Atodiad - Dyfyniadau o Arfer meddygol da
Bod yn gymwys
1 Rhaid i chi fod yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, rolau arwain neu reoli ffurfiol, ymchwil ac addysgu.
2 Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cymhwysedd.
3 Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r canllawiau a’r datblygiadau diweddaraf sy’n effeithio ar eich gwaith.
4 Rhaid i chi ddilyn y gyfraith, ein canllawiau ar safonau proffesiynol, a rheoliadau eraill sy’n berthnasol i’ch gwaith.
5 Rhaid eich bod yn meddu ar y sgiliau Saesneg angenrheidiol er mwyn darparu gofal ac arfer o safon da yn y DU.
Cynnal, datblygu a gwella eich perfformiad
11 Rhaid i chi gadw’ch gwybodaeth a’ch sgiliau proffesiynol yn gyfredol.
12 Pan fyddwch yn ymuno â sefydliad, neu pan fydd eich rôl yn newid yn sylweddol drwy gydol eich gyrfa, dylech fod yn fodlon chwilio am, a chymryd rhan mewn cyfleoedd cymorth strwythuredig a gynigir gan eich cyflogwr neu’ch corff contractio, megis cynlluniau mentora neu hyfforddi.
13 Rhaid i chi gymryd camau i fonitro, cynnal, datblygu a gwella eich perfformiad ac ansawdd eich gwaith, gan gynnwys cymryd rhan mewn systemau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd er mwyn hyrwyddo diogelwch cleifion ar draws cwmpas cyfan eich ymarfer.
Mae hyn yn cynnwys:
- cyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau ynghylch gwella ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau
- cymryd rhan mewn adolygiadau ac archwiliadau rheolaidd o’ch gwaith, a gwaith eich tîm, ac ymateb mewn ffordd adeiladol i’r canlyniadau, gan gymryd camau i fynd i’r afael â phroblemau, ac ymgymryd â hyfforddiant pellach yn ôl yr angen
- cymryd rhan mewn hyfforddiant a/neu ddatblygiad proffesiynol parhaus yn rheolaidd
- myfyrio yn rheolaidd ar eich safonau ymarfer a’r gofal yr ydych chi’n ei ddarparu, gan gynnwys
- myfyrio ar unrhyw adborth adeiladol sydd ar gael i chi
- ystyried sut y mae’ch profiad mewn bywyd, eich diwylliant a’ch credoau yn dylanwadu ar eich rhyngweithio gydag eraill a sut y gallai effeithio ar y penderfyniadau yr ydych yn eu gwneud a’r gofal yr ydych yn ei ddarparu.
Trin cleifion yn deg a pharchu eu hawliau
22 Rhaid i chi drin gwybodaeth am gleifion fel gwybodaeth gyfrinachol, gan gynnwys ar ôl marwolaeth claf. Rhaid i chi ddilyn ein canllaw mwy manwl ar Gyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.
Bod yn agored os bydd pethau yn mynd o le
46 Rhaid i chi ymateb mewn ffordd brydlon, llawn a gonest i gwynion. Rhaid i chi beidio â chaniatáu i gŵyn claf gael effaith niweidiol ar y gofal neu’r driniaeth yr ydych yn ei darparu neu’n ei threfnu.
Trin cydweithwyr gyda charedigrwydd, cwrteisi a pharch
48 Rhaid i chi drin cydweithwyr3 gyda caredigrwydd, cwrteisi a pharch.
49 Er mwyn meithrin a chynnal perthnasoedd rhyngbersonol a gwaith tîm effeithiol, rhaid i chi:
- wrando ar gydweithwyr
- cyfathrebu mewn ffordd glir, cwrtais ac ystyriol
- cydnabod a dangos parch at sgiliau a chyfraniadau cydweithwyr
- cydweithio gyda chydweithwyr a bod yn fodlon arwain neu ddilyn yn ôl yr amgylchiadau.
50 Pan fyddwch ar ddyletswydd, rhaid i chi fod yn hygyrch i gydweithwyr sy’n ceisio gwybodaeth, cyngor neu gymorth.
51 Rhaid i chi fod yn dosturiol tuag at gydweithwyr sy’n cael problemau gyda’u perfformiad neu eu hiechyd. Ond rhaid i chi roi diogelwch cleifion yn gyntaf bob amser.
