Cynnal a gwella safonau gofal
Myfyrio am eich arfer
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Dylech fyfyrio am eich perfformiad, eich gwerthoedd proffesiynol a’ch cyfraniad mewn unrhyw dimau yr ydych yn gweithio ynddynt yn rheolaidd. Dylech ofyn am adborth gan gydweithwyr a chleifion, a bod yn barod i weithredu yn sgil unrhyw adborth o’r fath, gan gynnwys trwy gyfrwng canlyniadau archwiliadau, arfarniadau ac adolygiadau perfformiad (gweler paragraphs 30 - 32), a thrwy gyfrwng cwynion a sylwadau a wneir gan gleifion.
Dylech fod yn gyfarwydd gyda’r broses adolygu perfformiad unigol ym mhob un o’r sefydliadau yr ydych yn gweithio ynddynt.
Rhaid i chi gymryd rhan mewn arfarniadau blynyddol ac mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich arfarniad yn cynnwys eich holl waith, gan gynnwys unrhyw rolau anghlinigol.
Os ydych yn meddu ar drwydded i wneud gwaith meddygol, rhaid i chi gymryd rhan mewn proses ailddilysu.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Gan arwain trwy esiampl, dylech hyrwyddo ac annog diwylliant sy’n caniatáu i’r holl staff gyfrannu a rhoi adborth adeiladol am berfformiad unigolion a thimau. Dylech sicrhau bod systemau mewn grym er mwyn cyflawni hyn.
Sicrhau gofal o safon uchel
Mae adnabod problemau neu faterion o ran perfformiad unigolion, timau neu wasanaethau yn gynnar, yn hanfodol er mwyn helpu i ddiogelu cleifion.
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Rhaid i chi gymryd rhan mewn adolygiadau ac archwiliadau rheolaidd o safonau a pherfformiad unrhyw dîm yr ydych yn gweithio ynddo, gan gymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau.
Dylech fod yn gyfarwydd gyda’r prosesau a’r strwythurau rheoli risg a llywodraethu clinigol o fewn y sefydliadau yr ydych yn gweithio iddynt neu y mae gennych gontract gyda nhw, ynghyd â’u defnydd. Yn ogystal, rhaid i chi ddilyn y weithdrefn yn y man lle’r ydych yn gweithio er mwyn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Mae hyn oherwydd bod nodi digwyddiadau niweidiol neu ddigwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd yn gynnar, yn gallu golygu bod modd delio gyda materion, bod modd cywiro problemau a bod modd dysgu gwersi.
Rhaid i chi ddilyn yr arweiniad yn Arfer meddygol da 5 ac yn Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion, a gweithredu yn eu cylch 4 pan fydd gennych reswm dros gredu bod systemau, polisïau, gweithdrefnau neu gydweithwyr yn rhoi cleifion mewn perygl o ddioddef niwed, neu y gallent fod yn rhoi cleifion mewn perygl o ddioddef niwed.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer Meddygol Da Llundain, CMC.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2012) Mynegi pryderon am ddiogelwch cleifion a gweithredu yn eu cylch Llundain, CMC
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Os oes gennych rôl neu gyfrifoldeb rheoli, rhaid i chi sicrhau bod systemau mewn grym er mwyn rhoi rhybudd cynnar ynghylch unrhyw fethiant, neu fethiant posibl, ym mherfformiad clinigol unigolion neu dimau. Dylai’r rhain gynnwys systemau er mwyn cynnal archwiliadau ac er mwyn ystyried adborth gan gleifion. Rhaid i chi sicrhau bod sylw yn cael ei roi i unrhyw fethiant o’r fath yn gyflym ac mewn ffordd effeithiol.
