Ydych chi’n cael triniaeth gosmetig dramor?

Os ydych chi'n ystyried cael triniaeth gosmetig y tu allan i'r DU, efallai y byddwch hefyd yn ystyried:

  • a oes gan y meddygon a’r darparwyr triniaeth yr un safonau gofal a diogelwch ag yn y DU 
  • a allai unrhyw rwystrau iaith atal cyfathrebu a thrafodaeth dda am eich triniaeth 
  • trefniadau ar gyfer gofal dilynol a delio ag unrhyw gymhlethdodau a allai godi 
  • goblygiadau posibl o ran y gost o orfod dychwelyd dramor i gael unrhyw ofal dilynol angenrheidiol 
  • unrhyw risgiau ychwanegol a allai godi wrth deithio ar gyfer y driniaeth – er enghraifft, risg uwch o thrombosis gwythiennau dwfn yn sgil hedfan 
  • trefniadau yswiriant meddygol a phwy fydd yn talu os bydd rhywbeth yn mynd o’i le 
  • a yw eich yswiriant teithio ar gyfer y daith yn ddigonol ac a fydd yn cynnwys y driniaeth gosmetig.