Iechyd ac anabledd mewn meddygaeth

Addasiadau rhesymol

Yn y canllawiau hyn, rydym yn sôn am addasiadau rhesymol fel rhan o'r cymorth ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant.

Beth yw addasiadau rhesymol?

Y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer sefydliadau addysg feddygol a chyflogwyr yw bod yn rhaid iddynt gymryd camau cadarnhaol i waredu rhwystrau sy'n rhoi unigolion dan anfantais sylweddol oherwydd eu hanabledd. Diben hyn yw sicrhau eu bod yn cael yr un gwasanaethau, i'r graddau ag y bo hyn yn bosibl, â rhywun nad ydynt yn anabl.

Rhaid i sefydliadau newid y ffordd y maent yn gwneud pethau er mwyn ceisio gwaredu rhwystrau neu anfanteision i bobl anabl. Rhaid i sefydliadau wastad ystyried ceisiadau am addasiadau, ond dim ond addasiadau sy'n rhesymol y mae'n rhaid iddynt eu gwneud. Os bydd sefydliad yn ystyried addasiad, ond mae'n penderfynu nad yw'n rhesymol, efallai y bydd yn dymuno ystyried cadw llwybr archwilio sy'n esbonio ei benderfyniad.

Mae’r Ddeddf yn darparu na ddylid byth ofyn i berson anabl dalu am yr addasiadau.

Nesaf yn y gyfres hon o gynnwys: