Gweithio gyda chydweithwyr
Arweinyddiaeth
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Mae’r rhan fwyaf o weithwyr meddygol proffesiynol yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol. Mae gwaith y timau hyn yn canolbwyntio ar anghenion a diogelwch cleifion yn bennaf. Mae arweinydd ffurfiol y tîm yn gyfrifol am berfformiad y tîm, ond mae’r tîm cyfan yn rhannu’r cyfrifoldeb dros nodi problemau, eu datrys a chymryd y camau priodol.
Rhaid eich bod yn fodlon gweithio gyda phobl a thimau eraill er mwyn cynnal a gwella perfformiad, gan newid systemau yn ôl yr angen er lles cleifion.
Dylech barchu rolau arwain a rheoli aelodau eraill y tîm, gan gynnwys cydweithwyr anfeddygol.
Parch tuag at gydweithwyr
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Mae’n hanfodol bod gweithiwr meddygol proffesiynol yn gweithio mewn ffordd effeithiol gyda chydweithwyr o ddisgyblaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill, o fewn a rhwng timau a sefydliadau, er mwyn sicrhau gofal da a diogel ar gyfer cleifion. Beth bynnag fo cyfansoddiad y timau yr ydych yn gweithio ynddynt, rhaid i chi barchu a gwerthfawrogi sgiliau a chyfraniad pob unigolyn.
Rhaid i chi fynd i’r afael gyda gwahaniaethu pan fydd yn codi, gan annog eich cydweithwyr i wneud yr un peth. Rhaid i chi drin eich cydweithwyr mewn ffordd deg a gyda pharch. Ni ddylech eu bwlio neu eu poenydio neu wahaniaethu yn eu herbyn mewn ffordd annheg. Dylech herio ymddygiad cydweithwyr nad ydynt yn cyflawni’r safon hon.
Rhaid i chi ddilyn polisïau eich sefydliad ynghylch cyflogaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r rhain. Rhaid i chi sicrhau cyngor am y materion hyn yn ôl yr angen.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Rhaid i chi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy greu neu gynnal amgylchedd gwaith cadarnhaol sy’n rhydd rhag gwahaniaethu, bwlio ac aflonyddu. Rhaid i chi sicrhau bod polisïau’ch sefydliad am gyflogaeth a chydraddoldeb ac amrywiaeth yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn adlewyrchu’r gyfraith.3
Er enghraifft, rhaid i chi sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu deddfwriaeth cyflogaeth a deddfwriaeth gysylltiedig yn fanwl, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010. Os ydych yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon, trowch at The Gaps between GB and NI Equality Law (Ionawr 2011), sy’n nodi’r gwahaniaethau rhwng y fframwaith deddfwriaethol a’r amddiffyniadau yng Ngogledd Iwerddon.
Cyfathrebu o fewn timau a rhwng timau
Mae modd i dimau amlddisgyblaethol gynnig manteision i’r gofal ar gyfer cleifion pan fydd y cyfathrebu yn amserol ac yn berthnasol, ond mae modd i broblemau godi pan fo’r cyfathrebu yn wael neu pan na cheir eglurder ynghylch cyfrifoldebau.
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyfleu gwybodaeth berthnasol mewn ffordd eglur i:
- gydweithwyr yn eich tîm
- cydweithwyr mewn gwasanaethau eraill yr ydych yn gweithio gyda nhw
- cleifion a’r rhai y maent yn agos iddynt mewn ffordd y gallant ei deall, gan nodi pwy y bydd modd iddynt gysylltu â nhw os bydd ganddynt gwestiynau neu bryderon. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan rennir gofal cleifion rhwng timau.
Ni ddylech gymryd y bydd rhywun arall yn y tîm yn trosglwyddo’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gofal claf. Dylech wneud yn siŵr os nad ydych yn eglur ynghylch y cyfrifoldeb dros gyfleu gwybodaeth, gan gynnwys yn ystod trosglwyddiadau, i aelodau’r tîm gofal iechyd, gwasanaethau eraill sy’n ymwneud gyda darparu gofal a’r rhai sy’n agos atynt.
Dylech annog aelodau’r tîm i gydweithio a cyfathrebu mewn ffordd effeithiol gyda’i gilydd a gyda thimau neu gydweithwyr eraill y maent yn gweithio gyda nhw. Os byddwch yn nodi problemau sy’n codi oherwydd cyfathrebu gwael neu gyfrifoldebau aneglur o fewn timau neu rhwng timau, dylech gymryd camau i ddelio gyda’r rhain.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth angenrheidiol ac amserol i’r rhai yr ydych yn eu rheoli, er mwyn iddynt allu cyflawni eu rolau mewn ffordd effeithiol. Yn ogystal, dylech gyfleu unrhyw wybodaeth berthnasol i reolwyr uwch a sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud er mwyn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r tîm ar fyrder.
Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod systemau mewn grym i gyfleu gwybodaeth am ofal cleifion.
