Ein helpu gydag ymchwiliad

Rydym yn ymchwilio i bryderon am feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia, er mwyn i ni allu amddiffyn y cyhoedd a chynnal safonau proffesiynol. 

Fel rheoleiddiwr annibynnol, ein rôl ni yw casglu gwybodaeth i ddeall beth sydd wedi digwydd pan fydd pryder wedi cael ei godi gyda ni. Nid ydym yn cynrychioli tystion, y meddyg, y cydymaith meddygol, y cydymaith anaesthesia nac unrhyw un arall sy'n ymwneud â'n hymchwiliadau. .

Os ydym wedi gofyn i chi am ddatganiad tyst, y rheswm am hyn yw ein bod ni o’r farn y gallech chi helpu ein hymchwiliad i bryderon am feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anaesthesia.

Byddwn yn aml yn siarad ag amrywiaeth o bobl i greu darlun clir. Mae’n bosibl eich bod wedi cael gofal gan y meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anaesthesia neu eich bod yn gweithio gydag o pan ddigwyddodd y mater. Hyd yn oed os nad oedd gennych chi gysylltiad uniongyrchol â’r digwyddiadau, mae’n bosibl y gallech chi ein helpu ni drwy roi gwybodaeth gefndirol neu ddogfennau defnyddiol.
Bydd eich datganiad yn ein helpu i greu darlun o’r hyn a ddigwyddodd ac i benderfynu a oes angen i ni gyfyngu ar ei ymarfer neu ei atal.