Cynllunio, defnyddio a rheoli adnoddau
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Beth bynnag fo’ch rôl neu’ch lefel o fewn eich sefydliad, os ydych yn feddyg yn gydymaith meddygol neu’n gydymaith anesthesia iau, heb fod ar raddfa hyfforddi neu fel arall, dylech fod yn fodlon dangos arweinyddiaeth wrth reoli a defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithiol. Mae hyn yn golygu y dylech fod yn barod i gyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau ynghylch:
- neilltuo adnoddau a phennu blaenoriaethau o fewn unrhyw sefydliad yr ydych yn gweithio ynddo
- comisiynu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth ehangach y cleifion.
Dylech fod yn meddu ar ddigon o ddealltwriaeth o’r ffordd y caiff cyllid ei neilltuo a’i reoli o fewn y gwasanaethau yr ydych yn gweithio ynddynt, er mwyn helpu gyda’ch rôl o ymrwymo adnoddau er lles cleifion.
Er mwyn lleihau gwastraff gymaint ag y bo modd, gwella gwasanaethau a hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau, dylech gymryd cyfrifoldeb ariannol dros ddarparu’ch gwasanaeth ar lefel sy’n briodol i’ch rôl. Dylech fod yn deall rolau a pholisïau asiantaethau lleol, a phan fo hynny’n berthnasol, asiantaethau rhanbarthol a chenedlaethol y maent yn ymwneud gyda gofal iechyd, os byddant yn effeithio ar eich rôl chi fel gweithiwr meddygol proffesiynol.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Os ydych yn gyfrifol am reoli adnoddau neu am gomisiynu neu ddarparu gwasanaethau iechyd, dylech fod yn meddu ar wybodaeth fanwl ynghylch sut y mae prosesau rheoli yn gweithio, a sut y maent yn effeithio ar y broses o ddarparu gofal ar gyfer cleifion.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys a’ch bod wedi cael yr hyfforddiant neu’r cyngor angenrheidiol ar gyfer unrhyw gyfrifoldebau ariannol y maent yn rhan o’ch rôl. Rhaid i chi sicrhau bod y sawl yr ydych yn eu rheoli yn meddu ar y sgiliau a’r cyngor angenrheidiol er mwyn cyflawni eu rolau.
Neilltuo adnoddau
Rhaid i bob meddyg sicrhau eu bod yn rhoi’r pwys mwyaf ar ofal eu cleifion. Fodd bynnag, gallai cyfyngiadau ar adnoddau effeithio ar y dewisiadau o ran triniaeth y bydd modd eu cynnig i gleifion.
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Os byddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch manteisio ar driniaethau fesul achos, heb gyfeirio at bolisi neu ganllawiau y cytunwyd arnynt, byddwch mewn perygl o gyflwyno elfennau o wahaniaethu annheg neu efallai na fyddwch yn ystyried hawliau cyfreithiol eraill y claf mewn ffordd gywir. Wrth wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio adnoddau, rhaid i chi gyflawni’r canlynol.
- Darparu’r gwasanaeth gorau ag y bo modd gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, a chan ystyried eich cyfrifoldebau tuag at eich cleifion a’r boblogaeth ehangach.
- Bod yn gyfarwydd gydag unrhyw bolisïau lleol a chenedlaethol y maent yn nodi meini prawf cytunedig ynghylch manteisio ar driniaeth benodol.21
- Sicrhau bod penderfyniadau ynghylch pennu blaenoriaethau sy’n effeithio ar gleifion yn deg ac yn cael eu seilio ar angen clinigol ac effeithiolrwydd tebygol triniaethau, ac nad ydynt wedi cael eu seilio ar ffactorau a allai gyflwyno unrhyw wahaniaethu wrth fanteisio ar ofal.22
- Bod yn agored ac yn onest gyda chleifion23 a gweddill y tîm gofal iechyd ynghylch y broses o wneud penderfyniadau a’r meini prawf ar gyfer gosod blaenoriaethau mewn achosion unigol.
Er enghraifft, fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol a chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a Rhwydwaith Canllawiau Rhyng-golegol yr Alban (SIGN).
