Iechyd ac anabledd mewn meddygaeth

Pwy sy’n anabl?

Yn y canllawiau hyn, rydym yn sôn am anableddau, gan gynnwys cyflyrau iechyd hirdymor.

Caiff anabledd ei ddiffinio gan y gyfraith yn y DU.

Canolbwyntio ar gymorth

Rydym yn cynnwys gwybodaeth sy'n nodi pwy sy'n anabl, gan fod pobl wedi dweud wrthym yr hoffent weld hynny yn y canllawiau hyn.

Gall penderfynu a gaiff rhywun eu cynnwys o fewn y diffiniad o anabledd fel y darparir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb, fod yn broses hir a chymhleth. Mae unrhyw broses sy'n canolbwyntio ar yr 'hawl' i gael cymorth, yn hytrach na'r dull gorau o gynorthwyo rhywun, yn annhebygol o fodloni ein disgwyliadau o ran cynorthwyo dysgwyr, fel y disgrifir yn Hyrwyddo rhagoriaeth (Saesneg yn unig).

Y diffiniad cyfreithiol o anabledd

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf') (Saesneg yn unig) a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (‘DDA’) yn diffinio unigolyn anabl fel a ganlyn:

  1. ‘Bydd gan unigolyn anabledd os:
    1. oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol, ac
    2. mae'r nam yn cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar allu'r unigolyn i gyflawni gweithgareddau dydd-i-ddydd arferol.'

Mae anabledd yn effeithio ar nifer fawr o bobl. Mae bron i 13.3 miliwn o bobl anabl yn y DU (Saesneg yn unig), sef bron i un o bob pump o'r boblogaeth.

Definition of disability graphic

Ystyried cydrannau’r diffiniad

  • Efallai na fydd modd (neu na fydd angen) categoreiddio cyflwr fel nam corfforol neu feddyliol bob amser. Nid oes angen ystyried achos nam.
  • 'Sylweddol' – mwy na mân neu fychan.
  • 'Hirdymor' – mae effaith nam yn hirdymor:
    • os bydd wedi para am o leiaf 12 mis
    • os yw'n debygol o bara 12 mis arall neu
    • os yw'n debygol o bara am weddill oes yr unigolyn sy'n cael eu heffeithio.

Mae anabledd yn cynnwys sefyllfaoedd pan fydd nam yn stopio cael effaith niweidiol sylweddol ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau dydd-i-ddydd arferol, ond mae'r effaith yn debygol o ddigwydd eto. Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (Saesneg yn unig) yn diffinio ‘gweithgarwch dydd-i-ddydd arferol’.* Nid ywDeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio hyn. Fodd bynnag, mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gyda'r Ddeddf yn cynnig rhywfaint o gyngor (Saesneg yn unig) (tudalennau 34-35).

Rhaid i sefydliadau ystyried yr holl ffactorau uchod wrth benderfynu a yw unigolyn yn anabl. Disgwyliwn i sefydliadau ystyried y mater mewn ffordd agored a chefnogol.

Os ceir unrhyw amheuaeth ynghylch a chaiff unigolyn eu cynnwys, gall sefydliad ddewis canolbwyntio ar nodi addasiadau rhesymol a mesurau cymorth y byddant yn eu cynorthwyo. Os ceir anghydfod ynghylch a yw unigolyn yn dod dan y diffiniad o unigolyn anabl neu beidio, bydd hyn yn fater i lys barn neu dribiwnlys wneud penderfyniad yn ei gylch yn y pen draw.

Beth mae’r diffiniad yn ei gynnwys?

Mae'r diffiniad yn cynnwys amrediad o gyflyrau na fyddant yn amlwg o'i ddarllen yn y lle cyntaf. Nid oes nifer o bobl sy'n cael eu cynnwys o fewn y diffiniad o unigolyn anabl yn disgrifio'u hunain fel rhywun anabl, felly efallai na fyddant yn ystyried gofyn am gymorth neu addasiadau rhesymol.

