Pontio o ysgol feddygol i hyfforddiant Sylfaen

Tuag at raddio

Yr unig fyfyrwyr meddygol y dylai ysgolion meddygol eu graddio yw’r rhai:

  • sy'n bodloni'r holl ganlyniadau ar gyfer graddedigion, AC
  • y bernir eu bod yn addas i wneud gwaith

Dylid cynnal unrhyw drafodaeth ynghylch ble y gellir lleoli'r myfyriwr a'r hyn y gallent ymdopi ag ef, mor gynnar ag y bo modd, ac yn gynharach na'r flwyddyn astudio olaf ond un. Gall y drafodaeth hon fod yn gyfle i'r myfyriwr fyfyrio am eu cynlluniau gyrfa.

Dylai unrhyw drafodaeth ynghylch addasrwydd myfyriwr i wneud gwaith fod ar wahân i sgyrsiau am gymorth mewn perthynas ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.

Os ydych yn pryderu na all myfyriwr fodloni'r meini prawf oherwydd eu hanabledd neu gyflwr iechyd::

Mae'n arfer da bod ysgolion yn annog unrhyw fyfyrwyr a fu'n ymwneud â gweithdrefnau addasrwydd myfyrwyr i wneud gwaith (am ba reswm bynnag) yn y gorffennol, i wneud cais cynnar am gofrestriad amodol. Diben hyn yw sicrhau y caiff eu cais ei brosesu mewn pryd yn barod er mwyn iddynt gychwyn ar y Rhaglen Sylfaen.

Mae'n arfer da hefyd i fyfyrwyr meddygol gael eu lleoliadau blwyddyn olaf yn yr ardal lle y byddant yn cychwyn eu swydd sylfaen, os yw hyn yn ymarferol bosibl.

Proses trosglwyddo gwybodaeth (TOI)

Mae'r broses Trosglwyddo Gwybodaeth (TOI) yn bodoli er mwyn cyfleu gwybodaeth i'r ysgol sefydledig i sicrhau bod cymorth ac addasiadau rhesymol yn eu lle ar gyfer meddygon sylfaen sy'n dod i mewn

Mae hyn yn digwydd trwy ffurflen TOI, a gaiff ei llenwi gan yr ysgol feddygol a'r myfyriwr, a bydd yr ysgol sefydledig yn ei chael ychydig fisoedd cyn dechrau'r Rhaglen Sylfaen.

Pan fydd myfyrwyr sy'n graddio yn llenwi eu ffurflenni TOI, dywedir wrthynt i: 'ddarparu gwybodaeth ddigonol am natur eich cyflwr neu'ch anabledd er mwyn galluogi'ch ysgol sefydledig i ddeall sut y gallai effeithio arnoch yn eich hyfforddiant clinigol neu'ch gwaith fel meddyg, gan ddeall eich anghenion cymorth'.

Gall yr ysgolion meddygol annog eu myfyrwyr sy'n graddio i gysylltu â'r gwasanaethau iechyd galwedigaethol lle y lleolir eu swydd, neu roi eu caniatâd i'r cyflogwr hysbysu'r gwasanaethau iechyd galwedigaethol.

Pan na ellir gwneud trefniadau cymorth mewn swydd sy'n bodoli eisoes, gall yr ysgol sefydledig a'r deon ôl-raddedig ystyried sefydlu swydd i'r unigolyn, yn unol â chapasiti hyfforddiant, cymeradwyaeth y GMC ac adnoddau.

Fersiwn wedi’i addasu o ganllawiau TOI i ymgeiswyr

Table showing transfer of information guidance timeline

Neilltuo ymlaen llaw trwy gyfrwng proses Amgylchiadau arbennig

Gall ysgolion meddygol annog dysgwyr anabl i ystyried gwneud cais i'r Rhaglen Sylfaen trwy gyfrwng y broses Amgylchiadau Arbennig. Mae hon yn broses ar wahân lle y mae modd neilltuo graddedigion i leoliad penodol ar gyfer eu swydd sylfaen.

Gall swydd mewn ardal ddaearyddol benodol helpu gyda'r gofyniad i fynychu apwyntiadau iechyd neu barhau ar raglen driniaeth, wrth iddynt aros mewn lleoliad cyfarwydd gerllaw rhwydweithiau cymorth.

Dywedodd meddygon anabl wrthym bod hyfforddi mewn amgylchedd cyfarwydd o gymorth oherwydd y gall ymgyfarwyddo ag amgylcheddau GIG newydd fod yn brofiad heriol.

Gall myfyriwr neu raddedig wneud cais am ddarpariaeth neilltuo ymlaen llaw dan bedwar maen prawf, y mae dau ohonynt yn berthnasol i'r rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd:

  • Maen Prawf 3: ‘Mae gan yr ymgeisydd gyflwr meddygol neu anabledd y mae mynychu darpariaeth ddilynol barhaus ar ei gyfer yn y lleoliad penodedig yn ofyniad absoliwt.'
  • Maen Prawf 4: 'Enwebiad i ysgol feddygol dan drefniant neilltuo ymlaen llaw i ysgol sylfaen leol oherwydd amgylchiadau arbennig unigryw'.

Bydd ysgolion sylfaen yn adolygu'r ffurflenni cais amgylchiadau arbennig. Os bydd myfyriwr sy'n graddio neu feddyg dan hyfforddiant yn gwneud cais dan Faen Prawf 3, bydd eu cais yn cynnwys datganiad ategol gan yr unigolyn a gwybodaeth gan iechyd galwedigaethol. Os bydd myfyriwr sy'n graddio neu feddyg dan hyfforddiant yn gwneud cais dan Faen Prawf 4, bydd eu cais yn cynnwys datganiad ategol gan yr unigolyn a gwybodaeth am eu sefyllfa bresennol gan lofnodydd arall (unigolyn proffesiynol sy'n meddu ar statws cydnabyddedig er mwyn cefnogi'r cais).