Er enghraifft, oedran, lliw, diwylliant, anabledd, cefndir ethnig neu genedlaethol, rhyw, ffordd o fyw, statws priodasol neu statws rhiant, hil, crefydd neu gredoau, cyfeiriadedd rhywiol neu statws cymdeithasol-economaidd claf. Am wybodaeth bellach, trowch at Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os ydych yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon, trowch at The Gaps between GB and NI Equality Law (Ionawr 2011), sy’n nodi’r gwahaniaethau rhwng y fframwaith deddfwriaethol a’r amddiffyniadau yng Ngogledd Iwerddon.
A’r rhai y maent yn agos i’r claf, pan na fydd claf yn meddu ar alluedd, neu pan fyddant wedi gofyn i chi gyfathrebu gydag aelod o’r teulu, gofalwr neu ffrind.
Dylech gynnwys cydweithwyr, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, mewn trafodaethau ynghylch sut y dylid neilltuo adnoddau ehangach. Os bydd materion neu anghydfodau yn codi ynghylch neilltuo adnoddau, dylech geisio’u datrys trwy drafod dewisiadau gydag, er enghraifft, cleifion, y tîm gofal iechyd, cydweithwyr eraill (gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill) a rheolwyr. Dylech fod yn onest ag yn agored gyda chleifion pan allai cyfyngiadau ar adnoddau effeithio ar y dewisiadau sydd ar gael o ran triniaethau.24
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2020) Gwneud penderfyniadau a chaniatâd, paragraff 13.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Os oes gennych chi gyfrifoldeb neu rôl rheoli, bydd yn rhaid i chi ffurfio barn yn aml am ofynion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr adnoddau sydd ar gael. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, rhaid i chi ystyried eich dyletswydd bennaf dros ofal a diogelwch cleifion. Rhaid i chi ystyried unrhyw bolisïau lleol a chenedlaethol sy’n nodi meini prawf cytunedig er mwyn manteisio ar driniaethau penodol a neilltuo adnoddau, gan sicrhau bod y polisïau hyn ar gael i staff clinigol.
Os ydych yn pryderu am y ffordd y gallai penderfyniadau rheoli wrthdaro gyda’ch dyletswydd bennaf tuag at gleifion, rhaid i chi gymryd camau i reoli neu i ddelio gydag unrhyw wrthdaro; er enghraifft, trwy:
- ofyn am gyngor cydweithwyr
- datgelu’r gwrthdaro i’ch bwrdd neu i gorff arall sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau
- gofyn am gyngor cyrff proffesiynol neu reoleiddio allanol, gan gynnwys sefydliadau amddiffyn, yn ôl yr angen.
Gonestrwydd, uniondeb a gwrthdaro rhwng buddiannau
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Os oes gennych chi fuddiannau ariannol neu fuddiannau personol eraill mewn sefydliadau sy’n darparu iechyd neu ofal cymdeithasol, neu mewn cynhyrchion a ddefnyddir ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, rhaid i chi ddilyn y cyngor yn 25 ac yn Arfer meddygol da. 5
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Gwrthdaro rhwng buddiannau, Llundain, CMC
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer Meddygol Da Llundain, CMC.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Os ydych yn gyfrifol am reoli a neilltuo cronfeydd neu adnoddau, rhaid i chi sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio at y dibenion y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio, a bod cyfrif eglur a chywir yn cael eu gwneud ohonynt. Yn ogystal, dylech sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol priodol, gan gynnwys archwiliadau, yn cael eu comisiynu yn ôl yr angen.
Dylech sicrhau bod systemau digonol yn bodoli er mwyn monitro gwybodaeth ariannol a gwybodaeth reoli. Dylech chi a’r rhai yr ydych yn eu rheoli wneud defnydd llawn o’r systemau hyn, gan gynnwys pan fyddwch yn dyfarnu contractau ac yn rheoli rhestrau aros a chynlluniau gwasanaeth.
Rhaid i chi sicrhau bod systemau priodol yn bodoli er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw wrthdaro go iawn rhwng buddiannau, neu wrthdaro ymddangosiadol rhwng buddiannau, yn cael ei reoli mewn ffordd agored, ac yn unol â’r arweiniad yn Nodi a rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau25 ac yn Arfer meddygol da.5
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Gwrthdaro rhwng buddiannau, Llundain, CMC
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer Meddygol Da Llundain, CMC.