Darparu datganiadau tyst neu dystiolaeth arbenigol fel rhan o achosion cyfreithiol
Mae Arfer meddygol da yn nodi’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r safonau gofal ac ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda ni. Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn. Mae Darparu datganiadau tyst a thystiolaeth arbenigol mewn achosion cyfreithiol yn ychwanegu at Arfer meddygol da er mwyn cynnig mwy o fanylder am ein disgwyliadau o weithwyr meddygol proffesiynol yn y maes hwn.
Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddefnyddio’r safonau yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Os byddwch chi’n gwneud hyn, yn gweithredu’n ddidwyll ac er lles gorau eich cleifion, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer ar ddechrau Arfer meddygol da.
Cyflwyniad
Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn cyflawni rôl bwysig yn y system gyfiawnder ac mewn achosion cyfreithiol eraill trwy ddarparu adroddiadau ffeithiol a gonest o ddigwyddiadau, a chyngor gwrthrychol a diduedd os byddant yn rhoi barn arbenigol am faterion o fewn eu cymhwystra a’u profiad.
Gall ansawdd a dibynadwyedd tystiolaeth tyst a barn feddygol arbenigol wneud gwahaniaeth arwyddocaol i degwch y penderfyniadau a wneir mewn achosion, a’u canlyniadau.
Mae’n amlwg o nifer o achosion llys a thribiwnlys amlwg, pan fydd pryderon arwyddocaol yn codi am ansawdd tystiolaeth arbenigol, gall hyn effeithio ar hyder y cyhoedd mewn barn arbenigol.1 Mae’n hanfodol bod gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n cyflawni rôl tystion arbenigol yn cynnal safonau uchel, o ystyried y potensial o fethu gweinyddu cyfiawnder yn gywir.
Expert Evidence in Criminal Proceedings in England and Wales gan Gomisiwn y Gyfraith.. Gross negligence manslaughter in healthcare adroddiad annibynnol gan Athro Syr Norman Williams.
Yn ehangach, mae’n bwysig, pan ofynnir i weithwyr meddygol proffesiynol roi datganiad tyst neu gyflawni rôl tyst arbenigol, eu bod yn glir am eu cyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol, a’u bod yn gallu troi at ffynonellau cyngor a chanllawiau er mwyn eu helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau. 2
Medical experts in the family courts gan Lywydd yr Is-adran Deulu.
Mae’r canllaw hwn yn nodi’r safonau proffesiynol sy’n berthnasol i weithwyr meddygol proffesiynol sy’n ymgymryd â’r cyfrifoldebau sy’n ymwnweud â rhoi tystiolaeth. Nid yw’n cynnig cyngor am y gwahanol fframweithiau cyfreithiol yn y DU a’r rheolau gweithdrefnol sy’n berthnasol i ddatganiadau tyst a thystiolaeth arbenigol, er ei fod yn ystyried gofynion cyfreithiol perthnasol.
Yr hyn a olygwn gan achosion cyfreithiol
Fel gweithiwr meddygol proffesiynol, efallai y byddwch yn ymwneud â rhoi tystiolaeth neu farn arbenigol mewn amrediad o leoliadau ac achosion cyfreithiol.Gallai hyn gynnwys:
- ceisiadau i’r llys, mewn achosion lle y mae claf heb alluedd i wneud penderfyniadau gofal iechyd penodol ac mae angen ceisio dyfarniad cyfreithiol
- hawliadau sifil neu achosion troseddol yn deillio o ddigwyddiadau mewn lleoliad gofal iechyd penodol – gallai hyn olygu darparu tystiolaeth ysgrifenedig neu roi tystiolaeth mewn llys barn
- cwestau crwner ac ymchwiliadau i ddamweiniau angheuol
- tribiwnlysoedd, gan gynnwys gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer rheoleiddwyr
- ymchwiliadau cyhoeddus statudol sydd â’r grym i fynnu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar
- cyrff rheoliadol ac ymchwilio sy’n meddu ar y grym i fynnu bod tystiolaeth yn cael ei darparu.
At ddibenion y canllaw hwn, nid yw ‘achosion cyfreithiol’ yn cynnwys ymchwiliadau cyhoeddus anstatudol neu adolygiadau ac ymchwiliadau diogelwch cleifion nad oes ganddynt y grym cyfreithiol i fynnu bod pobl yn rhoi tystiolaeth.3 Fodd bynnag, dylai’r deg egwyddor allweddol yn y canllaw hwn fod yn ganllaw defnyddiol i weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r prosesau hyn, law yn llaw ag unrhyw gyngor a chanllawiau penodol a roddir gan sefydliadau eraill.
Mae gan y Corff Ymchwiliadau Diogelwch Gwasanaethau Iechyd (Lloegr) y grym i fynnu bod tystiolaeth yn cael ei darparu yn ôl yr angen. Mae gan unrhyw dystiolaeth a ddarparir iddo ddiogelwch statudol rhag datgeliad (HSSIB).
Yr hyn a olygwn gan achosion cyfreithiol
Nid yw hon yn rhestr derfynol o rolau, a gallai’r termau a ddefnyddir i ddisgrifio rôl tyst amrywio.Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi, er enghraifft:
- i weithredu fel tyst ffeithiol gan ddarparu datganiad tyst (‘datganiad ffeithiol’) am ddigwyddiadau lle’r ydych yn gweithio ac yr ydych chi wedi cael cyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol â nhw
- rhoi barn arbenigol i’r llys, fel y gweithiwr proffesiynol sy’n trin y claf - am gyflwr meddygol presennol y claf a’u hanghenion gofal iechyd (gallai hyn gael ei ddisgrifio fel ‘tyst ffeithiol’ neu ‘dyst proffesiynol’)
- gweithredu fel ‘tyst arbenigol’ – gan gynnig barn annibynnol a gwrthrychol am faterion arbenigol neu dechnegol o fewn eich gwybodaeth a’ch cymhwystra. Gallai hyn fod mewn achos llys sy’n ystyried y dewisiadau o ran triniaethau ar gyfer claf nad ydynt dan eich gofal chi; mewn hawliad esgeulustod clinigol; neu mewn achos troseddol os ydych chi’n arbenigwr fforensig.
Fel arfer, bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth mewn datganiad ysgrifenedig ffeithiol neu adroddiad arbenigwr, gan ddibynnu ar eich rôl.Ond yna, efallai y bydd gofyn i chi roi tystiolaeth lafar am y materion y rhoddir sylw iddynt yn eich tystiolaeth ysgrifenedig.
Deg egwyddor allweddol
Mae’r ddeg egwyddor hon yn berthnasol i bob gweithiwr meddygol proffesiynol – os ydych chi’n cyflawni rôl tyst ffeithiol (neu dyst proffesiynol) neu’n bwriadu cyflawni rôl tyst arbenigol mewn achosion cyfreithiol.
12a. Rhaid i chi weithredu gydag uniondeb, gonestrwydd a gwrthrychedd, ym mha bynnag rôl y byddwch yn ei chyflawni yn y broses gyfreithiol.
12b. Rhaid i chi gymryd camau i ddeall y prosesau a’r amserlenni, eich rôl, unrhyw ofynion gweithdrefnol y disgwylir i chi eu bodloni, a sut i drin gwybodaeth gyfrinachol y bydd angen i chi droi ati neu ei rhannu fel rhan o’r broses.
12c. Rhaid i chi ymateb yn brydlon i geisiadau am eich mewnbwn. A chymryd yr holl gamau ymarferol i fodloni’r dyddiadau cytunedig er mwyn darparu datganiadau neu adroddiadau – a mynychu cynadleddau achos neu wrandawiadau rheoli achos rhagarweiniol yn ôl y gofyn.
12d. Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ddatganiad neu adroddiad y byddwch yn ei ysgrifennu, neu dystiolaeth lafar y byddwch yn ei rhoi, yn gywir a heb fod yn gamarweiniol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd camau rhesymol i wirio cywirdeb y wybodaeth y byddwch yn ei darparu, gan sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol.
12e. Pan fo modd gwneud hynny heb gamarwain unrhyw un, dylech ddefnyddio iaith a therminoleg y bydd pobl nad ydynt wedi cael hyfforddiant meddygol yn ei deall (gan gynnwys barnwyr ac aelodau rheithgor). Dylech esbonio unrhyw dermau technegol, gan ystyried defnyddio cymhorthion gweledol, i ddiwallu anghenion y gynulleidfa.
12f. Rhaid i chi wneud datganiadau, neu roi tystiolaeth a safbwyntiau, am faterion o fewn eich cymhwystra proffesiynol neu lle y mae gennych chi wybodaeth berthnasol amdanynt, yn unig. Rhaid i chi nodi’n glir yr hyn sy’n dystiolaeth ffeithiol, a’r hyn sy’n cyfateb â’ch barn chi ar sail eich profiad a’ch barn broffesiynol.
12g. Os na fydd cwestiwn neu fater penodol o fewn eich maes arbenigol, neu’ch gwybodaeth uniongyrchol o’r digwyddiadau, dylech esbonio hyn, gan wrthod ateb neu wneud sylw. Os er hyn y bydd gofyn i chi wneud sylw am y mater dan yr amgylchiadau, dylech ateb hyd eithaf eich gallu, ond gan nodi cyfyngiadau eich gwybodaeth neu eich cymhwystra yn glir.
12h. Rhaid i chi beidio â chaniatáu i unrhyw berthynas bersonol neu broffesiynol gydag unigolion neu sefydliadau, neu safbwyntiau personol y gallai fod gennych chi am unigolion neu sefydliadau, i effeithio ar wrthrychedd neu annibyniaeth unrhyw ddatganiad neu dystiolaeth y byddwch yn ei darparu.
12i. Pan fydd gennych chi wrthdrawiad buddiannau posibl neu go iawn, rhaid i chi ddilyn ein canllawiau ynghylch Nodi a rheoli gwrthdrawiadau buddiannau, ynghyd ag unrhyw ofynion gweithdrefnol penodol sy’n berthnasol dan yr amgylchiadau (gweler paragraffau 24–25).
12j. Dylech ystyried unrhyw bwyntiau dysgu o gyfranogi yn y broses gyfreithiol fel rhan o’ch arfer myfyriol.4
Gweler gwybodaeth am ‘arfarniad arfer cyfan’ yn Gwybodaeth ategol ar gyfer arfarnu ac ailddilysua’r cyngor yn Arfer myfyriol
Tyst ffeithiol: cyfrifoldebau penodol
Efallai y gofynnir i chi weithredu fel tyst ffeithiol er mwyn darparu datganiad ysgrifenedig, neu roi tystiolaeth llafar yn ystod gwrandawiad.
Dylech gyfyngu eich tystiolaeth i’r hyn yr ydych yn ei wybod, a phryd bynnag y bo modd, dylid ei seilio ar gofnodion a nodiadau a wnaethpwyd ar yr adeg berthnasol. Gan ddibynnu ar yr achos dan sylw, gallai eich tystiolaeth gynnwys:
- eich canfyddiadau clinigol, eich arsylwadau, a’r camau a gymrwyd o ganlyniad
- eich rhesymau dros wneud penderfyniad penodol neu argymell camau penodol
- yr hyn a weloch a’r hyn a glywoch adeg y digwyddiadau dan sylw.
Rhaid i chi ddilyn y canllawiau yn Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion pan fyddwch yn dewis pa wybodaeth i’w datgelu (gan gychwyn gyda’r egwyddorion cyffredinol ym mharagraffau 8-10 ).
Os gofynnir i chi wneud sylw neu roi adroddiad am gamau gweithredu a phenderfyniadau pobl arall, gymaint ag y bo modd, dylid cyfyngu hwn i faterion y mae gennych chi wybodaeth uniongyrchol amdanynt.
