Arweinyddiaeth a rheoli

Am ein canllawiau Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae bod yn weithiwr meddygol proffesiynol da yn golygu mwy na bod yn glinigydd da yn unig. Wrth gyflawni eu rôl o ddydd i ddydd, mae modd i holl aelodau’r tîm gofal iechyd gynnig arweinyddiaeth i’w cydweithwyr a gweledigaeth ar gyfer y sefydliadau y maent yn gweithio iddynt ac ar gyfer y proffesiwn cyfan. Fodd bynnag, oni bai bod gweithwyr meddygol proffesiynol yn fodlon cyfrannu at wella ansawdd gwasanaethau a chodi eu llais pan fydd pethau anghywir yn digwydd, mae gofal cleifion yn debygol o ddioddef.

Mae’r canllawiau hyn, sy’n rhan o’r safonau proffesiynol, yn nodi cyfrifoldebau rheoli ac arwain ehangach meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn) yn y gweithle, gan gynnwys:

  • cyfrifoldebau sy’n ymwneud gyda materion cyflogaeth
  • addysgu a hyfforddi
  • cynllunio, defnyddio a rheoli adnoddau
  • mynegi pryderon a gweithredu yn eu cylch
  • helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau.

Mae’r egwyddorion a nodir yn yr arweiniad hwn yn berthnasol i bob gweithiwr meddygol proffesiynol, os w'n gwneud gwaith uniongyrchol gyda chleifion neu os cyflawni rôl rheoli ffurfiol.1 

Mae’r safonau arfer da yn berthnasol i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel gweithwyr meddygol proffesiynol ac fel ‘chi’ yn y canllawiau hyn). Fel gyda’n holl safonau proffesiynol, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’n gweithwyr proffesiynol cofrestredig i’r graddau y maent yn berthnasol i ymarfer yr unigolyn.

Bydd y ffordd y bydd yr egwyddorion hyn yn berthnasol ar lefel ymarferol yn dibynnu ar eu rôl a chyfrifoldeb unigolyn. Er enghraifft, bydd y ffordd y bydd gweithiwr proffesiynol dan oruchwyliaeth yn dangos arweinyddiaeth neu’n cymryd cyfrifoldeb dros reoli adnoddau yn wahanol i’r ffordd y bydd gweithiwr proffesiynol sy'n cyflawni rôl sy’n fwy annibynnol neu’n uwch yn gwneud hynny.

Rydych yn parhau i fod yn gyfrifol am ddiogelwch a lles cleifion pan fyddwch yn cyflawni dyletswyddau anghlinigol, gan gynnwys pan fyddwch yn gweithio fel rheolwr. Rydych yn parhau i fod yn atebol i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) dros eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd, hyd yn oed os byddai modd i rywun nad ydynt wedi cael hyfforddiant meddygol gyflawni’ch rôl.

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol ar draws y DU a dylid ei ddehongli yng nghyd-destun y trefniadau cenedlaethol a lleol perthnasol ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd. Mae’n nodi:

  • y dyletswyddau a’r egwyddorion sy’n berthnasol i bob gweithiwr meddygol proffesiynol
  • y cyfrifoldebau ychwanegol a fydd yn berthnasol i rai gweithiwr meddygol proffesiynol yn unig efallai (er enghraifft, y rhai mae ganddynt gyfrifoldebau rheoli neu arwain ar lefel bersonol, ar lefel tîm, ar lefel sefydliad neu ar lefel bolisi). Gallai hyn gynnwys rolau rheoli ffurfiol, fel cyfarwyddwyr clinigol neu feddygol, neu rolau sy’n gyfrifol am oruchwylio a rheoli staff, adnoddau a gwasanaethau.
1

Er bod yr egwyddorion hyn yn berthnasol i bob gweithiwr meddygol proffesiynol, beth bynnag fo’r rôl y maent yn ei gyflawni, roedd y dyfarniad yn Remedy UK Ltd, R (on the application of Remedy UK Ltd) v Cyngor Meddygol Cyffredinol [2010] EWHC 1245 (Admin) wedi canfod bod rhai rolau mor wahanol i rôl gwneud gwaith meddygol fel nad yw gweithdrefnau GMC ynghylch addasrwydd i wneud gwaith meddygol yn berthnasol iddynt. Fodd bynnag, mae gweithiwr meddygol proffesiynol yn parhau i fod yn atebol i CMC pan fyddant yn cyflawni ystod eang o rolau ym maes rheolaeth glinigol (er enghraifft, fel cyfarwyddwr clinigol neu feddygol) neu rolau anghlinigol eraill (er enghraifft, fel ymchwilydd neu addysgwr meddygol), hyd yn oed os na fydd angen gwybodaeth neu arbenigedd meddygol ar gyfer y rolau (er enghraifft, fel prif weithredwr ysbyty).

Sut y mae’r canllawiau hwn yn berthnasol i chi

Yn yr arweiniad hwn, defnyddir y termau ‘rhaid i chi’ a ‘dylech’ yn y ffyrdd canlynol.

  • Caiff ‘rhaid i chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswydd gyfreithiol neu foesegol y disgwylir i chi ei chyflawni (neu fod yn gallu cyfiawnhau pam na wnaethoch chi ddim).
  • Caiff 'dylech chi’ ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau neu egwyddorion sydd naill ai:
    • ddim yn berthnasol i chi neu i’r sefyllfa rydych chi ynddi ar hyn o bryd, neu
    • na allwch gydymffurfio â nhw oherwydd ffactorau y tu hwnt i’ch rheolaeth

Mae’r safonau proffesiynol yn disgrifio arfer da, ac ni fydd pob achos o wyro oddi wrthynt yn cael ei ystyried yn ddifrifol. Rhaid i chi ddefnyddio eich barn broffesiynol i ddilyn y safonau yn eich gwaith o ddydd I ddydd. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu egluro a chyfiawnhau eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Rydym yn dweud mwy am farn broffesiynol, a sut mae’r safonau proffesiynol yn ymwneud â’n prosesau, arfarnu ac ailddilysu addasrwydd i ymarfer ar ddechrau Arfer meddygol da.