Er enghraifft, gallai'r diffiniad gynnwys:

  • Cyflyrau cyfnewidiol neu fynych megis arthritis gwynegol, enseffalitis myalgig (ME), syndrom blinder cronig (CFS), fibromyalgia, iselder ac epilepsi, hyd yn oed os nad yw'r unigolyn yn profi unrhyw effeithiau niweidiol.
  • Ystyrir bod pobl sydd â HIV, canser a sglerosis ymledol yn anabl cyn gynted ag y byddant yn cael eu diagnosis.
  • Cyflyrau cynyddol, eraill fel clefyd niwronau motor, nychdod cyhyrol, a ffurfiau dementia.
  • Ystyrir bod gan unigolyn yr ardystiwyd eu bod yn ddall, bod nam difrifol ar eu golwg, bod nam ar eu golwg neu y maent yn rhannol ddall gan offthalmolegydd ymgynghorol, anabledd.
  • Caiff anffurfiad difrifol ei drin fel anabledd.
  • Caiff amrediad o gyflyrau eu trin fel anabledd, ar yr amod y bodlonir y ffactorau eraill o'r diffiniad, o ran cael effaith sylweddol a hirdymor ar y gallu i wneud gweithgareddau dydd-i-ddydd arferol:
    • Namau synhwyraidd, megis y rhai sy'n effeithio ar y golwg neu'r clyw.
    • Cyflyrau hunanimíwn megis erythematosis lwpws systemig (SLE).
    • Cyflyrau ar organau penodol, gan gynnwys cyflyrau resbiradol megis asthma, a chlefydau cardiofasgwlaidd, gan gynnwys thrombosis, strôc a chlefyd y galon.
    • Cyflyrau megis anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
    • Anawsterau dysgu penodol, megis dyslecsia a dyspracsia.
    • Cyflyrau iechyd meddwl gyda symptomau megis gofid, hwyliau isel, pyliau o banig, ffobiâu; anhwylderau bwyta; anhwylderau affeithiol deubegynol; anhwylderau obsesiynol cymhellol; anhwylderau personoliaeth; anhwylder straen wedi trawma, a rhai mathau o ymddygiad hunan-niweidiol
    • Salwch meddwl, megis iselder a sgitsoffrenia.
    • Namau yn deillio o anaf i'r corff, gan gynnwys i'r ymennydd.
  • Bydd rhywun nad ydynt yn anabl mwyach, ond yr oeddent wedi bodloni gofynion y diffiniad yn y gorffennol, yn cael eu cynnwys gan y Ddeddf o hyd (Saesneg yn unig) (er enghraifft, rhywun sy'n cael ysbaid o wellhad o gyflwr cronig).
  • Gallai rhywun sy'n parhau i brofi effeithiau gwanhaol o ganlyniad i driniaeth am anabledd yn y gorffennol gael eu diogelu hefyd (er enghraifft, rhywun sy'n profi effeithiau triniaeth cemotherapi a gafwyd yn flaenorol).

Mae'r arweiniad a baratowyd ar gyfer y Ddeddf a DDA yn nodi nad yw'n gallu cynnig rhestr gyflawn o'r holl gyflyrau sy'n cyfateb ag amhariadau. Ceir eithriadau i'r diffiniad, megis bod yn gaeth i sylwedd neu ddibyniaeth ar sylwedd, neu duedd i gynnau tanau, dwyn, a cham-drin unigolion eraill, y mae modd eu gweld yn yr arweiniad a gyhoeddwyd gyda'r Ddeddf (Saesneg yn unig) (Adran A12, tudalen 11).

Iechyd meddwl ac anabledd

Gellir ystyried bod cyflwr iechyd meddwl yn anabledd yn unol â'r diffiniad. Ond ni ystyrir pob cyflwr iechyd meddwl fel anabledd.

Er mwyn i gyflwr iechyd meddwl gael ei ystyried fel anabledd, rhaid iddo fodloni'r meini prawf yn y diffiniad; cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar weithgarwch dydd-i-ddydd arferol. Rhoddir enghreifftiau yn yr arweiniad a gyhoeddwyd gyda'r Ddeddf.