Cyngor gyrfaoedd
Rhaid bod gan bob meddyg dan hyfforddiant oruchwylydd addysgol a ddylai ddarparu, trwy gyfrwng deialog adeiladol a rheolaidd, adborth iddynt am eu perfformiad a chymorth wrth iddynt gamu ymlaen yn eu gyrfa (Canllaw Aur 8 fed rhifyn, paragraff 4.20). Dylai cyfarwyddwr y rhaglen hyfforddiant feddu ar sgiliau rheoli gyrfa hefyd (neu fod yn gallu cynnig mynediad i sgiliau o'r fath) a dylent fod yn gallu cynnig cyngor gyrfaoedd i feddygon dan hyfforddiant yn eu rhaglen (Canllaw Aur 8 fed rhifyn, paragraff 2.54).
Gall yr arweinydd gyrfaoedd yng nghyflogwr y meddyg a'r uned gyrfaoedd yn y ddeoniaeth neu o fewn tîm lleol HEE ddarparu cymorth a chyngor gyrfaoedd hefyd.
Yn ogystal, gall meddygon dan hyfforddiant geisio cyngor gyrfaoedd os ydynt yn teimlo bod eu hamgylchiadau wedi newid mewn ffordd sylweddol o ganlyniad i'w cyflwr iechyd neu eu hanabledd.