Sut all sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig gyflawni eu dyletswyddau?
Prif negeseuon y bennod hon
- Rhaid i feddygon anabl dan hyfforddiant gael eu cynorthwyo i gymryd rhan mewn arfer clinigol, addysg a hyfforddiant..
- Dylai pob meddyg dan hyfforddiant fod yn gallu manteisio ar gyngor iechyd galwedigaethol. Gall meddygon ddatblygu cyflwr neu anabledd ar unrhyw adeg yn ystod eu gyrfa. Os bydd gan feddyg dan hyfforddiant gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, efallai y bydd angen cyngor iechyd galwedigaethol arbenigol arnynt trwy feddyg iechyd galwedigaethol achrededig, er mwyn gwneud penderfyniadau am hyfforddiant a gwaith
- Mae'n fater i addysgwyr ôl-raddedig a chyflogwyr asesu sut y maent yn delio â phob achos unigol. Un dull a anogwn fel un i'w ystyried fel arfer da yw'r model rheoli achos. Gall addysgwyr ôl-raddedig a chyflogwyr ddefnyddio proses cam wrth gam er mwyn datblygu cynllun gweithredu i gynorthwyo pob meddyg dan hyfforddiant. Mae'r broses hon yn cynnig trosolwg o'r hyn y gellir ei wneud – ni fydd pob cam yn briodol i bob meddyg dan hyfforddiant, ond gellir ei addasu i bob achos unigol yn unol â disgresiwn y sefydliad.
- Cam 1: Rhannu gwybodaeth – Bydd meddygon dan hyfforddiant yn rhannu gwybodaeth am y ffordd y mae eu cyflwr neu eu hanabledd yn effeithio arnynt gyda’u deoniaeth/tîm lleol GIG Lloegr a’u cyflogwr.
- Cam 2: Deon ôl-raddedig fel porthgeidwad – Deon ôl-raddedig neu gynrychiolydd a enwebir i drefnu bod y cymorth y mae ei angen yn cael ei ystyried.
- Cam 3: Ffurfio rhwydwaith cymorth meddyg. Gan ddibynnu ar benderfyniad a wneir gan ddeon ôlraddedig neu gynrychiolydd a enwebir, gallant ddwyn unigolion ynghyd er mwyn rhoi cyngor am y ffordd y gellir cynorthwyo'r meddyg dan hyfforddiant.
- Cam 4: Penderfynu ar brif gyswllt(cysylltiadau).
- Cam 5: Trefniadau cyfrinachedd pellach.
- Cam 6: Asesiad iechyd galwedigaethol. Efallai y bydd o gymorth i feddyg anabl dan hyfforddiant gael asesiad iechyd galwedigaethol.
- Cam 7: Cynhadledd achos /cyfarfod ar y cyd. Gall y rhwydwaith cymorth drafod unrhyw argymhellion o'r asesiad iechyd galwedigaethol, er mwyn creu cynllun gweithredu am y ffordd y caiff y meddyg dan hyfforddiant eu cynorthwyo yn y dyfodol.
- Cam 8: Cynllun gweithredu. Gallai'r cynllun gweithredu roi sylw i nifer o feysydd lle y byddai modd rhoi cymorth i'r meddyg dan hyfforddiant. Diben unrhyw gymorth a weithredir yw helpu'r meddyg i sicrhau lefel y cymhwysedd sy'n ofynnol gan gwricwlwm y Rhaglen Sylfaen neu'r cwricwla arbenigol – a pheidio newid neu leihau'r safon sy'n ofynnol. Mae'n arfer da datblygu'r cynllun gweithredu ar y cyd â'r meddyg dan hyfforddiant gymaint ag y bo modd.
- Cam 9: Monitro ac adolygu. Ceir cyfrifoldeb ar y cyd dros weithredu'r cynllun gweithredu rhwng y cyflogwr, y ddeoniaeth neu dîm GIG Lloegr a’r meddyg dan hyfforddiant.
- Gall proses yr adolygiad addysgol helpu i fonitro'r cymorth y mae meddyg dan hyfforddiant yn ei gael, cofnodi unrhyw sgyrsiau perthnasol yn y portffolio addysgol neu uwchgyfeirio pryderon i'r rhwydwaith cymorth yn ôl yr angen.
- Gall y gwaith paratoi a'r dystiolaeth a gyflwynir gan feddygon anabl ar gyfer yr Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP) fod yn gyfle i godi rhywbeth am y cymorth y maent yn ei gael a'r amgylchedd y maent yn hyfforddi ynddo. Yn ogystal, mae proses ARCP yn ffordd o benderfynu a ellir cynorthwyo meddyg i fodloni'r safonau cymhwysedd yn ystod y cam hyfforddiant y maent ynddo.
- Dylai colegau a chyfadrannau waredu neu ddiwygio unrhyw agweddau diangen o'r cwricwlwm, nad ydynt yn hollbwysig er mwyn bodloni'r safon gofynnol, sy'n gallu rhoi meddygon anabl dan anfantais.
- Mae gan sefydliadau sy'n cynllunio asesiadau ddyletswydd i ragweld anghenion ymgeiswyr anabl.
- Rhaid bod gan bob meddyg dan hyfforddiant oruchwylydd addysgol a ddylai ddarparu, trwy gyfrwng deialog adeiladol a rheolaidd, adborth ynghylch perfformiad a chymorth mewn dilyniant gyrfa.