Cyn eich apwyntiad cyntaf
Cael rhagor o wybodaeth a thrafod
Os ydych chi’n ystyried cael triniaeth gosmetig, gwnewch eich gwaith ymchwil ar y driniaeth, y meddyg a fydd yn eich trin, a’r man lle bydd yn cael ei chynnal. Mae gwefan NHS Choices yn lle da i ddechrau.
Efallai yr hoffech siarad am hyn gyda theulu a ffrindiau, meddyg teulu neu gydymaith meddygol, neu gael gwybod am brofiadau pobl sydd wedi cael triniaethau tebyg – er enghraifft, drwy fforymau trafod ar-lein.
Gwirio cofrestriad eich meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia
Gallwch wirio ein cofrestrau i wneud yn siŵr bod eich meddyg, eich cydymaith meddygol neu’ch cydymaith anesthesia yn bodloni ein gofynion ac yn gallu gweithio yn y DU.
Beth os nad meddyg yw eich ymarferydd?
Gwyddom y gall llawer o driniaethau gael eu cynnal gan weithwyr proffesiynol eraill. Gall hyn gynnwys cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia sydd hefyd wedi’u cofrestru gyda’r GMC. Unwaith eto, mae gan NHS Choices (gweler uchod) gyngor defnyddiol ar hyn.
Gwirio eich clinig neu ysbyty
Ar gyfer triniaethau llawfeddygol
Os ydych chi’n ystyried triniaeth gosmetig lawfeddygol, gwnewch yn siŵr fod y clinig neu’r ysbyty wedi’i gofrestru gyda’r corff rheoleiddio perthnasol, sef:
- Cymru – Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
- Lloegr – Y Comisiwn Ansawdd Gofal
- Gogledd Iwerddon – Yr Awdurdod Rheoleiddio a Gwella Ansawdd
- Yr Alban – Healthcare Improvement Scotland.
Mae’r rheoleiddwyr hyn yn arolygu clinigau ac ysbytai, i sicrhau bod eu safonau ymarfer yn cael eu bodloni a bod gofal yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd diogel. Gallwch gael adroddiadau arolygu ar eu gwefannau.
Mae gan wefan Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr wybodaeth a all eich helpu i ddewis ysbyty a llawfeddyg – ni waeth pa ran o’r DU rydych chi’n byw ynddi – sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir ar gyfer y driniaeth.
Ar gyfer triniaethau nad ydynt yn llawfeddygol
Dylai sefydliadau sy’n darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol, fel llenwadau croenol neu Botox®, wneud hynny hefyd mewn amgylchedd diogel ac addas. Yn yr Alban, mae sefydliadau sy’n darparu’r triniaethau hyn yn cael eu rheoleiddio gan Healthcare Improvement Scotland (gweler uchod). Ledled y DU, mae rhai darparwyr hefyd yn cofrestru’n wirfoddol gyda sefydliadau fel: