Profiadau gofal iechyd

Profiadau gofal iechyd cleifion LHDTC+

Nod y mwyafrif helaeth o feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yw darparu gofal rhagorol i gleifion LHDTC+. Rydym wedi clywed llawer o straeon cadarnhaol lle maent wedi trin cleifion LHDTC+ yn gynhwysol ac yn sensitif. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gall fod adegau pan na fydd y gofal a ddarperir gan feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

Enghreifftiau cadarnhaol pan fo meddygon wedi trin cleifion LHDTC+ yn gynhwysol ac yn sensitif

Meddyg yn deall y gwahaniaeth rhwng cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd wrth drin claf gwrywaidd a oedd yn hoyw a thraws.

Meddyg yn darparu gofal acíwt yn gofyn i glaf am ei ‘bartner’, heb wneud unrhyw ragdybiaethau ynghylch ei gyfeiriadedd rhywiol.

Meddyg brys yn cynnig galw partner menyw hoyw sy’n ddifrifol wael, heb farnu eu perthynas o gwbl.

Adegau pan nad oedd y gofal a ddarparwyd gan feddyg yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig

Meddyg yn methu â thrin cleifion lesbiaidd neu ddeurywiol yn gywir drwy beidio â chynnig prawf ceg y groth.

Meddyg yn camryweddu claf ar ôl iddynt ddewis datgelu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Meddyg yn gwneud sylwadau sarhaus am gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd claf.

Mae adroddiad iechyd LGBT in Britain gan Stonewall yn cynnwys rhagor o enghreifftiau o brofiadau pobl LHDT o gael mynediad at ofal iechyd. Ac mae ymchwil gan yr LGBT foundation yn asesu anghydraddoldebau iechyd sy’n wynebu cymunedau LHDT ledled y DU.