Os ydych yn rheoli neu’n arwain tîm, dylech sicrhau bod systemau, gan gynnwys systemau archwilio a meincnodi, mewn grym er mwyn monitro, adolygu a gwella ansawdd gwaith y tîm. Rhaid i chi weithio gydag eraill er mwyn casglu a rhannu gwybodaeth am brofiad a chanlyniadau cleifion. Rhaid i chi sicrhau bod y timau yr ydych yn eu rheoli yn cael eu cynorthwyo a’u datblygu mewn ffordd briodol a’u bod yn eglur ynghylch eu hamcanion.
Adolygu perfformiad ac ailddilysu
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Dylech fod yn gyfarwydd gyda’r broses adolygu perfformiad unigol ym mhob un o’r sefydliadau yr ydych yn gweithio ynddynt.
Rhaid i chi gymryd rhan mewn arfarniadau blynyddol ac mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich arfarniad yn cynnwys eich holl waith, gan gynnwys unrhyw rolau anghlinigol.
Os ydych yn meddu ar drwydded i wneud gwaith meddygol, rhaid i chi gymryd rhan mewn proses ailddilysu.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Rhaid i chi sicrhau bod y staff yr ydych yn eu rheoli, gan gynnwys meddygon y maent mewn swyddi sesiynol a swyddi eraill nad ydynt yn rhai hyfforddi, yn cael digon o amser i baratoi ar gyfer eu harfarniadau neu eu hadolygiadau perfformiad, a’u bod yn cael y cyfle i’w cwblhau’n llawn ac mewn pryd.
Rhaid i chi fod yn onest ac yn wrthrychol, gan gadw at egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth pan fyddwch yn arfarnu neu’n asesu perfformiad cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys adegau pan fyddwch yn asesu hyfforddeion yn ystod yr Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP) neu broses gyfatebol arall. Gallai diogelwch cleifion a’r cyhoedd fod mewn perygl os byddwch yn gwneud sylwadau anwir, anghyflawn neu wedi’u gorliwio am gymhwysedd neu brofiad gweithiwr proffesiynol arall.
Dylech gynorthwyo staff yr ydych yn eu rheoli i gwblhau gweithgareddau dysgu a datblygu a nodir gan arfarniadau neu adolygiadau perfformiad.
Os byddwch yn arfarnu neu’n asesu cydweithwyr, dylech sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau priodol. Dylech sicrhau bod unrhyw staff yr ydych yn eu rheoli ac y maent yn cyflawni arfarniadau hefyd, yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i wneud hynny, a’u bod yn cael adborth rheolaidd ynghylch sut y maent yn cyflawni’r rôl hwn.
Os ydych yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau, dylech sicrhau bod proses arfarnu neu adolygu perfformiad priodol yn bodoli, a bod staff yn ei deall ac yn ei dilyn. Yn ogystal, dylech sicrhau bod ffyrdd yn bodoli o ddelio gydag unrhyw broblemau y bydd arfarniadau yn tynnu sylw atynt. Os bydd y broses arfarnu yn cynnwys staff academaidd clinigol, dylech sicrhau ei bod yn dilyn egwyddorion Follett.6
Follett B, Paulson-Ellis M (2001) A review of appraisal, disciplinary and reporting arrangements for senior NHS and university staff with academic and clinical duties Llundain, Adran Addysg a Sgiliau.
Os ydych yn gyfrifol am swyddog o fewn corff dynodedig, bydd gennych gyfrifoldebau ychwanegol fel y nodir yn y rheoliadau perthnasol7 a bydd yn rhaid i chi ystyried unrhyw arweiniad a gynhyrchir gan yr adrannau iechyd8 neu gan eich sefydliad.
Rheoliadau’r Proffesiwn Meddygol (Swyddogion Cyfrifol) 2010 (sy’n cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban) neu Medical Profession (Responsible Officers) Regulations (Northern Ireland) 2010.
