Penderfyniadau am gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia

Rydym ni’n cyhoeddi ein penderfyniadau am gymdeithion meddygol (PA) a chymdeithion anaesthesia (AA), gan gynnwys:

  • penderfyniadau sy’n ymwneud â dileu enwau oddi ar y gofrestr.
  • ail-ymuno â’r gofrestr.
  • diwygiadau i benderfyniadau blaenorol ynghylch tynnu enwau oddi ar y gofrestr a gwrthod ceisiadau i ail-ymuno â’r gofrestr.
  • canlyniadau penderfyniadau apêl a'r rhesymau drostynt.

Ar ôl i ni roi gwybod i PA neu AA am benderfyniad, byddwn yn cyhoeddi dolen i’r penderfyniad am eu cais i ymuno â'r gofrestr. Efallai na fydd modd cyhoeddi ar unwaith mewn rhai amgylchiadau, ac yn yr achosion hynny byddwn yn cyhoeddi’r penderfyniadau cyn gynted ag y bo modd.

Darllenwch ein penderfyniadau am gofrestru Cymdeithion Meddygol a Chymdeithion Anaesthesia.

Polisïau a Chanllawiau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau

Rydym ni’n cyhoeddi polisïau a chanllawiau ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â chymdeithion meddygol (PA) a chymdeithion anaesthesia (AA)