Mae ‘Cydweithwyr’ yn golygu unrhyw un yr ydych yn gweithio gyda nhw, os ydynt yn weithiwyr meddygol proffesiynol neu beidio.
Cofnodi eich gwaith mewn ffordd glir, manwl a darllenadwy
69 Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion ffurfiol o’ch gwaith (gan gynnwys cofnodion cleifion) yn glir, yn fanwl, yn gyfoes6 ac yn ddarllenadwy.
71 Rhaid i chi gadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am gleifion, cydweithwyr neu eraill mewn ffordd ddiogel, ac yn unol ag unrhyw ofynion cyfraith diogelu data, a rhaid i chi ddilyn ein canllaw ynghylch Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion.
Mae cyfoes yn golygu creu cofnodion ar yr un pryd â’r digwyddiadau yr ydych yn eu cofnodi, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny.
Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb
81 Rhaid i chi sicrhau bod eich ymddygiad yn cyfiawnhau ymddiriedaeth cleifion ynoch chi ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn eich proffesiwn.
82 Rhaid i chi wastad fod yn onest am eich profiad, eich cymwysterau a’ch rôl bresennol.
83 Os bydd claf, cydweithiwr, neu unrhyw un arall yr ydych yn cael cyswllt gyda nhw yn eich rôl broffesiynol yn gofyn am eich enw cofrestredig a/neu gyfeirnod CMC, rhaid i chi roi’r wybodaeth hon iddynt.
84 Rhaid i chi fod yn onest wrth ymwneud yn ariannol ac yn fasnachol gyda chleifion, cyflogwyr, yswirwyr, indemniwyr a sefydliadau neu unigolion eraill.
Pob cyfathrebu proffesiynol
88 Rhaid i chi fod yn onest ac yn ddibynadwy, gan gynnal cyfrinachedd cleifion yn eich holl gyfathrebu proffesiynol ysgrifenedig, llafar a digidol.
89 Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chyfleu fel gweithiwr meddygol proffesiynol yn fanwl, ac nad yw’n ffug neu’n gamarweiniol. Mae hyn yn golygu:
- bod yn rhaid i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
- bod yn rhaid i chi beidio â hepgor unrhyw wybodaeth berthnasol yn fwriadol
- bod yn rhaid i chi beidio â lleihau neu fychanu risgiau niwed
- bod yn rhaid i chi beidio â chyflwyno barn fel ffaith ddiamau.
Rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau
94 Mae’n rhaid i chi beidio â chaniatáu i unrhyw fuddiannau sydd gennych i effeithio ar neu i ymddangos eu bod yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn cynnig, yn darparu neu’n presgripsiynu triniaethau, yn cyfeirio cleifion, neu’n comisiynu gwasanaethau.
95 Os byddwch yn wynebu gwrthdaro rhwng buddiannau, rhaid i chi fod yn agored amdano gyda chleifion a chyflogwyr, ei ddatgan yn unol â threfniadau lleol, a bod yn barod i eithrio eich hun rhag gwneud penderfyniadau. Rhaid i chi ddilyn ein canllawiau mwy manwl yn Trefniadau ariannol a masnachol a gwrthdaro rhwng buddiannau.
96 Rhaid i chi beidio â gofyn am na derbyn – gan gleifion, cydweithwyr neu eraill – unrhyw daliadau cymhelliant, rhoddion na lletygarwch y gallai effeithio ar neu ymddangos ei fod yn effeithio ar y ffordd yr ydych chi’n cynnig, yn darparu neu’n rhagnodi triniaethau, yn cyfeirio neu’n comisiynu gwasanaethau i gleifion. Rhaid i chi beidio â chynnig cymhellion o’r fath i eraill.
Cydweithredu gyda gofynion cyfreithiol a rheoliadol
98 Er mwyn cynnal diogelwch cleifion, rhaid i chi gydweithredu gydag ymchwiliadau ffurfiol, ymchwiliadau i ddiogelwch cleifion, a gweithdrefnau cwyno. Rhaid i chi ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol a bod yn agored ac yn onest.
101 Rhaid i chi sicrhau bod gennych chi yswiriant neu indemniad priodol a digonol sy’n cynnwys cwmpas llawn eich ymarfer. Dylech barhau i adolygu lefel eich yswiriant yn rheolaidd.