefydliad yn dymuno ystyried y canlynol wrth gasglu gwybodaeth gan feddygon dan hyfforddiant mewn perthynas â'u hiechyd..

  • Cadw llwybr archwilio clir o weithgarwch penderfynu er mwyn cynorthwyo meddygon anabl dan hyfforddiant gan bod hyn yn debygol o helpu sefydliadau i sicrhau eu bod wedi cymryd camau priodol i ddarparu addasiadau rhesymol.
  • Cadw cofnod o'r holl sgyrsiau rhwng y rhwydwaith cymorth a'r meddyg dan hyfforddiant. Mae'n arfer da cytuno ar y dull o gofnodi sgyrsiau o'r fath ac i'r meddyg dan hyfforddiant weld cofnod drafft o unrhyw drafodaethau.

Cam 6: Asesiad iechyd galwedigaethol

Efallai y bydd o gymorth i feddyg anabl dan hyfforddiant gael asesiad iechyd galwedigaethol. Gallai asesiad o ansawdd uchel fod yn werthfawr iawn wrth hysbysu'r cymorth ar gyfer y meddyg dan hyfforddiant. Mae'n arfer da:

  • Bod yr asesiadau'n cael eu cyflawni gan feddyg iechyd galwedigaethol achrededig, sy'n gallu dangos profiad cyfredol neu ddiweddar ym maes iechyd meddygon, a dealltwriaeth o'r gofynion ar gyfer meddygon dan hyfforddiant.
  • Bod yr asesiadau'n cael eu cyflawni yn ystod cyfarfod wyneb yn wyneb rhwng y meddyg iechyd galwedigaethol a'r meddyg.
  • Os bydd asiantaeth wedi cael ei chyflogi i ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol, eu bod yn darparu manylion ynghylch pa rai o'u staff fydd yn cynnal yr asesiadau. Efallai y bydd o gymorth i'r gwasanaeth gadarnhau mai un meddyg, neu nifer fach o feddygon sy'n bodloni'r meini prawf hynny, fydd y rhai a fydd yn darparu'r cyngor, at ddibenion dilyniant.

Gall y meddyg iechyd galwedigaethol gynnal asesiad annibynnol o anghenion y meddyg unigol, ac o ffyrdd o'u galluogi i sicrhau cynnydd trwy eu hyfforddiant. Bydd y meddyg iechyd galwedigaethol yn penderfynu a fydd angen iddynt gael barn arbenigwr annibynnol neu sefydliad arbenigol fel rhan o'u hasesiad. Yn ogystal, gall sefydliadau ystyried unrhyw geisiadau gan feddyg dan hyfforddiant am ail farn neu gyfeiriad at wasanaeth iechyd galwedigaethol arall.

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi arweiniad ynghylch cyflogi pobl anabl, sy'n cynnwys cyngor gan sefydliadau arbenigol am nifer o gyflyrau penodol megis cyflyrau iechyd meddwl, nam ar y clyw a'r golwg ac anableddau cudd (yn Adran 5 arweiniad y Llywodraeth).

Gall sefydliad ddefnyddio neu addasu'r ffurflenni sampl a geir yn atodiad y canllaw (paneli A8-A9) fel man cychwyn er mwyn gofyn am asesiad iechyd galwedigaethol ar gyfer meddyg dan hyfforddiant, ac ar gyfer adroddiadau iechyd galwedigaethol. Gall y rhwydwaith cymorth benderfynu a oes angen symud ymlaen i'r cam nesaf a galw cynhadledd achos neu gyfarfod ar y cyd, neu a ellir cytuno ar gynllun gweithredu yn syth (cam 8).

Cam 7: Cynhadledd achos / cyfarfod ar y cyd

Gall y rhwydwaith cymorth drafod yr argymhellion o'r asesiad iechyd galwedigaethol.

