Ar ôl y gwrandawiad
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth fydd canlyniad y gwrandawiad, yn fuan ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben.
Bydd yr MPTS hefyd yn cyhoeddi'r canlyniad ar eu gwefan nhw ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben. Eu nod yw cyhoeddi’r penderfyniad o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben.
Darllenwch fwy am ganlyniadau posibl gwrandawiad.
Sut gwnaethom ni?
Diolch yn fawr am eich cymorth gyda’n hymchwiliad ac am gymryd rhan yn y gwrandawiad. Heb eich cymorth chi, ni fyddem yn gallu cyflawni ein dyletswydd i ddiogelu’r cyhoedd.
Rydym eisiau gwella safon y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych am eich profiad fel tyst. Byddwn yn gofyn i chi lenwi arolwg cyflym ar-lein ar ddiwedd y broses.
Os nad ydych chi wedi cael dolen i’r arolwg, rhowch wybod i’ch pwynt cyswllt.