Gwybod beth i’w ddisgwyl
Cael eich cydsyniad
Rhaid i’r meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia a fydd yn cynnal eich triniaeth siarad â chi a chael eich cydsyniad er mwyn i’r driniaeth fynd yn ei blaen. Rhaid iddynt beidio â dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i staff eraill, oherwydd dim ond y meddyg, y cydymaith meddygol neu’r cydymaith anesthesia a fydd yn cynnal y driniaeth sy’n gwybod beth y gallant ei gyflawni yn eich amgylchiadau penodol chi.
Mae rhoi eich cydsyniad i driniaeth yn fwy na dim ond llofnodi ffurflen. Rhaid i chi gael digon o wybodaeth am y driniaeth, gan gynnwys unrhyw anesthetig sydd ei angen, er mwyn gallu rhoi eich cydsyniad. Rhaid i hyn gynnwys trafodaeth am risgiau a manteision a chanlyniad tebygol eich triniaeth.
Rhaid i’ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia wrando arnoch ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y driniaeth. Os nad ydych yn deall rhywbeth, gallwch bob amser ofyn iddynt egluro eto.
Rhaid i’ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia hefyd roi digon o amser i chi bwyso a mesur manteision ac anfanteision cael y driniaeth ac i benderfynu a ydych am fwrw ymlaen.
Bydd maint y wybodaeth a’r amser yn amrywio o driniaeth i driniaeth ac o berson i berson – yr hyn sy’n bwysig yw bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a digon o amser i’w hystyried, er mwyn i chi allu gwneud eich penderfyniad.
Eich hawl i newid eich meddwl
Hyd yn oed ar ôl i chi benderfynu bwrw ymlaen â’r driniaeth, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd. Rhaid i’ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia roi gwybod i chi am hyn ac egluro beth fydd y goblygiadau ymarferol ac ariannol os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen.
Ystyried y manteision cyffredinol i chi
Hyd yn oed os ydych chi’n siŵr eich bod eisiau cael triniaeth, mae’n rhaid i’ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia ddod i’w barn eu hunain ynghylch a fydd y driniaeth o fudd cyffredinol i chi. Byddant yn ystyried eich dymuniadau a’ch dewisiadau, nid oes dyletswydd gyfreithiol na phroffesiynol arnynt i ddarparu’r driniaeth os nad ydynt yn credu ei bod yn briodol.
Os byddant yn penderfynu peidio â rhoi’r driniaeth, dylai egluro pam a thrafod dewisiadau eraill sydd ar gael, gan gynnwys eich hawl i ail farn.
Rhaid i'ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia ystyried eich anghenion seicolegol a'ch cyfeirio at gydweithiwr profiadol os yw'r gofal sydd ei angen arnoch y tu hwnt i'w harbenigedd nhw. Hefyd, os ydynt yn teimlo na allant gynnal y driniaeth yn ddiogel am unrhyw reswm, rhaid iddynt eich cyfeirio at ymarferydd arall.
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Mae’n rhaid i’ch meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia roi gwybod i chi os oes ganddynt unrhyw fuddiannau ariannol neu fasnachol yn y driniaeth rydych chi’n ei hystyried, neu yn y clinig lle byddech chi’n ei chael, felly gallwch benderfynu a allai’r buddiannau hynny ddylanwadu ar y cyngor maen nhw’n ei roi i chi. Er enghraifft, efallai mai meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia sy’n berchen ar yr hawliau i driniaeth, neu efallai y bydd aelod o’i deulu’n cael cyfran o’r elw o glinig
Triniaethau cosmetig y gellir eu chwistrellu, ar bresgripsiwn yn unig
Rhaid i’ch meddyg beidio â phresgripsiynu meddyginiaethau cosmetig y gellir eu chwistrellu (fel Botox®, Dysport® or Vistabel®) dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu ar-lein.