Fforwm Cynghori’r DU – Cymru

Cymru

Mae Fforwm Cynghori’r DU – Cymru yn ein helpu i sicrhau bod ein dull rheoleiddio yn ystyried anghenion a nodweddion system gofal iechyd Cymru.

Mae’r fforwm yn cynnig sianel ychwanegol i ymgysylltu â’n partneriaid a grwpiau diddordeb allweddol yn y wlad. Drwy’r fforwm, rydym yn rhannu ac yn trafod safbwyntiau’r cyfnod cynnar ar ddatblygu polisi. Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar flaenoriaethau tymor canolig a thymor hir mewn deialog â’n partneriaid.

Rydym hefyd yn cynnal Fforymau Cynghori’r DU yn yr AlbanGogledd Iwerddon.

Darllenwch ddatganiad o ddiben Fforymau Cynghori’r DU

Beth sydd wedi cael ei drafod? 

Back

Pryd mae’r fforwm nesaf?

Cynhelir y fforwm nesaf ar 2 Hydref 2024.

Pwy sy’n eistedd ar y fforwm?

  • Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru
  • Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru 
  • Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd 
  • Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru 
  • Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd 
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru 
  • Cynrychiolydd y Swyddog Cyfrifol 
  • Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe 
  • Swyddfa Archwilio Cymru 
  • Llywodraeth Cymru 
  • Conffederasiwn GIG Cymru
  • Cyflogwyr GIG Cymru 

Mae gwahoddiad i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill yng Nghymru gyfrannu.