Safonau ar gyfer eich gofal
- Crynodeb
- Safonau ar gyfer eich gofal
- Profiadau gofal iechyd
Safonau ar gyfer eich gofal
Mae’r canllawiau craidd ar y safonau proffesiynol, sef Arfer meddygol da, yn nodi’r safonau sy’n ddisgwyliedig o bob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia. Mae’r rhain yn cynnwys egwyddorion gofal da a sut gallant feithrin partneriaeth effeithiol â chi.
Mae’r canllawiau’n nodi’n glir bod rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia wneud y canlynol:
- eich trin yn deg, heb wahaniaethu
- gweithio gyda chi i wneud penderfyniadau am eich triniaeth a'ch gofal sy'n addas i chi
- parchu eich cyfrinachedd a diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei datgelu’n amhriodol.
Rhaid iddynt beidio â gwneud y canlynol:
- gwrthod mynediad i chi at driniaeth neu wasanaethau priodol oherwydd eu credoau personol (e.e. am eich cyfeiriadedd rhywiol, eich hunaniaeth o ran rhywedd neu eich statws traws)
- mynegi eu credoau personol, gan gynnwys credoau gwleidyddol, crefyddol a moesol, mewn ffordd sy’n debygol o achosi gofid i chi.
Efallai y bydd angen i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ofyn i chi am eich cyfeiriadedd rhywiol, eich hunaniaeth o ran rhywedd neu eich statws traws er mwyn iddyn nhw allu cynnig triniaeth a gofal sy’n benodol i’ch anghenion. Dylent gyfathrebu â chi mewn ffordd anfeirniadol. Dylent hefyd allu dweud wrthych sut y bydd gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio a’i storio.
Dylid trin statws neu hanes rhywedd pobl draws ac anneuaidd â’r un lefel o gyfrinachedd ag unrhyw wybodaeth bersonol sensitif arall. Mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn rhoi hawl gyfreithiol i bobl drawsrywiol gadw eu statws traws yn breifat. Gweler ein tudalennau ar ofal iechyd i bobl draws.