Rhoi datganiad - cymorth i dystion

Byddwn yn cysylltu â chi i drafod sut gallwch chi helpu ein hymchwiliad, a byddwn yn trefnu amser cyfleus i gymryd eich datganiad. Byddwn yn rhoi pwynt cyswllt penodol i chi, lle gallwch gael sgwrs ar unrhyw adeg.

Siarad â ni

Fel arfer, byddwn yn cymryd datganiadau drwy alwad fideo ar Microsoft Teams neu dros y ffôn, ond weithiau bydd yn well gennym gwrdd â chi wyneb yn wyneb mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi. Gallai hyn fod pan fydd eich datganiad yn ymdrin â phethau sy’n arbennig o sensitif, neu os oes llawer o ddogfennau i’w trafod.

Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi i’r cyfweliad. Gallant eistedd gyda chi i fod yn gefn i chi, ond ni fyddant yn gallu ateb cwestiynau ar eich rhan. Rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr nad ydynt hefyd yn dyst posibl.

Gallwch ateb ein cwestiynau ar sail eich atgofion eich hun, neu drwy gyfeirio at ddogfennau sydd gennych. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am fanylion fel dyddiadau ac amseroedd. Os nad ydych chi’n gallu cofio, rhowch wybod i ni - nid prawf cof yw hwn.

Ysgrifennu ac adolygu eich datganiad

Byddwn yn cymryd nodiadau yn ystod y cyfweliad, a byddwn yn eu defnyddio i ysgrifennu eich datganiad tyst unwaith y byddwn yn ôl yn y swyddfa. Byddwn wedyn yn anfon datganiad drafft atoch i’w adolygu. Mae’n bosibl y byddwn yn trefnu galwad gyda chi hefyd, i egluro unrhyw bwyntiau sydd heb eu datrys ac i siarad am unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud. Ar ôl hynny, byddwn yn anfon fersiwn derfynol o’ch datganiad atoch i’w lofnodi a’i ddyddio.

Peidiwch â thrafod cynnwys eich datganiad gyda neb arall cyn nac ar ôl y cyfweliad. Mae’n bwysig bod eich cyfrif yn seiliedig ar eich atgofion chi.