Beth ddylai meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le?
- Beth ddylai meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le?
- Sut dylwn i gael fy nhrin?
Os yw meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn bryderus am ddiogelwch
Os bydd meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn credu bod risg i ddiogelwch cleifion, rhaid iddo gymryd rhai camau.
- Os yw’n bosibl cywiro’r mater, dylai wneud hynny – er enghraifft, drwy sicrhau bod anghenion sylfaenol y claf yn cael eu diwallu.
- Defnyddio systemau adrodd lleol i roi gwybod am ei bryder.
- Gofyn am gyngor os bydd yn pryderu ei bod yn bosibl nad yw cydweithiwr yn addas i ymarfer. Os yw’n dal i boeni, mae’n bwysig ei fod yn rhoi gwybod am hyn.
Beth gall cleifion ei wneud i gefnogi system gofal iechyd fwy diogel?
Mae pob meddyg, cydymaith meddygol a chydymaith anesthesia yn cael arfarniad i adolygu ei berfformiad ac i ganfod meysydd lle gall ddatblygu ei ymarfer.
O leiaf unwaith bob pum mlynedd, mae meddygon hefyd yn gorfod gofyn am adborth ffurfiol gan eu cleifion. Efallai y bydd cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia hefyd yn gofyn i chi am adborth gennych. Gallwch helpu meddygon ac eraill i wella eu hymarfer drwy lenwi holiaduron yn onest a theg.
Os ydych chi’n gweld unrhyw beth rydych chi’n teimlo allai eich rhoi chi – neu rywun arall – mewn perygl, dywedwch wrth feddyg, cydymaith meddygol, cydymaith anesthesia, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Os ydych chi’n amau eich bod yn cael sgil-effeithiau meddyginiaeth, dywedwch wrth eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia. Bydd yn rhoi gwybod amdanynt drwy’r cynllun cerdyn melyn, gan helpu’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) i fonitro diogelwch pob cynnyrch gofal iechyd yn y DU.
Os ydych chi’n poeni am rywbeth y mae eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wedi’i wneud, gallwch gwyno. Fel arfer, dylech wneud hyn yn lleol – drwy gysylltu â’ch meddygfa neu ysbyty lleol. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb, gallwch fynegi eich pryderon drwy weithdrefnau lleol y GIG neu i sefydliadau cleifion lleol, fel:
- Healthwatch yn Lloegr
- Cyngor Cleifion a Chleientiaid yng Ngogledd Iwerddon
- Y Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt i Gleifion yn yr Alban
- Llais yng nghymru
Os oes gennych bryder difrifol am feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, gallwch ei fynegi wrthym ni.
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’ch gofal
Os aiff pethau o'i le:
- gallwch ddisgwyl i'ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia fod yn agored a gonest gyda chi
- os oes modd unioni pethau, dylai wneud hynny
- p’un a yw eich meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia yn gallu unioni pethau ai peidio, gallwch ddisgwyl iddo ymddiheuro ac esbonio beth ddigwyddodd (nid yw ymddiheuro ynddo'i hun yn golygu bod ei fod yn cyfaddef ei fod yn atebol yn gyfreithiol am yr hyn sydd wedi digwydd).
- gallwch hefyd ddisgwyl i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia roi gwybod am y digwyddiad.
Os oes cwyn am feddyg neu ymchwiliad i feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia
Os bydd pryder yn cael ei godi gyda ni am feddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni asesu a yw’n peri unrhyw risg gyfredol neu barhaus i ddiogelwch y cyhoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy ystyried ei allu cyffredinol i gyflawni ei rôl, ei ymddygiad proffesiynol a phersonol, ac effaith unrhyw gyflwr iechyd ar ei allu i ddarparu gofal diogel i gleifion.
Mae ein hasesiad yn cynnwys edrych a yw meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia wedi gwyro oddi wrth y safonau proffesiynol, ac os felly, i ba raddau y mae wedi gwneud hynny. Nid yw hyn yn golygu y byddai angen i ni weithredu bob amser os nad yw wedi cyrraedd safon broffesiynol. Ar ôl i ni asesu’r risg i ddiogelwch y cyhoedd, bydd angen i ni ystyried a oes angen cymryd camau rheoleiddio i ymateb i’r pryder.
Gallwch ddarllen mwy am y modd yr ydym yn asesu ac yn ymateb i bryderon addasrwydd i ymarfer ar ein tudalennau gwe Esbonio addasrwydd i ymarfer.
Os oes cwyn neu ymchwiliad am ymarfer meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia, gallwch ddisgwyl iddynt yn ymateb yn brydon, yn llawn ac yn onest i gefnogi’r ymchwiliad er mwyn canfod beth ddigwyddodd ac all newidiadau atal hyn rhag digwydd eto.
Rhaid i’ch meddyg, cydymaith meddygol neu gydymaith anesthesia beidio â gadael i gŵyn effeithio ar y gofal neu’r driniaeth y mae’n ei darparu neu’n ei threfnu ar eich cyfer.
Dim ond os yw’r diffyg ymddiriedaeth yn golygu na all barhau i roi gofal clinigol da i chi y dylai ddod â pherthynas broffesiynol â chi i ben.
Nodyn: Mae’r canllawiau hyn wedi cael ei baratoi ar gyfer cleifion – nid yw’n ganllaw ffurfiol i feddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia. Rhaid i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia ddilyn y safonau a’r egwyddorion a nodir yn y safonau proffesiynol.