Ar ddiwrnod y gwrandawiad

Rhoi tystiolaeth wyneb yn wyneb yn y ganolfan wrandawiadau

Ar ôl cyrraedd y ganolfan wrandawiadau, ewch i dderbynfa’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) ar y seithfed llawr. Bydd aelod o staff MPTS yn eich tywys i brif adran aros y tystion. Byddwn yn dod i gwrdd â chi cyn gynted â phosibl ac yn eich cyflwyno i’n bargyfreithiwr a fydd yn cyflwyno ein hachos.

Mae gan y ganolfan wrandawiadau ardaloedd aros ar wahân ar gyfer tystion, ac mae prosesau ar waith i leihau’r tebygolrwydd y byddwch yn cwrdd â’r meddyg, y cydymaith meddygol (PA) neu’r cydymaith anaesthesia (AA.) Fodd bynnag, mae posibilrwydd bach y byddwch yn gweld y meddyg yn ardaloedd cyhoeddus yr adeilad.

Byddwn yn ceisio lleihau’r amser y mae’n rhaid i chi aros cyn rhoi tystiolaeth. Bydd seibiannau yn y gwrandawiad hefyd am wahanol resymau, ond byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn cael mynd i gael bwyd neu awyr iach.

Peidiwch â thrafod yr achos na’ch tystiolaeth gydag unrhyw un arall wrth aros. Gallai hyn beryglu’r achos ac effeithio ar ganlyniad y gwrandawiad.

Pan ddaw eich tro chi i roi tystiolaeth, bydd aelod o staff MPTS yn dod i’ch casglu ac yn mynd gyda chi i ystafell y gwrandawiad.

Mae gwefan MPTS yn rhoi rhagor o fanylion am bwy fydd yn y gwrandawiad beth fydd yn digwydd yn ystod y gwrandawiad, a sut i roi tystiolaeth.

Rhoi tystiolaeth o bell drwy gyswllt fideo

Byddwn yn trefnu galwad fideo gyda chi ychydig cyn y byddwch yn rhoi tystiolaeth. Bydd eich pwynt cyswllt yn eich cyflwyno i’n bargyfreithiwr a fydd yn cyflwyno ein hachos.

Byddwn yn rhoi’r union amser y bydd angen i chi roi tystiolaeth ymlaen llaw. Pan fydd yn amser i chi roi tystiolaeth, byddwch yn ymuno â chyfarfod Microsoft Teams ac yn mynd i mewn i lobi rithwir. Wedyn, bydd aelod o staff y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) yn eich derbyn i’r gwrandawiad pan fyddant yn barod i chi ddechrau rhoi eich tystiolaeth.

Byddwn yn ceisio lleihau’r amser y mae’n rhaid i chi aros cyn rhoi tystiolaeth.

Peidiwch â thrafod yr achos na’ch tystiolaeth gydag unrhyw un arall wrth aros. Gallai hyn beryglu’r achos ac effeithio ar ganlyniad y gwrandawiad.

Hefyd, mae gwefan MPTS yn rhoi rhagor o fanylion i dystion sy’n ymuno â gwrandawiad o bell.

Ar ôl rhoi tystiolaeth

Ar ôl rhoi tystiolaeth wyneb yn wyneb yn y ganolfan wrandawiadau

Ar ôl i chi orffen rhoi tystiolaeth, byddwn yn dod i’ch cwrdd ac yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf yn y gwrandawiad. Gallwn hefyd eich helpu i lenwi ffurflen hawlio treuliau cyn i chi adael. Os na allwch chi gael sgwrs gyda ni cyn i chi adael am y diwrnod, byddwn yn cysylltu â chi’n fuan ar ôl hynny.

Os ydych yn dymuno aros i wylio gweddill y gwrandawiad, rhowch wybod i ni a byddwn yn dangos i chi ble i eistedd. Os byddwch yn dewis dod i’r gwrandawiad ar ddiwrnodau nad ydych yn rhoi tystiolaeth, bydd angen i chi dalu eich costau eich hun.

Ar ôl rhoi tystiolaeth o bell drwy gyswllt fideo

Ar ôl i chi orffen rhoi tystiolaeth, byddwn yn eich ffonio ac yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf yn y gwrandawiad. Os na allwch chi gael sgwrs gyda ni ar ôl i chi orffen rhoi tystiolaeth, byddwn yn trefnu amser i gysylltu â chi yn fuan ar ôl hynny.