Bydd y trafodaethau'n rhai unigol i bob meddyg dan hyfforddiant, ond efallai y byddant yn cynnwys y canlynol yn fras:

  • Amlinelliad o gyflwr iechyd neu anabledd y meddyg – er mwyn helpu i ddeall yr effaith ar eu hyfforddiant a'u harfer.
  • Dod i benderfyniad ar y cyd am y cymorth i'w ddarparu er mwyn helpu'r meddyg i oresgyn unrhyw rwystrau yn eu hyfforddiant a'u harfer.
    • Os bydd gan y rhwydwaith cymorth unrhyw bryderon am ddichonolrwydd yr argymhellion yn yr adroddiad, efallai y byddant yn ystyried codi'r rhain gyda'r meddyg iechyd galwedigaethol a gwblhaodd yr asesiad.
    • Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig cyngor am ffactorau i'w cadw mewn cof wrth ystyried yr hyn sy'n rhesymol. Amlinellir y ffactorau hyn yn y panel isod.
  • Mae'n arfer gorau bod y rhwydwaith cymorth a'r meddyg dan hyfforddiant yn cydweithio er mwyn dod i benderfyniad rhesymol, cytbwys ac wedi'i seilio ar dystiolaeth.
    • Y meddyg dan hyfforddiant sydd yn y sefyllfa orau i esbonio sut y mae eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd yn effeithio arnynt o ddydd i ddydd..
    • Mae aelodau'r rhwydwaith cymorth yn arbenigwyr am agweddau addysgol a chyflogaeth ar fod yn feddyg dan hyfforddiant.

Gallai'r drafodaeth ystyried y gwahanol rannau o hyfforddiant ac arfer, gan gynnwys:

  • llety a thrafnidiaeth
  • cyfleusterau, mynediad ac offer
  • oriau gwaith a chynllunio rotâu
  • gweithdrefnau a thasgau
  • rhyngweithio gyda chydweithwyr a chleifion
  • goruchwyliaeth
  • absenoldeb
  • trefniadau gofal.

Gellir llunio cynllun gweithredu a fydd yn nodi sut y caiff y meddyg eu cynorthwyo o hyn ymlaen o'r trafodaethau.

Panel 16: Gellir llunio cynllun gweithredu a fydd yn nodi sut y caiff y meddyg eu cynorthwyo o hyn ymlaen o'r trafodaethau

Panel 16

Ar sail yr arweiniad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gall y rhwydwaith cymorth ofyn y cwestiynau canlynol. Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth, ond gall helpu gyda'r broses o wneud penderfyniad.

  • A ydym wedi ystyried yr achos hwn yn unigol, am y meddyg dan hyfforddiant penodol a'u hamgylchiadau unigryw nhw?
  • A ydym wedi ystyried trin y meddyg dan hyfforddiant yn well neu'n 'fwy ffafriol' na phobl nad ydynt yn anabl, fel rhan o'r datrysiad?
  • A yw'r addasiad(au) arfaethedig yn effeithiol wrth waredu neu leihau unrhyw anfantais y mae'r meddyg anabl dan hyfforddiant yn ei hwynebu? A ydym wedi ystyried newidiadau neu addasiadau eraill sy'n gallu cyfrannu?
  • Pa mor hawdd neu ymarferol yw'r addasiad hwn?
  • Faint mae'r addasiad hwn yn ei gostio? A ydym wedi ystyried ffynonellau cyllid eraill fel Mynediad i Waith?
  • A oes cyngor neu gymorth ar gael? A ydym wedi ystyried cael cyngor arbenigol er mwyn cynorthwyo gweithgarwch penderfynu cytbwys? A allem gysylltu â sefydliadau arbenigol?
  • A ydym yn credu y byddai'r addasiad hwn/addasiadau hyn yn cynyddu'r risgiau i iechyd a diogelwch unrhyw un (y meddyg, meddygon eraill, staff, cleifion ac ati)? Os ydym, a ydym wedi cynnal asesiad cywir ac wedi'i ddogfennu o'r risgiau posibl?

