Rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad - cymorth i dystion

Os byddwn yn penderfynu bod angen i dribiwnlys ystyried yr achos, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi.

Mae Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) yn cynnal pob gwrandawiad tribiwnlys i ymarferwyr meddygol ar gyfer meddygon sydd wedi’u cofrestru yn y DU. Caiff y rhan fwyaf o wrandawiadau eu cynnal yn gyhoeddus. Mae penderfyniadau MPTS yn gwbl annibynnol ar ein hymchwiliadau.

Darllenwch fwy am y mathau o achosion y gallwn eu hatgyfeirio at dribiwnlys, a’r camau y gallant eu cymryd.

Byddwn yn gofyn i chi ddod i wrandawiad os bydd angen i chi roi eich tystiolaeth i gefnogi ein hachos. Bydd hyn naill ai wyneb yn wyneb neu o bell drwy gyswllt fideo. Ni fyddwn yn gofyn i chi wneud hyn oni bai ei fod yn angenrheidiol. Hefyd, mae gan y meddyg hawl i ofyn cwestiynau i chi am eich datganiad – rhan bwysig o wrandawiad teg.

Bydd eich tystiolaeth yn helpu’r tribiwnlys i wneud y penderfyniad iawn, ac yn ein helpu i gyflawni ein dyletswydd i amddiffyn y cyhoedd.

Os ydych chi’n gyndyn i ddod i wrandawiad, siaradwch â’ch pwynt cyswllt. Byddant yn ystyried eich pryderon ac yn cael sgwrs gyda chi am y cymorth sydd ar gael. Gallwch hefyd ddefnyddio ein Gwasanaeth Cymorth i Dystion.