Cyflwyniad i Croesawu a gwerthfawrogi
Canllawiau cynghorol ydynt, i helpu sefydliadau i ystyried y ffordd orau o gynorthwyo myfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant.
Maent yn disodli Pyrth i'r proffesiynau. Maent yn ailddatgan egwyddorion Pyrth i'r proffesiynau a'u nod yw cynnig cyngor mwy ymarferol ar gyfer yr agweddau dydd-i-ddydd ar addysg a hyfforddiant meddygol.
Nid ydynt yn pennu gofynion, safonau sicrhau ansawdd na pholisïau newydd gan y GMC nac unrhyw rai o'r sefydliadau dan sylw. Mae'r canllawiau’n cyfeirio at ofynion statudol i ysgolion meddygol a sefydliadau sy'n ymwneud â hyfforddiant ôl-raddedig, ac mae'nt yn cynnig awgrymiadau ymarferol i sefydliadau eu hystyried.
Mae ein safonau i feddygon, myfyrwyr meddygol, ac addysg a hyfforddiant meddygol yn cynnig sail i'r canllawiau hyn hefyd. Mae hyn yn golygu y rhoddir y flaenoriaeth bennaf i ddiogelwch cleifion. Mae diogelwch cleifion ac amgylchedd a diwylliant dysgu da sy'n gwerthfawrogi ac yn cynorthwyo dysgwyr ac addysgwyr yn bethau na ellir eu gwahanu.
Diffiniadau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn
Trwy gydol y ddogfen hon, pan fyddwn yn cyfeirio at:
- Ddysgwyr anabl neu feddygon anabl = rydym yn golygu myfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant sydd ag anableddau, gan gynnwys cyflyrau iechyd hirdymor.
- Meddygon dan hyfforddiant = Meddygon dan hyfforddiant yw'r rhai y maent:
- yn yr ail flwyddyn sylfaen
- yn dilyn rhaglen hyfforddiant wedi'i chymeradwyo gan y GMC
- wedi sicrhau penodiad hyfforddiant arbenigol am gyfnod penodol (FTSTA), neu
- wedi sicrhau penodiad locwm ar gyfer hyfforddiant (LAT).
- Cymorth - rydym yn golygu amrediad o fesurau cymorth gan gynnwys addasiadau rhesymol.
- Sefydliadau - rydym yn golygu sefydliadau sy'n gyfrifol am addysgu a hyfforddi myfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant yn y DU.
- Cyflogwyr - rydym yn golygu sefydliadau sy'n cyflogi meddygon dan hyfforddiant.
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?
Gallai'r canllawiau hyn fod yn ddefnyddiol i:
- drefnwyr a darparwyr addysg feddygol
- staff ysgolion meddygol
- deoniaethau a thimau lleol yn GIG Lloegr, y cyfeirir atynt fel sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig
- darparwyr addysg lleol
- cyflogwyr
- cyfadrannau a cholegau brenhinol.
Dylai darparwyr addysg lleol ddarllen y canllawiau hyn er mwyn deall eu rôl wrth gynorthwyo ysgolion meddygol a sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig i gyflawni eu rhwymedigaethau i fyfyrwyr a meddygon dan hyfforddiant yn yr amgylchedd gwaith. Dylent fod yn ymwybodol o'r dewisiadau sydd ar gael er mwyn cynorthwyo myfyrwyr a meddygon dan hyfforddiant hefyd. Dylai cyflogwyr gadw mewn cof y darpariaethau a'r sancsiynau posibl dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac, yng Ngogledd Iwerddon, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 a Special Educational Needs and Disability (Northern Ireland) Order 2005 bob amser.
Yn ogystal, bydd o ddefnydd i unigolion, gan gynnwys myfyrwyr meddygol (darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol) a meddygon sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ac anableddau.
Mawr obeithiwn y bydd pobl sy'n ystyried gwneud cais am le mewn ysgol feddygol, myfyrwyr meddygol a meddygon yn defnyddio'r canllawiau hyn er mwyn deall y cymorth y gallant ddisgwyl ei gael wrth iddynt gael hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig.