Cyn y gwrandawiad
Ar ôl penderfynu atgyfeirio’r achos i wrandawiad, byddwn yn gofyn i chi a ydych chi ar gael i fod yn bresennol eich hun. Byddwn hefyd yn cael sgwrs gyda chi am unrhyw anghenion ac addasiadau rhesymol a fyddai’n eich helpu i roi tystiolaeth. Byddwn yn gofyn i’r Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol (MPTS) ystyried eich argaeledd wrth drefnu’r gwrandawiad.
Ar ôl i’r MPTS drefnu’r gwrandawiad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiadau i’w cadw’n rhydd. Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi gadw sawl diwrnod yn rhydd nes ein bod yn gwybod yr union ddyddiad ac amser y bydd angen i chi fod yn bresennol. Os na fyddwch ar gael ar unrhyw un o’r dyddiadau hynny, dylech roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.
Eich anghenion
Byddwn yn cysylltu â chi tua thair i bedair wythnos cyn y gwrandawiad, i gadarnhau union ddyddiad ac amser eich ymweliad.
Os ydych chi'n rhoi tystiolaeth wyneb yn wyneb yng nghanolfan y gwrandawiad, byddwn yn:
- gofyn i chi am eich trefniadau teithio, llety ac unrhyw anghenion eraill
- gwneud unrhyw archebion angenrheidiol ar eich cyfer
- esbonio pa dreuliau y gallwch eu hawlio, a sut i wneud hynny.
Os ydych chi’n rhoi tystiolaeth o bell drwy gyswllt fideo, byddwn yn:
- cwblhau galwad brawf drwy gyswllt fideo gyda chi cyn i chi roi tystiolaeth
- gwneud yn siŵr bod gennych chi’r ddolen gyfarfod ar gyfer Microsoft Teams i ymuno â’r gwrandawiad ac i roi tystiolaeth.
Y ganolfan wrandawiadau
Os byddwch chi’n bresennol wyneb yn wyneb, mae canolfan wrandawiadau MPTS yn Adeiladau St James, Oxford Street, Manceinion.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ganolfan wrandawiadau MPTS - a gwylio fideo i'ch helpu i ymgyfarwyddo â beth fydd yn digwydd ar y diwrnod - ar wefan MPTS.