Parhad cymorth trwy hyfforddiant a phan yn gweithio
Adolygiad addysgol
Bydd pob meddyg dan hyfforddiant yn mynd trwy broses adolygiad addysgol parhaus, gan gynnwys cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'u goruchwylydd addysgol. Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i gael sgwrs dal i fyny am y cymorth y mae'r meddyg yn ei gael ar gyfer eu cyflwr iechyd neu eu hanabledd, ac i gofnodi unrhyw sgyrsiau perthnasol yn y portffolio addysgol.
Gall y goruchwylydd addysgol a'r meddyg dan hyfforddiant gytuno ar gynllun gweithredu er mwyn rhoi sylw i unrhyw bryderon ynghylch cynnydd, a'u cofnodi.
Os bydd y goruchwylydd addysgol a'r meddyg o'r farn bod hynny'n briodol, gallant uwchgyfeirio'r materion at aelodau eraill y rhwydwaith cymorth. Ceir rhagor o wybodaeth ym mharagraff 4.35 y Canllaw Aur (8fed rhifyn).
Y ddadl o blaid lleihau cyfnodau pontio gymaint ag y bo modd
Mae cyfnodau pontio yn rhan orfodol o feddygaeth ac maent yn gallu cynnig her i bob meddyg dan hyfforddiant, ond gallant gynnig her benodol i feddygon anabl dan hyfforddiant. Efallai nad yw hyn oherwydd y cyflwr iechyd neu'r anabledd ei hun, ond oherwydd bod yn rhaid i'r meddyg wneud cryn dipyn o waith cynllunio ymlaen llaw a datblygu strategaethau ymdopi sy'n gysylltiedig â'r man lle y maent yn gweithio a'u rôl o ddydd i ddydd mewn ffordd uniongyrchol.
Gallai'r cymorth y maent yn ei gael fod yn gysylltiedig â'u lleoliad hefyd. Er enghraifft, gallai meddyg sy'n wynebu materion symudedd gynllunio'n ofalus ynghylch cael mynediad i safleoedd. Gall meddyg sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth ddatblygu strategaethau cyfathrebu wedi'u teilwra i'w rôl a'u cydweithwyr ac efallai y bydd meddyg sydd â chyflwr iechyd meddwl yn creu rhwydwaith o gydweithwyr sy'n rhan bwysig o reolaeth barhaus eu cyflwr.
Rydym yn annog addysgwyr ôl-raddedig i ystyried lleihau nifer y cyfnodau pontio sy'n golygu newid lleoliad gymaint ag y bo modd, er mwyn helpu meddygon anabl dan hyfforddiant. Cyflawnir hyn gan ganiatáu iddynt ddangos eu sgiliau a bodloni'r cymwyseddau sy'n ofynnol ar gyfer eu hyfforddiant o hyd. Er enghraifft, gallai meddyg anabl dan hyfforddiant gael budd o gwblhau holl gylchdroadau eu Rhaglen Sylfaen mewn un darparwr addysg lleol neu yn yr un ysbyty.
Trosglwyddo gwybodaeth
Mae cyfleu anghenion cymorth meddyg ymlaen llaw yn allweddol er mwyn sicrhau bod cyfnodau pontio mor esmwyth ag y bo modd.
Byddai addysgwyr ôl-raddedig a chyflogwyr yn croesawu gwybodaeth yn gynnar ar gyfer meddygon dan hyfforddiant ar bob lefel, er mwyn eu galluogi i gynllunio'r cymorth sy'n angenrheidiol ar gyfer eu hyfforddiant a'u datblygiad ymlaen llaw.
Nod y Cod Ymarfer: Darparu Gwybodaeth ar gyfer Hyfforddiant Meddygol Ôl-raddedig gan Gyflogwyr GIG, Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) a HEE, yw pennu safonau gofynnol ar gyfer HEE, cyflogwyr a meddygon ynghylch darparu gwybodaeth yn ystod y broses recriwtio. Mae HEE wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i gyflogwyr (ac i feddygon trwy system Oriel) o leiaf 12 wythnos cyn y bydd meddyg yn cychwyn mewn swydd.