Cwrdd â’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cosmetig
- Sefydliadau defnyddiol eraill
- Cwrdd â’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia cosmetig
- Rheolau am hysbysebu triniaethau cosmetig
- Cyn eich apwyntiad cyntaf
Rhai gwestiynau i’w gofyn
- Ai chi fydd yn cynnal y driniaeth? (Os na, gofynnwch am gael cwrdd â'r meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia a fydd yn eich trin).
- Ydych chi wedi gwneud y driniaeth hon o’r blaen?
- Beth mae’r driniaeth yn ei olygu a faint o amser fydd hi’n ei gymryd?
- Faint o amser fydd hi’n ei gymryd i mi wella?
- Pa fath o ganlyniad allaf fi ei ddisgwyl?
- Mae fy nhriniaeth yn cynnwys mewnblaniadau neu ddeunydd chwistrellu – allwch chi gadarnhau bod y rhain yn bodloni canllawiau cymeradwy?
- Beth yw’r risgiau a’r cymhlethdodau posibl i mi yn gysylltiedig â’r driniaeth?
- Am ba mor hir fydd y manteision yn para? A fydd angen i mi gael y driniaeth eto?
- Pa gostau posibl sy’n gysylltiedig, gan gynnwys os aiff rhywbeth o’i le neu os oes angen ei hailadrodd?
- Beth sydd wedi’i gynnwys (a heb ei gynnwys) yn yr ôl-ofal rydych chi’n ei ddarparu?
- A oes gennych chi yswiriant neu indemniad? A beth yw’r broses os aiff rhywbeth o’i le?
Dim ond rhai cwestiynau enghreifftiol yw’r rhain. I gael rhagor o awgrymiadau, ewch i wefan Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr neu gwefan Cymdeithas Brydeinig yr Ymarferwyr Plastig, Adferol a Steetig.
Rhoi’r wybodaeth gywir i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch gydymaith anesthesia am unrhyw feddyginiaethau rydych yn eu cymryd a materion eraill sy’n ymwneud â’ch iechyd.
Efallai y bydd eisiau ymgynghori â’ch meddyg teulu neu feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia arall a allai fod yn eich trin. Mae angen eich caniatâd arnynt i wneud hyn – mae gennych hawl i ddweud na, ond gall hyn effeithio ar farn y meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia ynghylch pa mor ddiogel yw’r driniaeth ac a ddylid bwrw ymlaen â hi.