Cychwyn ar hyfforddiant sylfaen
Pwysigrwydd rhannu gwybodaeth
Mae gan addysgwyr ôl-raddedig a meddygon dan hyfforddiant gyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod y wybodaeth gywir yn hysbys am iechyd meddyg.
Gallai peidio â rhannu gwybodaeth gydag addysgwyr ôl-raddedig olygu na fyddant yn gwybod bod angen cymorth ar feddyg dan hyfforddiant. Yn ogystal, gallai beri problemau i feddygon dan hyfforddiant, gan nad ydynt yn cael y cymorth y mae angen iddynt ei gael er mwyn gweithio a hyfforddi yn ddigon cynnar. Mewn rhai achosion, gall arwain at bryderon ynghylch ymddygiad meddyg, pan fo'r ymddygiad yn ymwneud â diffyg cymorth.
Hyfforddiant llai nag amser llawn
Gallai hyfforddiant llai nag amser llawn helpu meddygon anabl. Gall addysgwyr ôl-raddedig hysbysu meddygon anabl o'r posibilrwydd o hyfforddi dan drefniant llai nag amser llawn, a'u cyfeirio at wybodaeth ac arweiniad perthnasol.
Gall unrhyw feddyg dan hyfforddiant t mewn swydd barhaol wneud cais am hyfforddiant llai nag amser llawn. Gellir cyflawni hyfforddiant llai nag amser llawn mewn tair ffordd:
- mewn slot amser llawn
- trwy rannu slot
- fel meddyg ychwanegol. .
50% o'r hyfforddiant amser llawn ddylai fod y ganran isaf ar gyfer meddygon mewn hyfforddiant llai nag amser llawn. Mewn amgylchiadau unigol arbennig, mae gan ddeoniaid ôl-raddedig yr hyblygrwydd i leihau'r gofyniad amser ar gyfer hyfforddiant llai nag amser llawn i lai na 50% o drefniant amser llawn. Fodd bynnag, ni ddylai meddygon dan hyfforddiant gyflawni lleoliad sy'n llai na 50% am gyfnod o dros 12 mis fel arfer. Ni ddylai unrhyw hyfforddai ymgymryd â lleoliad sy'n llai na 20% o leoliad amser llawn (gweler Datganiad safbwynt y GMC: Amodau ar gyfer hyfforddiant llai nag amser llawn, Tachwedd 2017).
Mae'r deon ôl-raddedig yn ystyried ac yn cymeradwyo ceisiadau am swyddi hyfforddiant llai nag amser llawn. Mae o gymorth os bydd meddygon yn dweud wrth eu deoniaeth, tîm lleol GIG Lloegr neu ysgol sylfaen eu bod yn dymuno dilyn hyfforddiant dan drefniant llai nag amser llawn mor gynnar ag y bo modd.
Dim ond ar gyfer cymorth addysgol ar gyfer cais y meddyg am hyfforddiant llai nag amser llawn y mae penderfyniadau a wneir gan y deon ôl-raddedig neu gynrychiolydd enwebedig yn ymwneud â nhw. Bydd cyflogwyr yn gwneud penderfyniad ar wahân am yr agweddau cyflogaeth ar unrhyw gais, gan gynnwys y lleoliad arfaethedig ac unrhyw waith y tu allan i oriau cysylltiedig. Gall hysbysu cyflogwr mor gynnar ag y bo modd o fwriad meddyg i weithio llai nag amser llawn helpu. Gall y gwarcheidwad gweithio diogel ymwneud â'r broses o wneud penderfyniad am hyfforddiant llai nag amser llawn hefyd.
Adleisir y gefnogaeth ar gyfer hyfforddiant llai nag amser llawn yng Nghanllaw Cyfeirio y Rhaglen Sylfaen 2017 (tudalennau 46–50) a'r Canllaw Aur (8fed rhifyn, paragraffau 3.112 - 3.139.