Iechyd ac anabledd mewn meddygaeth
Mae'r adran hon yn croesawu pobl anabl ym maes meddygaeth ac yn esbonio diffiniadau cyfreithiol o anabledd ac addasiadau rhesymol.
Prif negeseuon y bennod hon
- Fel y rheoleiddiwr proffesiynol, credwn yn gryf y dylid croesawu pobl anabl i'r proffesiwn, a'u gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ofal cleifion.
- Gall meddygon, fel unrhyw grŵp proffesiynol arall, ddioddef afiechyd neu anabledd. Gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau neu eu gyrfa broffesiynol, neu ymhell cyn y bydd ganddynt ddiddordeb mewn meddygaeth.
- Nid oes unrhyw gyflwr iechyd neu anabledd yn gwahardd unigolyn rhag astudio meddygaeth neu wneud gwaith meddygol yn awtomatig, ar sail y diagnosis.
- Nid yw meddu ar gyflwr iechyd neu anabledd yn bryder ynghylch addasrwydd i wneud gwaith meddygol ynddo'i hun. Byddwn yn ystyried yr effaith y mae cyflwr iechyd yn ei gael ar allu'r unigolyn i wneud gwaith meddygol yn ddiogel, a fydd yn unigryw ym mhob achos.
- Mae myfyrwyr meddygol a meddygon wedi sicrhau gwybodaeth a sgiliau arbenigol. Dylem ddefnyddio a chadw hyn o fewn y proffesiwn gymaint ag y bo modd.
- Mae poblogaeth amrywiol yn cael ei gwasanaethu'n well gan weithlu amrywiol sydd wedi cael profiadau tebyg ac sy'n deall eu hanghenion.
- Yn ôl y gyfraith, caiff anabledd ei ddiffinio fel 'nam sy'n cael effaith sylweddol, hirdymor a niweidiol ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau dydd-i-ddydd arferol'. Mae hyn yn cynnwys amrediad o gyflyrau, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl os ydynt yn bodloni meini prawf y diffiniad.
- Rhaid i sefydliadau wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl, yn unol â deddfwriaeth cydraddoldeb. Mae gwneud addasiadau rhesymol yn golygu gwneud newidiadau i'r ffordd y gwneir pethau er mwyn gwaredu'r rhwystrau y mae unigolion yn eu hwynebu oherwydd eu hanabledd.
Rhaid i sefydliadau ystyried pob cais am addasiad, ond dim ond yr addasiadau sy'n rhesymol y mae ganddynt rwymedigaeth i'w cyflawni.