Pwysigrwydd cynhwysiant mewn meddygaeth
Fel y rheolydd proffesiynol, credwn yn gryf y dylid croesawu pobl anabl i'r proffesiwn ac y dylid gwerthfawrogi eu cyfraniad at ofal cleifion.
Gall meddygon, fel unrhyw grŵp proffesiynol arall, ddioddef afiechyd neu anabledd. Gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau neu eu gyrfa broffesiynol, neu ymhell cyn y bydd ganddynt ddiddordeb mewn meddygaeth.
Gall y rhinweddau sy'n gwneud meddyg da, megis empathi a'r gallu i roi sylw i'r manylion, olygu bod myfyrwyr meddygol a meddygon yn fwy agored i niwed gan straen, gorweithio a phroblemau iechyd eraill (Rheoli eich iechyd).
Mae myfyrwyr meddygol a meddygon wedi sicrhau gwybodaeth a sgiliau arbenigol. Dylem ddefnyddio a chadw hyn o fewn y proffesiwn gymaint ag y bo modd. Os bydd unigolyn yn rhoi'r gorau i'w gyrfa feddygol o ganlyniad i anabledd neu afiechyd hirdymor, lle y gallent fod wedi parhau am nifer o flynyddoedd o gael y cymorth cywir, mae hon yn golled ddrud i'r proffesiwn, ac yn golled y gellir ei hosgoi.
Mae poblogaeth amrywiol yn cael ei gwasanaethu'n well gan weithlu amrywiol sydd wedi cael profiadau tebyg ac sy'n deall eu hanghenion. Yn aml, bydd cleifion yn uniaethu'n fawr gyda gweithwyr meddygol proffesiynol sydd â phrofiad o fyw gydag afiechyd neu anabledd, sy'n gallu cynnig dirnadaeth a sensitifrwydd ynghylch sut y gall diagnosis a gafwyd yn ddiweddar ac amhariad parhaus effeithio ar gleifion. Mae profiad o'r fath yn hynod werthfawr i'r proffesiwn meddygol cyfan, gan ddangos pwysigrwydd denu myfyrwyr anabl, a'u cadw.
Panel 1: Yr hyn y mae pobl anabl yn ei ddwyn i’r proffesiwn
‘Mae gan bob unigolyn bethau i'w cynnig, ac mewn tîm, gallant gyfrannu at ofal rhagorol ar gyfer cleifion. Er enghraifft, gan nad oeddwn yn gallu cerdded mor dda o gwmpas y wardiau a gosod canwlâu ac ati, ymgymerais â'r cyfrifoldeb dros fwyafrif y gweithgarwch rheoli rhyddhau cleifion, rheoli siartiau cyffuriau, llofnodi canlyniadau labordy a thasgau swyddfa cyffredinol. Roedd hyn wedi fy uwchsgilio yn gyflym i gyflawni'r tasgau hyn mewn ffordd effeithiol, gan ryddhau cydweithwyr eraill i sicrhau profiad clinigol mwy cymhleth heb gael baich gweinyddol. Ar y llaw arall, credaf bod fy mhrofiadau fel claf ac fel meddyg wedi gwella fy sgiliau yn y berthynas rhwng meddyg a chlaf, megis mewn clinigau cleifion allanol ac wrth gofnodi hanes.'
'Rydw i'n defnyddio fy mhrofiad o fod yn glaf agored i niwed er mwyn bod yn feddyg gwell. Deallaf pa mor unig a brawychus y mae'r profiad o fod mewn ysbyty yn gallu bod, a sut y gallwch deimlo'n fwy fel rhif gwely nag unigolyn. Gall cael empathi, holi claf am eu pryderon a chyfathrebu da gyflawni cryn dipyn.'
'Mae'n ymddangos bod cleifion yn wirioneddol werthfawrogi fy mod yn feddyg ac yn ddefnyddiwr cadair olwyn, ac mae rhai wedi sôn wrthyf am bryderon iechyd neu anawsterau ymarferol. Maent yn gwybod yn reddfol bod gennyf ddirnadaeth o'u hochr nhw o'r gwely.'
'Fel claf, cefais brofiad uniongyrchol o'r gofal a'r sensitifrwydd sy'n ofynnol ar gyfer meddygaeth, a'i werthfawrogi. Rydw i'n dymuno gallu dychwelyd y gofal hwn a gefais a mwy i'r gwasanaeth gofal iechyd sydd wedi newid fy mywyd i mewn ffordd mor arwyddocaol. Mae fy mhrofiadau personol i fel claf wedi cynnig sylfaen i'm gyrfa feddygol, a byddant yn sicrhau y byddaf yn feddyg gwell.'
Gwneud gwaith meddygol pan fo gennych chi gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd
Mae gan nifer o fyfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd. Felly, mae'n hanfodol bod polisïau mewn grym er mwyn cynorthwyo'r unigolion hyn trwy gydol eu gyrfaoedd.
Mae nifer o fyfyrwyr meddygol sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ac anableddau yn llwyddo i gwblhau eu graddau, gan symud ymlaen i wneud gwaith meddygol. Yn yr un modd, mae nifer o feddygon sy'n datblygu cyflyrau iechyd hirdymor neu anabledd yn ystod eu gyrfaoedd yn parhau i weithio ym maes meddygaeth am nifer o flynyddoedd. Nid oes unrhyw gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn gwahardd unigolyn rhag astudio meddygaeth neu wneud gwaith meddygol yn awtomatig, ar sail y diagnosis.
Ar adegau gallai cyflwr iechyd neu anabledd atal rhywun rhag parhau gyda'u hastudiaethau neu eu gyrfa ym maes meddygaeth. Mae'r achosion hyn yn rhai prin iawn. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys mwy o gyngor ynghylch sut y gall addysgwyr a rheolwyr gynorthwyo myfyrwyr a meddygon sydd mewn sefyllfa o'r fath.
Mae angen i bob myfyriwr meddygol a meddyg, os oes ganddynt gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd neu beidio, fodloni'r cymwyseddau a nodir ar gyfer gwahanol gamau o'u haddysg a'u hyfforddiant. Rhaid i sefydliadau wneud addasiadau rhesymol er mwyn helpu dysgwyr i fodloni'r cymwyseddau sy'n ofynnol ganddynt. Mae ysgolion meddygol yn gyfrifol am drefnu addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr meddygol. Mae cyflogwyr yn gyfrifol am drefnu bod addasiadau rhesymol wedi cael eu gwneud ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yn y gweithle. Mae sefydliadau hyfforddiant ôl-raddedig yn cydweithio'n agos gyda'r cyflogwyr i wneud penderfyniadau ynghylch addasiadau rhesymol er mwyn cynorthwyo meddygon dan hyfforddiant.