Cyfrifoldeb ac atebolrwydd
Os ydych yn cyflawni rôl rheoli neu beidio, mae’ch dyletswydd bennaf tuag at gleifion. Rhaid i chi roi’r pwys mwyaf ar eu gofal, eu hurddas a’u diogelwch nhw. Yn ogystal, mae gennych ddyletswydd tuag at iechyd y gymuned ehangach, eich proffesiwn, eich cydweithwyr a’r sefydliad yr ydych yn gweithio ynddo.
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Ar y cyd gyda’ch cyflogwr, dylech bennu cwmpas eich rôl a’r cyfrifoldebau y mae’ch rôl yn eu cynnwys mewn ffordd eglur, gan gynnwys cyfrifoldebau anghlinigol. Dylech godi unrhyw faterion y ceir ansicrwydd neu amwysedd yn eu cylch ac y maent yn ymwneud gyda chyfrifoldebau, gan gynnwys o fewn timau amlddisgyblaethol neu aml-asiantaeth, er mwyn egluro:
- trefniadau goruchwylio ar gyfer staff a llinellau atebolrwydd ar gyfer y gofal a ddarparir i gleifion unigol (am ragor o wybodaeth am oruchwyliaeth, gweler paragraphs 60 - 62 yr arweiniad hwn)
- pwy ddylai gyflawni rolau arweiniol neu ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli llinell
- y sawl sy’n gyfrifol am ansawdd a safon y gofal a ddarparir gan y tîm.
Rhaid i chi gydnabod a gweithio o fewn cyfyngiadau’ch cymhwysedd ac mae’n rhaid i chi sicrhau, hyd eithaf eich gallu, eich bod yn cael eich goruchwylio mewn ffordd briodol ar gyfer unrhyw dasg y byddwch yn ei chyflawni. Rhaid i chi fod yn fodlon gofyn am gyngor a chymorth gan gydweithwyr yn ôl yr angen.
Rhaid i chi sicrhau bod y bobl yr ydych yn eu rheoli yn cael eu goruchwylio mewn ffordd briodol, boed hynny trwy gyfrwng goruchwyliaeth bersonol agos (ar gyfer cydweithwyr sydd newydd gymhwyso neu gydweithwyr sy’n cael eu hyfforddi, er enghraifft) neu thrwy gyfrwng system wedi’i rheoli gyda strwythurau adrodd eglur.
Os ydych yn gyfrifol am oruchwylio staff, beth bynnag fo’ch rôl, rhaid i chi ddeall graddau’ch cyfrifoldebau goruchwylio, rhoi cyfarwyddiadau eglur am yr hyn a ddisgwylir ac mae’n rhaid i chi fod ar gael i ateb cwestiynau neu ddarparu help yn ôl yr angen. Rhaid i chi gynorthwyo unrhyw gydweithwyr yr ydych yn eu goruchwylio neu’n eu rheoli i ddatblygu eu rolau a’u cyfrifoldebau trwy ddirprwyo tasgau a chyfrifoldebau mewn ffordd briodol. Rhaid i chi deimlo’n fodlon bod y staff yr ydych yn eu goruchwylio yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni eu rolau.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Os ydych yn gyfrifol am arwain neu reoli tîm, rhaid i chi sicrhau bod staff yn eglur ynghylch:
- eu rolau a’u hamcanion unigol ac fel tîm
- eu cyfrifoldebau personol ac ar y cyd dros ddiogelwch cleifion a’r cyhoedd
- eu cyfrifoldebau personol ac ar y cyd dros gofnodi a thrafod problemau mewn ffordd onest.
Dylech chi:
- gyfrannu at y gwaith o sefydlu a chynnal systemau er mwyn nodi a rheoli risgiau o fewn maes cyfrifoldeb y tîm
- sicrhau bod holl aelodau’r tîm yn cael cyfle i gyfrannu at drafodaethau
- sicrhau bod aelodau’r tîm yn deall y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud a’r broses er mwyn eu gweithredu
- sicrhau bod gofal pob claf yn cael ei gydlynu a’i reoli mewn ffordd gywir.
Rydych yn atebol i CMC dros eich ymddygiad eich hun ac unrhyw gyngor meddygol y byddwch yn ei roi. Mae hyn yn cynnwys adegau pan fyddwch yn aelod o gorff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer sefydliad iechyd neu ofal cymdeithasol, megis ysbyty neu fwrdd iechyd.
Os byddwch chi, fel aelod o fwrdd neu gorff tebyg, yn pryderu y byddai penderfyniad yn golygu y byddai cleifion neu iechyd y gymuned ehangach mewn perygl o ddioddef niwed difrifol, dylech godi’r mater gyda’r cadeirydd ar fyrder. Yn ogystal, rhaid i chi ofyn bod eich gwrthwynebiadau yn cael eu cofnodi’n ffurfiol a dylech ystyried cymryd camau pellach yn unol â’n harweiniad yn Mynegi pryderon a ddiogelwch cleifion a chymryd camau 4
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch Llundain, CMC