Er na chânt eu trin fel ‘achosion cyfreithiol’ (yn y canllaw hwn), mae dyletswydd arnoch i gydweithredu gydag adolygiadau ac ymchwiliadau i ddigwyddiadau diogelwch cleifion difrifol (Arfer meddygol da 2024, paragraff 98 a chanllaw Gweithredu mewn ffordd agored a gonest pan fydd pethau yn mynd o le: dyletswydd broffesiynol gonestrwydd). Os gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth neu ddatganiad am ddigwyddiad diogelwch claf, dylech wneud hynny. Cynlluniwyd y prosesau lleol hyn i gynorthwyo diwylliant o ddysgu a diogelwch, gan osgoi bai ac ymatebion cosbol i ddigwyddiadau niweidiol neu achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd.5
Mae gwybodaeth am raglenni ymchwilio diogelwch cleifion lleol a chenedlaethol, a’r prosesau dan sylw, ar gael gan gyrff megis y Corff Ymchwiliadau Diogelwch Gwasanaethau Iechyd (HSSIB), Health Improvement Scotland (HIS), Ymchwiliadau Diogelwch Mamolaeth a Babanod Newydd-anedig (MNSI), Uned Gyflawni GIG Cymru, a’r Awdurdod Gwella Ansawdd a Rheoleiddio (RQIA).
Mae gan ddatganiad y byddwch yn ei wneud i gynorthwyo yn ystod ymchwiliad diogelwch claf, wahanol ddiben i ddatganiad y byddwch yn ei roi wrth ymateb i gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd gan glaf (neu barti arall) efallai – mewn perthynas â digwyddiad niweidiol yn ystod gofal claf. Os nad ydych yn siŵr o’r hyn y mae angen ei gynnwys mewn unrhyw ddatganiad, dylech geisio cyngor gan gydweithiwr mwy profiadol, eich cyflogwr, eich corff amddiffyn neu gynghorydd cyfreithiol.
Tyst arbenigol: cyfrifoldebau penodol
Ceisir safbwyntiau meddygol arbenigol gan unigolion sy’n gallu cynnig cyngor arbenigol neu dechnegol am faterion lle y mae ganddynt gymhwystra, hyfforddiant a phrofiad perthnasol. Gallai hyn gynnwys gweithwyr proffesiynol:
- sy’n meddu ar wybodaeth o’r safonau perthnasol ac o natur arfer clinigol mewn maes gofal iechyd penodol – adeg y digwyddiadau sy’n destun yr achosion cyfreithiol
- y mae ganddynt brofiad mewn rôl benodol, neu brofiad o ofal cleifion sydd ag anghenion penodol – lle y mae hyn yn berthnasol i ddeall y materion sy’n cael eu harchwilio neu eu hymchwilio
- sy’n meddu ar arbenigedd technegol, megis dehongliad ac archwiliad fforensig o’r canfyddiadau.
Os hoffech gyflawni rôl tyst arbenigol mewn achosion cyfreithiol, rhaid bod gennych chi wybodaeth ddigonol o’r gofynion gweithdrefnol cyfredol ynghylch darparu adroddiadau arbenigol a rhoi tystiolaeth, yn yr awdurdodaethau yr ydych chi’n bwriadu ymarfer. Mae hyn yn cynnwys deall y ffactorau y gall y llysoedd (neu gorff cyfatebol) eu gweithredu wrth asesu:
- addasrwydd unigolyn i weithredu fel tyst arbenigol
- derbynioldeb a dibynadwyedd tystiolaeth arbenigol.
Dylech gymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol i ddatblygu’r wybodaeth ymarferol a’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, er enghraifft:
- bod yn gyfarwydd â chanllawiau a chodau ymarfer perthnasol a gyhoeddir gan gyrff proffesiynol megis y colegau brenhinol meddygol, cyfadrannau a chymdeithasau arbenigol
- deall sut i ysgrifennu adroddiad arbenigol sy’n bodloni gofynion y llys (neu gorff cyfatebol)
- yr arferion sy’n ymwneud â chyfarwyddyd ar y cyd i arbenigwyr gan bartïon achos
- y gweithdrefnau ar gyfer mynychu a rhoi tystiolaeth wyneb yn wyneb neu trwy gyfrwng cysylltiadau o bell
- cyflwyno tystiolaeth lafar mewn ffordd effeithiol.
Os gofynnir i chi gyflawni rôl tyst arbenigol, rhaid i chi ystyried ym mhob achos a ydych yn meddu ar y wybodaeth angenrheidiol, yr hyfforddiant a’r profiad i gynorthwyo’r llys am y materion lle y mae gofyn cael mewnbwn arbenigol. Disgwylir i chi amlinellu eich addasrwydd i weithredu fel arbenigwr, fel rhan o unrhyw adroddiad y byddwch yn ei ddarparu.
Wrth ddarparu tystiolaeth fel tyst arbenigol, mae dyletswydd arnoch i’r llys, sy’n mynnu eich bod yn gweithredu mewn ffordd annibynnol, gan fod yn wrthrychol ac yn ddiduedd. Mae hyn yn drech nag unrhyw rwymedigaeth y gallai fod gennych i’r unigolyn sy’n eich cyfarwyddo chi neu sy’n eich talu i gynnig barn arbenigol.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall pa gwestiynau y gofynnir i chi eu hateb. Os byddwch wedi cael cyfarwyddiadau sy’n aneglur, rhaid i chi ofyn i’r rhai sy’n eich cyfarwyddo i esbonio, fel eich bod mewn sefyllfa well i ddarparu tystiolaeth sy’n gallu cynorthwyo’r llys.
Pan ofynnir i chi weithredu fel tyst arbenigol ac yn ystod pob cam o’r achosion, rhaid i chi ystyried yn ofalus a oes gennych chi fudd personol neu wrthdrawiad buddiannau posibl neu go iawn y gallai effeithio ar neu godi cwestiwn ynghylch eich gallu i roi tystiolaeth annibynnol a gwrthrychol. Er enghraifft, pan fyddwch wedi cael cyswllt personol neu broffesiynol gydag unrhyw barti mewn achos. (Gweler ein canllaw ynghylch Nodi a rheoli gwrthdrawiadau buddiannau).
Rhaid i chi sicrhau yn ddi-oed bod y parti sy’n eich cyfarwyddo yn ymwybodol o unrhyw fudd personol, neu wrthdrawiad buddiannau posibl. Gallwch barhau i weithredu fel arbenigwr yn yr achos, dim ond os yw’r parti sy’n cyfarwyddo yn rhoi sicrwydd ysgrifenedig bod hyn yn dderbyniol.
Fel arfer, gall tyst arbenigol sy’n rhoi tystiolaeth yn y system gyfiawnder ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael (gan gynnwys datganiadau ac adroddiadau gan y partïon eraill i’r achosion), cyn ffurfio barn a’i chynnig. Os nad yw hi’n glir a ydych chi wedi cael yr holl dystiolaeth berthnasol, dylech gadarnhau’r sefyllfa gyda’r rhai sy’n eich cyfarwyddo. Bydd y cyfreithiwr sy’n eich cyfarwyddo yn gyfarwydd â’r gofynion datgelu – er enghraifft, mewn gwrandawiadau rheoli achos rhagarweiniol a’r broses rhagholi yn yr Alban.
Rhaid i chi roi barn wrthrychol a diduedd ac mae’n rhaid eich bod yn gallu datgan y ffeithiau neu’r tybiaethau y mae’n seiliedig arnynt, gan gynnwys canllawiau clinigol perthnasol, neu ymchwil a gyhoeddwyd. Os ceir amrediad o farn am fater, rhaid i chi roi crynodeb o amrediad y farn ac esbonio sut y gwnaethoch chi ffurfio eich barn chi. Os nad oes gennych chi ddigon o wybodaeth er mwyn dod i gasgliad am bwynt penodol, neu os bydd eich barn yn amodol (er enghraifft, oherwydd tystiolaeth sy’n gwrthdaro), rhaid i chi nodi hyn yn glir.
Os gofynnir i chi fynegi barn am unigolyn heb gael y cyfle i ymgynghori gyda nhw neu eu harchwilio, rhaid i chi esbonio unrhyw gyfyngiad y mae hyn yn ei roi ar eich gallu i fynegi barn. Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen, dylech fod yn gallu cyfiawnhau eich penderfyniad.
