Rheolau am hysbysebu triniaethau cosmetig

Rhaid i ddeunyddiau marchnata am driniaethau cosmetig fod yn ffeithiol, yn glir ac nid yn gamarweiniol. Rhaid iddynt beidio â thargedu plant neu bobl ifanc ac ni ddylent geisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniadau’n gyflym (er enghraifft, drwy ddefnyddio cynigion arbennig â therfyn amser). Ni ddylid cynnig triniaethau cosmetig fel gwobrau.

Os oes gennych bryderon a’ch bod am wirio a yw’r hysbysebion a ddefnyddir gan feddyg, cydymaith meddygol, cydymaith anesthesia, clinig neu ysbyty yn dderbyniol, gallwch gael gwybod am hyn ar wefan yr Awdurdod Safonau Hyrwyddo.