Cymorth Annibynnol

Gallwch gael cymorth gan ein gwasanaeth cymorth annibynnol unrhyw bryd yn ystod ein hymchwiliad.

Gwasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim dros y ffôn yw hwn, sy’n cael ei redeg gan yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr ac sydd ar gael i achwynwyr, cleifion, tystion a’u teuluoedd.

Gallwch siarad gyda nhw am sut rydych chi’n teimlo a beth i’w ddisgwyl. Gallant hefyd eich cyfeirio at sefydliadau cymorth arbenigol. 

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, gofynnwch i’ch pwynt cyswllt roi eich manylion iddynt. Gallwch eu ffonio'n uniongyrchol ar 0300 303 3709 (codir cyfraddau lleol am alwadau).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymorth i Ddioddefwyr.