Sefydliadau defnyddiol eraill
Mae gan y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol gofrestr o fewnblaniadau'r fron a chosmetig. Nod hyn yw casglu data am bob llawdriniaeth mewnblaniadau’r fron a gynhelir yn breifat a chan y GIG, a bydd yn ehangu i gynnwys mathau eraill o fewnblaniadau yn y dyfodol. Mae’r gofrestr yn helpu i sicrhau bod modd olrhain cleifion os bydd y mewnblaniad yn cael ei alw’n ôl.
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yw rheoleiddiwr annibynnol y DU ar gyfer hysbysebion ar draws pob cyfrwng. Mae ei waith yn cynnwys cymryd camau ar sail cwynion a mynd ati’n rhagweithiol i wirio’r cyfryngau i gymryd camau yn erbyn hysbysebion camarweiniol, niweidiol neu dramgwyddus.
Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn rheoleiddio meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol fel mewnblaniadau’r fron, a chydrannau gwaed ar gyfer trallwysiadau yn y DU.
Mae’r Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth lawfeddygol am ofal iechyd annibynnol i helpu cleifion i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.