Os byddwch yn newid eich safbwynt am unrhyw fater perthnasol ar unrhyw adeg, rhaid i chi sicrhau bod y rhai sy’n eich cyfarwyddo yn ymwybodol o hyn yn ddi-oed. Yna, cyfrifoldeb y parti sy’n eich cyfarwyddo yw dweud wrth y bobl arall y mae angen iddynt gael gwybod, gan gynnwys y llys os bydd eich adroddiad arbenigol eisoes wedi cael ei ddatgelu i’r llys.
Rhaid i chi barchu sgiliau a chyfraniadau gweithwyr proffesiynol eraill sy’n darparu tystiolaeth arbenigol, er enghraifft wrth baratoi adroddiadau ar y cyd, gan gynnal gwrthrychedd a didueddrwydd wrth ffurfio eich safbwynt chi. Os oes gennych chi bryderon am gymhwystra neu wrthrychedd arbenigwr arall sy’n gysylltiedig â’r achos, dylech godi hyn gyda’r parti sy’n eich cyfarwyddo, a fydd yn ystyried pa gamau y mae’n briodol eu cymryd dan yr amgylchiadau.
Os bydd gofyn i chi gynnal cyfweliadau gyda neu archwiliadau o unrhyw rai o’r partïon sy’n gysylltiedig â’r achos, rhaid i chi baratoi nodiadau manwl, gan gofnodi materion mewn ffordd nad yw’n gamarweiniol neu’n dangos tuedd – er enghraifft, gan sicrhau na fyddwch yn hepgor gwybodaeth berthnasol. Gallai sefyllfa godi lle y bydd eich archwiliad yn nodi risg i iechyd presennol yr unigolyn nad ydynt yn ymwybodol ohono, neu angen i ystyried camau diogelu i’w diogelu rhag niwed. Os bydd hyn yn digwydd, ac os byddwch yn ansicr ynghylch pa gamau sy’n briodol dan yr amgylchiadau, dylech geisio cyngor y parti sy’n eich cyfarwyddo neu’ch corff amddiffyn.
Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau ynghylch diogelu gwybodaeth gyfrinachol rhag datgeliad amhriodol. Mae hyn yn golygu gweithio yn unol â’r egwyddorion cyffredinol yn Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion (gweler paragraffau 8–10), ac ystyried y canllawiau am ddatgeliadau sy’n cael eu gorchymyn gan y llys – neu sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r gofynion gweithdrefnol sy’n ymwneud ag achos penodol (Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion, paragraffau 90–94). Rhaid i chi barchu’r gofyniad i beidio datgelu gwybodaeth sy’n destun braint gyfreithiol.6
Mae’r term braint gyfreithiol yn cyfeirio at ddau fath o ddiogelwch rhag datgeliad. Mae braint cyngor cyfreithiol yn diogelu cyfathrebu rhwng cyfreithiwr a chleient fel rhan o roi a chael cyngor cyfreithiol. Mae braint ymgyfreitha yn diogelu cyfathrebu rhwng cyfreithwyr, eu cleientiaid, ac unrhyw drydydd parti (gan gynnwys tystion arbenigol) fel rhan o sicrhau cyngor neu wybodaeth mewn perthynas ag ymgyfreitha presennol neu a gaiff ei ystyried yn y dyfodol. (Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr).
Os bydd sefyllfaoedd o fewn y broses gyfreithiol lle y byddwch yn pryderu am y pwysau arnoch i wneud datgeliad gwybodaeth amhriodol, neu y gallai gwybodaeth fod wedi cael ei hanfon atoch heb sicrhau caniatâd yr unigolyn, dylech geisio cyngor y cyfreithiwr sy’n eich cyfarwyddo neu’r llys (neu gorff cyfatebol).
Rhaid i chi sicrhau bod gennych chi yswiriant neu indemniad priodol neu ddigonol sy’n cynnwys cwmpas llawn eich arfer (Arfer meddygol da, 101), ac mae hyn yn cynnwys unrhyw waith fel tyst arbenigol. Yn ogystal, pan fyddwch yn meddu ar drwydded i ymarfer, rhaid cynnwys cwmpas llawn eich arfer yn eich arfarniadau ac yn y broses ailddilysu.