Panel 17: Rhagor o wybodaeth am Fynediad i Waith

Panel 17

Mae Mynediad i Waith yn gynllun gan y Llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, sy'n cynnig help i weithwyr gyda chyflyrau iechyd neu anableddau. Gall unrhyw weithiwr, gan gynnwys meddygon, gael help gan gynllun Mynediad i Waith, os oes ganddynt swydd neu os ydynt ar fin cychwyn mewn swydd. Ceir system debyg yng Ngogledd Iwerddon.

Cynigir cymorth i weithiwr ar sail eu hanghenion, a allai gynnwys grant er mwyn helpu i dalu costau cymorth ymarferol yn y gweithle.

Gall grant Mynediad i Waith dalu am eitemau neu wasanaethau y mae eu hangen ar y meddyg dan hyfforddiant, gan gynnwys:

  • addasiadau i offer
  • meddalwedd neu offer arbennig
  • addasiadau i gerbyd y meddyg fel eu bod yn gallu cyrraedd y gwaith
  • teithiau mewn tacsi i'r gwaith neu weithiwr cymorth os na all y meddyg ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • gwasanaeth cymorth os bydd gan y meddyg gyflwr iechyd meddwl – gallai hyn gynnwys cwnsela neu hyfforddiant swydd
  • hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd ar gyfer cydweithwyr meddyg
  • y gost o symud offer meddyg os byddant yn newid lleoliad neu swydd, sy'n rhan o hyfforddiant ym maes meddygaeth.

Yn ogystal, gall Mynediad i waith helpu i asesu a ellir bodloni anghenion meddyg wrth i'w cyflogwr wneud addasiadau rhesymol.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth ynghylch ymgeisio am gymorth Mynediad i Waith.

Cam 8: Cynllun gweithredu

Gweithredir y cynllun gweithredu a gaiff ei baratoi gan y rhwydwaith cymorth gan aelodau'r rhwydwaith a chyflogwr y meddyg.

Diben unrhyw gymorth a weithredir yw helpu'r meddyg dan hyfforddiant i sicrhau lefel y cymhwysedd sy'n ofynnol gan gwricwlwm y Rhaglen Sylfaen neu'r cwricwla arbenigol – ac nid newid neu leihau'r safon sy'n ofynnol.

Gallai'r cynllun gweithredu roi sylw i nifer o feysydd lle y gellir cynorthwyo'r meddyg dan hyfforddiant. Nodir rhai enghreifftiau isod. Nid yw'r rhain yn cynnwys popeth a bydd gan bob meddyg gynllun gweithredu sy'n gynllun unigol iddyn nhw.

Llety a thrafnidiaeth

  • Os yw'r meddyg yn byw mewn llety ysbyty: a wnaethpwyd addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch?
  • Sut mae'r meddyg yn teithio i'r gwaith? A wnaethpwyd addasiadau rhesymol er mwyn helpu gyda thrafnidiaeth (ee tacsis, lleoedd parcio)?

Cyfleusterau, mynediad ac offer

  • A yw'r safle a'r cyfleusterau yn hygyrch?
  • Pa offer, os o gwbl, y mae ei angen ar y meddyg er mwyn mynd o gwmpas y safle?
  • Pa offer arbenigol, os o gwbl, y mae ei angen ar y meddyg er mwyn gweithio?

Patrymau gwaith a chynllunio rotâu

  • A fyddai'r meddyg dan hyfforddiant yn cael budd gan drefniadau oriau gwaith?
  • A oes modd i'r cyflogwr wneud addasiadau i'r oriau gwaith (e.e. hyfforddiant llai nag amser llawn, llai o oriau neu oriau hyblyg, llai o ddyletswyddau ar-alwad yn ystod y dydd, yn ystod y nos neu ar benwythnosau)?
  • Gallai'r meddyg ystyried gweithio ar raddfa heb fod yn raddfa hyfforddiant am gyfnod dros dro.

