Gwneud penderfyniad
Canlyniadau i feddygon
Mae’n rhaid i ni ddatgelu eich datganiad i’r meddyg, ynghyd â’r holl dystiolaeth arall rydym wedi’i chasglu. Mae hyn yn rhoi cyfle iddo roi sylwadau.
Yna, bydd dau o’n huwch benderfynwyr yn edrych ar yr holl dystiolaeth ac yn penderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd. Gallant wneud y canlynol:
- dod â’r achos i ben heb gymryd camau pellach
- rhoi rhybudd (Saesneg yn unig)
- cytuno ar ymgymeriadau gyda'r meddyg er mwyn mynd i'r afael â phroblem gyda'i ymarfer (Saesneg yn unig)
- atgyfeirio’r achos at dribiwnlys.
Canlyniadau ar gyfer cymdeithion meddygol (PA) a chymdeithion anaesthesia (AA)
Ar ddiwedd asesiad cychwynnol, byddwn yn ystyried a oes angen i ni gymryd camau cyfyngol yn erbyn cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia. Ar y cam hwn, efallai y byddwn yn datgelu eich datganiad i'r cydymaith meddygol neu'r cydymaith anaesthesia, ynghyd â'r dystiolaeth arall rydym wedi'i chasglu, er mwyn rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau.
Os credwn fod angen cymryd camau cyfyngol, byddwn yn trosglwyddo'r achos i'n huwch benderfynwyr, a fydd yn edrych ar yr achos ac yn penderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd. Gallant wneud y canlynol:
• dod â’r achos i ben heb gymryd camau pellach
• rhoi rhybudd
• cytuno ar amodau, atal dros dro neu ddileu eu cofrestriad
• atgyfeirio’r achos at dribiwnlys
Ar ôl ein penderfyniad
Os bydd angen i dribiwnlys ystyried yr achos, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi fynychu gwrandawiad i roi tystiolaeth.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar ôl i ni wneud penderfyniad. Gall hyn fod sawl mis ar ôl i chi ddarparu datganiad os oes angen i ni gasglu tystiolaeth arall.