Arweinyddiaeth a rheoli

Dyletswyddau gweithiwr meddygol proffesiynol yn y gweithle

1

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwneud cyfraniad pwysig at arweinyddiaeth a rheolaeth gwasanaethau iechyd a darpariaeth gofal iechyd ar draws y DU, fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol rai cyfrifoldebau dros ddefnyddio adnoddau; mae nifer yn gyfrifol am arwain timau hefyd, neu maent yn ymwneud gyda gweithgarwch goruchwylio cydweithwyr.

2

Gofal a diogelwch cleifion yw dyletswydd bennaf pob gweithiwr meddygol proffesiynol. Beth bynnag fo eich rôl, rhaid i chi gyflawni’r canlynol.

  1. Ymgysylltu gyda chydweithwyr2 er mwyn cynnal a gwella ansawdd a diogelwch gofal cleifion. 
  2. Cyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau ynghylch gwella ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau.
  3. Mynegi pryderon ynghylch diogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch.
  4. Dangos arweinyddiaeth a gwaith effeithiol fel tîm.
  5. Hyrwyddo amgylchedd gwaith sy’n rhydd rhag gwahaniaethu annheg, bwlio a phoenydio, gan ystyried y ffaith bod cydweithwyr a chleifion yn dod o gefndiroedd amrywiol.
  6. Cyfrannu at addysgu a hyfforddi meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys bod yn esiampl cadarnhaol.
  7. Defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon er lles cleifion a’r cyhoedd.
2

Y rhai yr ydych yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys rheolwyr gwasanaethau, beth bynnag yw eu rôl.