Gweithdrefnau a thasgau

  • Pa weithdrefnau neu dasgau, os o gwbl, y mae angen cymorth ar y meddyg er mwyn eu cyflawni?
  • Pa addasiadau rhesymol a wnaethpwyd er mwyn i'r meddyg gyflawni'r rhain? Er enghraifft, cymorth meingefnol er mwyn cynnal llawdriniaethau neu feddalwedd llefaredd-i-destun er mwyn ysgrifennu nodiadau.
  • Onid all y meddyg beidio cyflawni tasgau neu weithdrefnau penodol yn eu rôl?

Rhyngweithio gyda chydweithwyr a chleifion

  • A oes angen help ar y meddyg wrth iddynt gyfathrebu gyda chydweithwyr a chleifion?
  • Pa addasiadau rhesymol a wnaethpwyd ar gyfer y meddyg? Er enghraifft, gallai seicolegydd addysg gynorthwyo meddyg sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth gyda'u sgiliau cyfathrebu.

Goruchwyliaeth

  • A fyddai'r meddyg yn cael budd gan fwy o gymorth goruchwylio?

Absenoldeb a threfniadau gofal

  • Pa absenoldeb a drefnwyd ymlaen llaw, os o gwbl, y mae ei angen ar y meddyg er mwyn mynychu apwyntiadau meddygol?
  • Ni ddylid cymryd absenoldeb ar gyfer apwyntiadau meddygol allan o wyliau blynyddol meddygon.
  • Pa sylw dilynol y mae angen i'r meddyg ei gael gan wasanaethau iechyd galwedigaethol?

Mae'n arfer da datblygu'r cynllun gweithredu ar y cyd â'r meddyg dan hyfforddiant gymaint ag y bo modd, a bod y cynllun gweithredu terfynol yn cael ei rannu gyda nhw.

Os ceir pryderon am y meddyg yn dangos y cymwyseddau gofynnol er gwaethaf y cymorth a drafodwyd fel rhan o'r cynllun gweithredu, gellir delio â hyn trwy brosesau'r adolygiad addysgol a'r Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP). Mae'n arfer da bod aelodau rhwydwaith cymorth y meddyg yn cydweithio gyda'u goruchwylydd addysgol ac aelodau panel ARCP ar hyn.

Cam 9: Monitro ac adolygu

Gallai'r rhwydwaith cymorth benodi rhywun i fod yn gyfrifol am fonitro gweithrediad y cynllun gweithredu, rhywun sy'n cael cyswllt rheolaidd gyda'r meddyg dan hyfforddiant yn ddelfrydol.

Ceir cyfrifoldeb ar y cyd dros weithredu'r cynllun gweithredu:

  • Gallai'r unigolyn cyfrifol o'r rhwydwaith cymorth gyfarfod â'r meddyg yn rheolaidd er mwyn monitro'r cynllun, er enghraifft trwy gyfrwng adolygiad tymhorol neu flynyddol. Gellir cynnwys hyn mewn adolygiadau sy'n bodoli eisoes. Gall y rhwydwaith cymorth gynnig cyswllt i'r meddyg dan hyfforddiant hefyd er mwyn iddynt allu codi materion rhag ofn na fyddant yn fodlon â'r cymorth a ddarparir.
  • Dylid annog y meddyg dan hyfforddiant i ymgysylltu â'r broses gymorth a gweithrediad y cynllun gweithredu.

Bydd cyfathrebu parhaus gyda'r meddyg dan hyfforddiant yn helpu i ddeall a yw'r addasiadau rhesymol a'r cymorth sydd yn ei le yn effeithiol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi y bydd angen gwneud sawl addasiad efallai er mwyn gwaredu neu leihau amrediad o anfanteision ar gyfer unigolyn anabl.

Bydd meddygon anabl yn gwneud penderfyniad unigol ynghylch a ydynt yn dymuno rhannu unrhyw wybodaeth am eu hiechyd gyda chydweithwyr a chleifion. Gall sefydliadau addysg ôl-raddedig gefnogi penderfyniad y meddygon a'u grymuso i rannu gwybodaeth os byddant yn dewis gwneud hynny.