Adran Iechyd (Lloegr 2010) The Role of the Responsible Officer - Closing the gap in Medical Regulation - Responsible Officer Guidance (pdf), Adran Iechyd. Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd (2011) Confidence in care: Guidance on the role of responsible officers for doctors and employers (pdf) Belfast, Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd. Adeg argraffu hwn, nid oedd yr adrannau iechyd yng Nghymru a’r Alban wedi cyhoeddi arweiniad ychwanegol.
Bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Rhaid i chi ddiweddaru’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ym mhob maes o fewn eich gwaith, boed hynny mewn lleoliad clinigol neu anghlinigol.
Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r cyfreithiau a’r codau ymarfer statudol sy’n berthnasol i’ch cyfrifoldebau a’ch lleoliad chi9 a’u dilyn, a dylech sicrhau cyngor arbenigol yn ôl yr angen. Rhaid i chi fod yn gyfarwydd gyda’r canllawiau a’r datblygiadau perthnasol sy’n effeithio ar eich gwaith, a’u defnyddio er mwyn eich helpu gyda’ch gwaith.
Er enghraifft, rhaid i chi fod yn gyfarwydd gyda Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Diogelu Data 1998 a deddfwriaeth gyflogaeth berthnasol.
Llywodraethu gwybodaeth
Mae angen i weithwyr meddygol proffesiynol gael gwybodaeth fanwl a hygyrch, a’r wybodaeth ddiweddaraf, er mwyn darparu gofal da a diogel i gleifion. Mae angen i gleifion ddeall sut y bydd gwybodaeth amdanynt yn cael ei chasglu, ei storio a’i defnyddio, a sut y caiff eu cyfrinachedd ei ddiogelu. Mae systemau llywodraethu gwybodaeth da yn gallu helpu i gyflawni hyn a chyfrannu at ddarparu gofal diogel ac o ansawdd uchel. Yn ogystal, gallant ddarparu gwybodaeth werthfawr er mwyn galluogi timau a gwasanaethau i wella ansawdd a diogelwch y gofal a ddarparir ganddynt. Mae gan bob gweithiwr meddygol proffesiynol rôl i’w gyflawni wrth gyfrannu at y systemau hyn.
Pob gweithiwr meddygol proffesiynol
Rhaid i chi gadw cofnodion manwl ac eglur am gleifion, gan ddilyn y cyngor yn Arfer meddygol da.5 Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion anghlinigol yr ydych yn eu cadw, gan gynnwys cofnodion ariannol, yn eglur, yn fanwl ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2024) Arfer Meddygol Da Llundain, CMC.
Rhaid i chi ddilyn yr arweiniad yn Cyfrinachedd ynghylch diogelu gwybodaeth a datgelu gwybodaeth at ddibenion sy’n ymwneud gyda gofal claf neu ddibenion eilaidd.10
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2017) Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifionLlundain, CMC.
Dylech fod yn gyfarwydd gyda’r polisïau a’r gweithdrefnau ynghylch cyfrinachedd, diogelu data a rheoli cofnodion yn y man lle’r ydych yn gweithio, a’u dilyn, a dylech fod yn gwybod ble i gael cyngor am y materion hyn.
Gweithwyr meddygol proffesiynol â chyfrifoldebau ychwanegol
Os ydych yn gyfrifol am reoli cofnodion cleifion neu wybodaeth arall am gleifion, rhaid i chi ddilyn yr arweiniad penodol i reolwyr ynghylch diogelu gwybodaeth, a nodir yn nogfen Cyfrinachedd.11
Cyngor Meddygol Cyffredinol (2017) Cyfrinachedd: arfer da wrth drin gwybodaeth cleifion Llundain, CMC, paragraffau 128 - 130 (Rheoli a chadw cofnodion).
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gofnodion eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys cofnodion ariannol, rheoli neu adnoddau dynol, neu gofnodion sy’n ymwneud gyda chwynion, yn cael eu cadw mewn ffordd ddiogel a’u bod yn eglur, yn fanwl ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn cael eu creu, eu storio, eu trosglwyddo a’u gwaredu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfwriaeth berthnasol arall.